Ysgol Eben Fardd a ddaeth
yn Goleg Clwyd yn Y Rhyl yn 1929
Ysgoldy Ebeneser
Hen ysgol Eben Fardd ydoedd a ddaeth dan nawdd y Methodistiaid
yn 1844 (pan agorwyd Capel Ebeneser). Codwyd yr Ysgoldy
hwn ar ei chyfer yn y cyfnod 1862/3 a bu’n Ysgol
Ragbaratoawl i Weinidogion M.C. hyd at 1929 pan gafodd
ei symud i’r Rhyl a dod yn Goleg Clwyd.
• 1827. Daeth Eben Fardd i gadw ysgol
i Glynnog a hynny yn y rhan o’r Eglwys a elwir
Capel Beuno neu Eglwys Y Bedd.
• 1843. Symudodd Eben Fardd o Eglwys
y Bedd i gadw’r ysgol yn ei gartref. Yno y bu
trwy 1844. Erbyn hynny yr oedd wedi ailymaelodi gyda’r
Methodistiaid.
• Medi 18 1844. Yr oedfa gyntaf yng
Nghapel Ebeneser. Cafodd Eben Fardd ganiatâd i gadw
ei ysgol yn y Capel. (amrywiai’r oedran)
• Hydref 2 1850. Yr Ysgol Genedlaethol
yn agor yng Nghlynnog. Nododd Eben Fardd hyn yn ei
ddyddiadur a phoenai y byddai hynny yn amharu ar ei
fywoliaeth. Cafoddd gynnig bod yn brifathro yno ar
yr amod ei fod yn cymuno yn yr Eglwys ond gwrthododd
ar sail "conscientious scruples of a religious
nature".
• Hydref 7 1850. Gofynnodd Cyfarfod
Misol Arfon iddo barhau i gadw ei ysgol. Codwyd ei
gyflog o £15 i £20. Roedd i ddysgu plant
y Methodistiaid am ddim hefyd i ddysgu ymgeiswyr am
y weinidogaeth. Deuai rhai yno o bell a lletya yn y
pentref.
• Hydref 21 1850. Eben Fardd yn ailagor
yr ysgol (yng Nghapel Ebeneser). Dros 100 o ddisgyblion.
• 1861. Codi Tŷ’r Capel
Yr athrawon eraill
• Chwefror 1863 -
m. Eben Fardd. Yr oedd
Dewi Arfon eisoes yn cadw’r ysgol ac ef a benodwyd
yn athro a hefyd yn weinidog Ebeneser. Ar ei gyfer
ef y codwyd Afallon a’r Ysgoldy. (Mae’r
ddau adeilad dan yr un to).
• 1869 -
m. Dewi Arfon (36 oed). Y Parchedig
Robert Thomas Llanllyfni yn dod yn athro am gyfnod
byr yn ystod gwaeledd Dewi Arfon.
• hyd 1876 -
Y Parchedig John Williams (Caergybi wedyn)
• 1876-1890 -
Y Parchedig John Evans, B.A.
• 1890-1896 -
Y Parchedig Mathias Griffith, M.A.
• 1896-1917 -
Y Parchedig J.H. Lloyd Williams, B.A. (yr athro yng
nghyfnod Syr Ifor Williams)
• 1917-1929 -
Y Parchedig R. Dewi Williams, B.A.
Athrawon cynorthwyol
• 1920-1924 -
Y Parchedig W. Ffowc Evans, BA BD Gweinidog Brynaerau.
• 1924-1929 -
Y Parchedig T. Jones Parry BA BD Ph.D. ("Doc Parry)
Ymysg y myfyrwyr bu:
• R. Silyn Roberts
• Mathonwy Hughes
• Syr Ifor Williams (aros yng Nghamfa’r Bwth)
• J. H. Williams (Canwy)
• Charles Elfyn Hughes.
• Y Parchedig Tom Nefyn Williams
• Y Parchedig R. Bryn Williams (aros yng Nghamfa’r
Bwth)
• Yr Athro Huw Llewelyn Williams
Llun: Ysgoldy
Ebeneser
Y prif bynciau a ddysgid:
• Groeg
• Lladin
• Saesneg
• Hanes
• Cymraeg
• Mathemateg
• Daearyddiaeth
Ysgol Clynnog
Byddai rhai myfyrwyr lleol (yn ffermwyr a siopwyr,
ayb) yn mynychu’r ysgol a byddai’r myfyrwyr
diwinyddol yn pregethu yn y cyffiniau. Fe’i hystyrid
yn ysgol ragbaratoawl i fyfyrwyr ar gyfer Coleg Y Bala.
Niferoedd y disgyblion
Ar ôl y Rhyfel Mawr 1914 -1918 "daeth dylifiad
o ddisgyblion i’r ysgol nes bod yno 50 ar y llyfrau".
t. 63 (YaCh.yMC.)
1928/9 30 o ddisgyblion t. 82 (eto)
Symudwyd i’r Rhyl ym mis Medi 1929 a daeth yn
Goleg Clwyd. "Cyrten a wahanai’r ddau ddosbarth
(y seniors a’r juniors), yn ysgoldy capel Ebeneser,
Clynnog; ond yn awr dyma ystafelloedd i’r dosbarthiadau
fod ar wahân, llyfrgell, ystafell gyffredin i’r
myfyrwyr, a phob hwylustod a hyfrydwch o’n cwmpas." (J.R.
t.85 eto)
Llun: Ysgol Clynnog, 1923-24.
Y
Parchedig R. Dewi Williams sydd yn gwisgo het.
Gwelir
rhan o’r Ysgol ar y chwith, yna Afallon a Chapel
Ebeneser, Clynnog.
Ffynonellau
• Detholion o Ddyddiadur Eben Fardd gol. E.G. Millward,
Gwasg Prifysgol Cymru, 1968.
• Hanes Methodistiaieth Arfon, William Hobley.
• Ysgolion a Cholegau y Methodistiaid Calfinaidd (Y
rhai a gaewyd) Gol. William Morris, Llyfrfa’r
MC, 1973.
• Cyhoeddid enwau’r myfyrwyr a fu’n sefyll
yr arholiadau blynyddol yn Y Goleuad (e.e. Gorff. 21
1926).
• Am droeon trwstan y myfyrwyr gweler Rolant y Teiliwr
ac Ysgrifau Eraill gan Y Parchedig John Owen, M.A.,
Llyfrfa’r M.C., 1926
• Gweler hefyd O Golofn Caleb (Abel Ffowcs Williams),
1963 a chyfrol gynhwysfawr Y Parchedig W.J. Edwards
ar R. Dewi Williams.
|