Hanes Dyffryn Nantlle

Clynnog Fawr

 
 
 

Siôn Gwynedd (John Gwynneth) ~ 1490?-1562?

Bu’n Rheithor Eglwys Clynnog.. ‘a chyfrifid ef yn un o gerddorion mwyaf blaenllaw oes y Tuduriaid.’ Mae’n bosibl iddo gael ei garcharu am iddo wrthod troi ei gefn ar yr Hen Ffydd.

O’r Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940:

‘GWYNNETH, JOHN (1490?-1562?), offeiriad Pabyddol a cherddor. Ni wyddys flynyddoedd ei eni a’i farw. Brodor o sir Gaernarfon oedd, mab i David ap Llewelyn ab Ithel, brawd Robert ap Llewelyn ab Ithel, o Gastellmarch, ac y mae’n debyg iddo gael ei addysg yn rhai o’r sefydliadau mynachaidd yn agos i’w gartref, ac oddi yno, trwy help noddwr cyfoethog, llwyddodd i fyned i Rydychen.

Cafodd ei ordeinio a bu’n weinidog yn Cheapside, Llundain, ac yn Luton. Ar yr un pryd daliai, ‘sine cura,’ rheithoriaeth Clynnog Fawr, sir Gaernarfon, i’r hon y cyflwynwyd ef gan Harri VIII. Er iddo gael cryn drafferth cyn ei sefydlu, a’i orfodi i gyngaws ynghylch degymau ac elwau eraill y plwyf, ddwywaith yn y canghellys ac unwaith yn llys y Seren, ymddengys iddo ddal y swydd hon hyd ei farw.

Haedda Gwynneth ei gofio yn fwyaf arbennig am ei gyfraniad i gerddoriaeth yr eglwys. Yn 1531 ‘apeliodd’ yn llwyddiannus am y radd o Mus. Doc., Rhydychen, ac i ategu ei apêl cyflwynodd nifer o gyfansoddiadau cerddorol ar gyfer gwasanaethau’r eglwys. Cynhwyswyd un o’i gyfansoddiadau, sef ‘My love mourneth,’ yn y casgliad o rangannau a gyhoeddodd Wynkyn de Worde yn 1530. Nid oes amheuaeth iddo wneuthur cyfraniad pwysig tuag at wella cerddoriaeth yr eglwys, a chyfrifir ef yn un o gerddorion mwyaf blaenllaw oes y Tuduriaid.

Yr oedd Gwynneth yn weithgar iawn hefyd fel dadleuydd ar ran y Pabyddion. Ysgrifennodd rai llyfrau mewn ateb i lyfrau John Frith, y Protestant enwog a chyfaill Tyndale, yr hwn a ferthyrwyd yn 1530. Dengys ei weithiau cyhoeddedig fod Gwynneth yn meddu ar ddysg eang a’i fod yn ddadleuydd medrus.

Bu fyw ymlaen i deyrnasiad y frenhines Elisabeth, ac y mae’n bosibl iddo gael ei garcharu am wrthod cydffurfio yn ôl Deddf Unffurfiaeth 1559. Y mae’n debyg iddo farw tua’r flwyddyn 1562.

D.N.B.; Hawkins, History of Music; Morley, Plaine and Easie Introduction to Practical Music, 1597; Y Llan, 1936; J. Lloyd Williams, Y Tri Thelynor, 1945; Y Cerddor, 1935; Jnl. Welsh Bibliog. Soc., 1938; E.A. Lewis, An Inventory of the Early Chancery Proceedings concerning Wales, 1937; Edwards, A Catalogue of Star Chamber Proceedings relating to Wales, 1929.’

  Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C Cascading Style Sheets (CSS) Dilys