Beuno Sant m. 642?
O Cyff
Beuno gan Eben Fardd, 1863
Beuno oedd sylfaenydd y cyfundeb crefyddol
cyntaf yng Nghlynnog Fawr; ac efe a adeiladodd Goleg,
neu
Fynachlog, yma yn y flwyddyn o oed Crist 616, medd
yr hanesion. Mab oedd St. Beuno i Hywgi ab Gwynlliw
ab Glywis ab Tegid ab Cadell, Arglwydd Glewisig. Yr
oedd yn nai, o fab brawd, i St. Cadog ab Gwynlliw,
neu fel y gelwir ef yn gyffredin, "Cattwg Ddoeth".
Yr oedd hefyd yn gefnder, o du ei fam, i Leudad; yn ôl
rhai, cyntaf; yn ôl eraill, ail Abad Enlli: ac
yn gefnder i Gyndeyrn, sylfaenydd Esgobaeth Llanelwy.
Ei fam oedd Perfferen, merch Llewddyn Luyddog o Ddinas
Eiddin (Edinburgh).
Dywedir fod ei rieni mewn gwth o oedran pan anwyd
ef.
Mae "Chwedl Beuno Sant" fel a ganlyn:
"Ond y gwr pennaf yn y ffydd oedd Cadfan, brenin
Gwynedd, yr hwn a roes i Beuno lawer o dir. Ac wedi
marw Cadfan, aeth Beuno i ymweled â Chadwallon
ei fab, yr hwn a’i dilynodd ym mrenhiniaeth Gwynedd.
A deisyfodd Beuno gael y tir a addawsai Cadfan, oherwydd
nad oedd ganddo yno le i addoli Duw, nag i breswylio
ynddo; yna y brenin a roddes i Beuno le yn Arfon a
elwid Gwaredog; a Beuno a roddes i’r brenin deyrnwialen
aur, yr hon a roddasai Cynan ab Brochwel iddo ef wrth
farw; a’r deyrnwialen hon oedd yn werth triugain
muwch. Ac yno Beuno a adeiladodd Eglwys, ac a ddechreuodd
wneyd mur o’i hamgylch. Ac ar ddyddgwaith, pan
oedd efe yn gwneyd y mur hwn, a’i ddisgyblion
gydag ef, wele, hwy a ganfuant wraig, a baban yn ei
breichiau, yn erfyn ar Beuno fendithio y plentyn. "Aros
ychydig, wraig," ebe Beuno, "nes gorffen
ohonom y gwaith hwn." A’r plentyn a wylodd,
ac ni chymerai ei dawelu; yna y gofynnodd Beuno i'r
wraig, paham yr oedd y plentyn yn wylo? "Sant
da," atebai y wraig, "rheswm da paham." Ebai
Beuno, "beth yw y rheswm hwnnw?" "Beth,
ond mai diammeu fod y tir wyt ti yn ei feddiannu, ac
yn adeiladu arno, yn dreftadaeth y plentyn hwn." Yna
Beuno a erchodd i’w ddisgyblion dynu eu llaw
o’r gwaith, tra y byddai efe yn bedyddio y plentyn,
a pharatoi ohonynt ei gerbyd iddo. "A nyni a awn
gyda’r wraig hon a’i phlentyn i ymweled â’r
brenin, yr hwn a roddes i mi y tir hwn." Yna Beuno
a’i ddisgyblion a gychwynasant gyda’r wraig
a’i phlentyn, ac a ddaethant i Gaer Saint (Caernarfon),
lle yr oedd y brenin. Yna llefarodd Beuno wrth y brenin,
- "Paham y rhoddaist i mi dir gwr arall?" "A
phwy," meddai y brenin, "sydd ganddo hawl
iddo?"
Ebai Beuno wrtho yntau, - "y plentyn sydd ym
mreichiau y wraig acw yw etifedd y tir;" ac, ebai
Beuno drachefn, "dyro i’r plentyn ei dir,
a dyro i mi dir arall yn ei le, neu dyro i mi yn ôl
yr anrheg a roddais i ti, - sef y deyrnwialen." Ond
y brenin balch a gorthrymus a atebodd, "ni newidiaf
y tir; ac am yr anrheg a roddaist i mi, myfi a’i
rhoddais i arall."
A Beuno a ddigiodd yn fawr, ac a ddywedodd
wrth y brenin, - "Mi a weddiaf ar Dduw na byddo gennyt
di, ym mhen ychydig, ddim tir yn y byd;" ac aeth
Beuno ymaith ac a’i gadawodd yn felltigedig.
Yn awr, yr oedd Gwyddeint, cefnder i’r brenin,
yr hwn a ganlynodd ar ôl Beuno, ac a’i
goddiweddodd ef yr ochr arall i Afon Saint, lle yr
oedd Beuno yn eistedd ar garreg wrth lan yr afon; ac
efe a roddes i Dduw a Beuno dros ei enaid ei hun, ac
enaid Cadwallon, ei gefnder, dreflan Celynog am byth,
heb na mâl nac ardreth; ac a wnaeth hawl da o
honi. Ac yno Beuno a wnaeth lawer o wyrthiau, trwy
gymhorth Duw, y rhai ni allai dyn eu rhifo!"
Cofnodir yn y llinellau canlynol o "Englynion
y Clywed", ddywediad o eiddo Beuno Sant, sef:
"A glywaist di a gânt Beuno?
Cân dy Bader a’th Gredo,
Rhag angeu ni thyccia ffo."
‘Yr unig fuchedd a gadwyd ydyw braslun byr yn Gymraeg,
tua 1350, a geir yn "Llyfr Ancr Llanddewi Brefi".’
Ffynhonnell: Y Bywgraffiadur
Cymreig hyd 1940 |