Tan-y-Bwlch, Capel Uchaf
Hen, hen dŷ bach, bach:
Trefn Lluniau: 1 2
3
Llun
1: Y lle tân
a welir yma. Dwy garreg lefn
sydd
ar y
to a thywyrch
arnynt Llun 2: Ceir cwt bach yn y talcen
Llun 3: Y fynedfa o'r tu allan. Tywyrch
sydd ar y to.
Rhywun neu rywrai bychan oedd yn byw yno!
Byd Natur
O gaeau Tan y Bwlch, ar lethrau Gogleddol Bwlch Mawr,
mae modd gweld yn bell dros Fae Caernarfon a tu hwnt
draw i Sir Fôn. Dyma rai o'r caeau traddodiadol
olaf sydd ar ôl yn Llŷn ac mae'r cloddiau'n
atgoffa rhywun o ddolydd lliwgar y gorffennol. Ar un
adeg byddai'r caeau hyn yn cynnal y teulu lleol a oedd
yn byw ym mwthyn Tan y Bwlch. Bellach mae'n ffynhonnell
blodau gwyllt prin a gwych. Maent bellach yn cael eu
gwarchod diolch i bartneriaeth rhwng Plantlife, yr
elusen sy'n ymgyrchu i ddiogelu planhigion gwyllt,
Shampw Timotei a Chymdeithas Byd Natur Gogledd Cymru.
Yn y caeau uchaf gwelir y Bengaled Benddu, Pys y Ceirw,
Mantell Fair, Tafod y Neidr, Tegeirian y Rhos a'r Tegeirian
Brych. Mae'r Tegeirian Llydanwyrdd yn blodeuo ym mis
Gorffennaf gan lenwi'r awyr a'u haroglau melys, tra
bo'r gwyfyn lludw yn bwydo ar y neithdar llifeirol.
Ar y llethrau is, llaith, gwelir amrywiaeth o redyn,
hesg a phlanhigion eraill sy'n hoff o ddŵr megis
Rhawn y Coed, Fioled y Gors, Ffa'r Gors Teirdalen,
Blodyn y Gog, a Thamaid y Cythraul yn ffynnu. Mae'r
Troellwr Bach a'r Llwydfron yn yr Helyg yma a thraw.
Mae anifeiliaid yn pori ar y caeau rhwng mis Medi
a mis Ebrill bob blwyddyn, felly mae'r planhigion sy'n
tyfu'n gyflym ac yn gryf yn cael eu bwyta ac felly
nid ydynt yn gormesu'r lleill. Medir rhai o'r caeau
sychaf i gael gwair ddiwedd yr haf ac mae hyn yn golygu
bod planhigion yn blodeuo ac yn hadu. Heb wrtaith,
chwynladdwyr a phlaladdwyr mae byd natur y caeau hyn
yn dilyn rhythmau'r tymhorau. Yng nghaeau Tan y Bwlch
y gwelir rhai o'r enghreifftiau olaf o sut mae dulliau
ffarmio traddodiadol a phrosesau naturiol yn cyfuno
i greu enghreifftiau gwych o fyd natur ar ei orau yng
nghefn gwlad.
Mae
Plantlife a Timotei yn bartneriaid mewn ymgyrch i warchod
dolydd sy'n gyfoeth o flodau. Bydd Cymdeithas
Byd Natur Gogledd Cymru'n rheoli'r caeau hyn i ddiogelu
dyfodol Caeau Tan y Bwlch a gofalu amdanynt. Os hoffech
chi gael gwybod mwy am Plantlife, cysylltwch â Chymdeithas
Byd Natur Gogledd Cymru ar 01248 351541.
|