Canolfan Hanes Uwchgwyrfai
yng Nghlynnog Fawr
Diolch i Lywodraeth Cynulliad Cymru mae dau adeilad
hanesyddol wedi eu diogelu yng Nghlynnog a cham cyntaf
cynllun Canolfan Hanes Uwchgwyrfai bellach wedi ei
wireddu. Y ddau adeilad yw’r Ysgoldy (a fu gynt
yn ysgol ragbaratoawl i weinidogion ac a ddatblygodd
o Ysgol enwog Eben Fardd) a Thy’r Capel.
I ddathlu'r cam cyntaf hwn traddodwyd darlith gan
Emlyn Richards ar Fai 12 2004 ar Ysgol yr Ail Gyfle.
Yr oedd y cyfarfod yn llwyddiant ysgubol, Emlyn Richards
ar ei orau, yn hwyliog fel arfer, y Cadeirydd yn feistrolgar,
ac yna ar y diwedd, pawb yn oedi i sgwrsio’n
hamddenol braf y tu allan cyn troi am adref.
Y cam nesaf fydd gwneud cais am arian Amcan Un i adfer
yr adeiladau a sefydlu cynlluniau cyffrous, o drefnu
gweithgareddau i blant yn ystod gwyliau’r Haf
a’r Pasg i ddarparu cylchgrawn llafar i’r
deillion, sefydlu archif ddigidol, gwasanaeth hel achau,
gardd berlysiau, ac yn y blaen.
Sefydlir y Ganolfan ar gyfer hen gwmwd Uwchgwyrfai
ac ychydig bach y tu hwnt – i gynnwys ardal Nefyn
yn y de hyd at y Bontnewydd yn y gogledd a Dyffryn
Nantlle.
Llun: Yr Ysgoldy ar y chwith yna
Afallon a Chapel Ebeneser. Mae Tŷ’r Capel yn rhan o’r Capel ond o’r
golwg yn y llun hwn.
Llun: Tŷ'r
Capel, Clynnog Fawr
Ar ddiwedd y ddarlith uchod apeliodd Geraint Jones,
y Cadeirydd, am luniau a hen lythyrau a phapurau gan
bobl gan fod llawer o ddisgynyddion yn y gorffennol
wedi gwneud coelcerthi o drysorau o’r fath.
Talodd deyrnged i’r diweddar Huw Pritchard
gynt o Gamfa’r Bwth a fu farw’n ddisymwth
ar Fai 8 a chafwyd munud o dawelwch er cof amdano.
Bu Camfa’r Bwth yn llety i nifer fawr o fyfyrwyr
ar hyd y blynyddoedd ac roedd ei fam yn nodedig am
ei charedigrwydd dihafal. Derbyniwyd lluniau o fyfyrwyr
Coleg Clynnog ganddo i’r Ganolfan ac roedd wedi
edrych ymlaen at ddod i arddangos ei gasgliad mawr
o offer gofaint i’r Ganolfan a sgwrsio am ei
waith fel gof yng ngefail y pentref, a hefyd yn Llanaelhaearn,
lle bu gyda’i dad, Evan Pritchard, yn pedoli
ceffylau gwedd y ffermydd cyfagos ac yn gwneud ac yn
trwsio pob mathau o offer. Yr oedd yn 78 mlwydd oed. |