Hanes Dyffryn Nantlle

Dinas

 
 
 

Eglwys Sant Gwyndaf (Llanwnda)

Eglwys Sant Gwyndaf, Dinas, Llanwnda
Llun: Eglwys Gwyndaf Sant | © 2008 Eric Jones

Yn ôl y sôn, Cysegr Sant Gwyndaf (neu Gwnda) oedd yr arhosfan sanctaidd cyntaf i bererinion ar y ffordd o Gaernarfon i Ynys Enlli. Codwyd yr eglwys gerrig gyntaf rhywbryd yn y 13eg ganrif - cafodd Eglwys Plwyf Llanwnda presennol ei hadeiladu dros ei seiliau croesffurf yn null Normanaidd ar gynllun George Alexander o Lundain yn 1847/8.

[Tad Sant Gwyndaf oedd Emyr Llydaw, un o deulu brenhinol y wlad honno, a sefydlodd fynachdy bychan ar Ynys Enlli yn y 5ed ganrif mewn cydweithrediad ag Einion, a elwir hefyd Engan*, gor-ŵyr i Gunedda Wledig, Brenin Gwynedd (c.386–c. 460) a ddaethai o'r Hen Ogledd sydd yn Yr Alban erbyn hyn). Ond mae llawer yn mynnu mai Sant Cadfan oedd y cyntaf i gysegru clas ar yr ynys.]

* Mae’r enw Engan yn ymddangos mewn nifer o enwau lleodd yn Llŷn.

  Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C Cascading Style Sheets (CSS) Dilys