Robert Roberts ~ 1762-1802
Y gŵr a adwaenid fel y Seraff-Bregethwr
yng nghyfnod pregethwyr mawr Cymru. Fe’i hystyrir
yn un o’r pregethwyr mwyaf a gawsom erioed.
Fe’i ganed pan oedd Daniel Rowland yn hanner
cant oed, Howel Harris yn wyth a deugain a William
Williams, Pantycelyn yn chwech a deugain. Yr oedd saith
mlynedd yn hyn na Thomas Charles o’r Bala.
Dioddefai boenau corfforol difrifol ond pregethai
yn danbaid, yn danllyd ac yn ddramatig.
Cyhoeddwyd dau lyfr yn ei enw:
Etifeddodd lais anghyffredin a meddai ryw nerth goruwchnaturiol.
Fe’i cyffelybwyd i angel.
Adroddai Owen Owens, Cors-y-wlad, amdano’n darllen
ac yn gweddïo mewn angladd ym Mwlchderwin fel
y gellid clywed ei lais tua milltir oddi yno, a dywedai
ei nai, Michael Roberts, mai Robert Roberts oedd y
gweddïwr mwyaf a glywsai erioed. Byddai ei weddïau
cyhoeddus yn fyr a phwrpasol ond treuliai oriau lawer
mewn gweddi ddirgel.
Gelwid am ei wasanaeth ymhell ac agos a bu’n
pregethu ar hyd a lled y wlad a thros y ffin yn Lloegr
yng nghapeli Cymraeg Lerpwl, Manceinion a Llundain,
er bod y teithio yn peri poenau corfforol iddo. Yn
ystod ei ymweliad â Llundain yr ysgrifennodd
gartref gan ddweud mai’r rhyfeddod mwyaf a welsai
yno oedd Pennod 53 o broffwydoliaeth Eseia.
Yn 1793 ymaelododd 80 o bobl â’r Capel
dan ei ddylanwad.
Pan gaewyd y Capel Uchaf (MC), Clynnog yn Rhagfyr
2000 dymuniad yr aelodau oedd cadw’r gadair arbennig
oedd yn "y sêt fawr" yn lleol. Er bod
dau gan mlynedd wedi mynd heibio er pan fu farw ei
pherchennog parheir i’w galw yn "gadair
Robert Roberts" hyd y dydd heddiw. Balch iawn
oeddynt o gael lle teilwng iddi yn yr Eglwys hynafol
hon trwy garedigrwydd Y Canon Idris Thomas.
Crynodeb
Fe’i ganed yn Y Ffridd, Baladeulyn ar Fedi
12 1762 yn un o dri ar ddeg o blant.
Yr oedd yn frawd i’r pregethwr enwog John Roberts,
Llangwm, ac yn ewythr i Michael Roberts, Pwllheli.
Aeth i weithio i chwarel y Cilgwyn pan oedd tua deuddeg
neu dair ar ddeg oed.
Gadawodd y chwarel "a’i chymdeithas lygredig" yn
un ar bymtheg oed ar ôl bod ym Mryn’rodyn
yn gwrando ar bregeth Dafydd Jones, Llan-gan.
Wedyn aeth yn was ffarm i Gefn Pencoed am bum mlynedd
a mynychu ysgol nos ym Mrynengan dan arweiniad Robert
Jones, Rhos-lan. Tua thair neu bedair gwaith y flwyddyn
byddai rhai o aelodau Brynengan a chapeli eraill yn
mynd ar bererindod i Langeitho (Sir Gaerfyrddin) i
glywed Daniel Rowland yn pregethu, a Robert Roberts
yn eu plith.
Daeth yn hwsmon yng Nghoed-cae-du yn ardal Brynengan.
Ond cafodd afiechyd a effeithiodd ar ei gymalau a bu
yn ei wely am naw wythnos. O ganlyniad crebachodd ei
ewynnau, aeth yn gefngrwm a chollodd dair modfedd o’i
daldra. Gorfu iddo roi’r gorau i weithio ar y
tir a bu dan bwysau dioddefaint corfforol am weddill
ei oes.
Cafwyd diwygiad mawr ym Mrynengan tua 1785-6 a daeth
yn drwm dan ei ddylanwad.
Fe briododd tua’r adeg hon. Cafodd fyw yn Ynys
Galed, a oedd yn eiddo i Goed-cae-du. Yno, yn 1787,
yn bump ar hugain oed, yn dad i ddau o blant erbyn
hynny, y dechreuodd bregethu a hefyd gadw ysgol ym
Mrynengan, Capel Uchaf (Clynnog) a lleoedd eraill.
Yn 1794, a’i iechyd yn fregus, cynghorodd Cyfarfod
Misol Arfon ef i roi’r gorau i gadw ysgol ac
ymroi yn llwyr i bregethu. Fe’i hwyluswyd i wneud
hynny trwy ei wahodd i ymgartrefu yn Nhy’r Capel,
Capel Uchaf a gofalu am yr eglwys yno. Yno y bu am
weddill ei oes fer.
Fel Robert Roberts Clynnog y daethpwyd i’w
adnabod o hynny ymlaen.
Bu farw yn Nhy’r Capel, Capel Uchaf ar Dachwedd
28 1802, yn dad i bump o blant, ac fe'i claddwyd ym
mynwent Clynnog - Eglwys Beuno. Bu farw ei wraig Eleanor
yn 1825 yn 69 mlwydd oed.
Llun: Lleoliad
bedd Robert Roberts ym mynwent Clynnog. |