Hanes Dyffryn Nantlle

Drws y Coed

 
 
 

Cloddio am Gopr yn Nrws y Coed

Nid oes unrhyw wybodaeth sicr pa bryd y dechreuwyd cloddio am gopr yn Nrws y Coed. Mae rhai yn credu fod y Rhufeiniaid wedi bod yn cloddio yno ac mai’r hyn a wneid yr adeg honno oedd gweithio calch poeth i hollt y graig, ei wthio i mewn yn galed ac yna gadael iddo weithio a chwyddo nes torri’r graig. Crêd haneswyr fod yno waith copr cyfoethog yn amser Iorwerth y Cyntaf yn 1284.

Yn y flwyddyn 1756 llwyddodd Richard Yarrington, person Llangybi, i gael prydles gan William Smith perchennog Stad y Faenol i gloddio am gopr ar diroedd Talmignedd, y Ffridd a Drws y Coed.

Yn 1761 daeth dynion o Gernyw a’r Alban i weithio i Simdde’r Dylluan ger Drws y Coed a chawsant lwyddiant yno ac yn y cyfnod tua diwedd y ddeunawfed ganrif a dechrau’r 19eg yr oedd y gwaith yn llewyrchus iawn oherwydd y galw mawr am gopr adeg rhyfeloedd Napoleon yn erbyn Prydain.

Olion yr hen weithfeydd copr
Llun: Olion yr hen weithfeydd copr.

Rhwng 1821 a 1840 cludwyd dros 6 mil o dunelli o fwyn copr mewn llongau o borthladd Caernarfon i Abertawe. Cyn agor y Ffordd Haearn Bach yn 1828 o Nantlle i Gaernarfon, arferid cludo’r copr i Gaernarfon gan ddefnyddio mulod neu ferlod a dilyn yr hen ffordd Rufeinig i Gaernarfon (sef o gyfeiriad Beddgelert heibio i Ryd-ddu, a throi tua’r gorllewin ar ucheldir y Mynyddfawr i gyfeiriad y Fron ac i lawr oddi yno am Bodaden a thros y Foryd i Ddinas Dinlle).

Telir i’r mwynwyr yn ôl y gwaith, sef hyn a hyn y llathen sgwâr am agor y gwaith allan a chaent hyn a hyn y dunnell am godi’r mwyn a’i bris yn amrywio yn ôl ansawdd y wythïen a chanran y metel yn y mwyn. Cyflogid hefyd labrwyr, gofaint, seiri meini a seiri coed yn ôl y galw. Dengys cyfrifon ariannol y gloddfa ganol rhwng diwedd 1829 a 1830 fod gwerth £1,428 o gopr wedi ei godi yn Nrws y Coed, a bod 114 o ddynion a phedwar bachgen yn gweithio yno. Elw da i’r perchennog.

Mae gŵr o Benygroes wedi holi ei ewythr (Peter Roberts) oedd yn gweithio yno yn 1896 ac yntau’n 17 oed. Cofiai 350 yn gweithio yno ar un adeg:

"Roedd yna ddau waith mawr iawn a dau arall tipyn llai. Eu henwau oedd Drws-y-Coed a Simdda’r Dylluan. Enwau’r ddau arall oedd Benallt yn un, a Diffwys Tarw oedd y llall."

Ond ar ôl blynyddoedd o ffyniant lleihau wnaeth y galw am gopr a’r pris yn gostwng. Tua diwedd y ganrif serch hynny gwelwyd peth adfywiad a daeth nifer o fwynwyr yn cynnwys merched ( y Ledis Copr) o Fynydd Parys i weithio i Ddrws y Coed.

Perchnogion y gwaith o 1911 hyd at 1918 oedd y Mining Corporation of Great Britain a chludid y cynnyrch gan ‘steam traction’ i orsaf Talysarn. Nid oes fawr o gofnod amdanynt. Graddol ddod i ben wnaeth y gwaith wedyn ac nid oes bellach ond olion o’r prysurdeb a fu.

Olion yr hen weithfeydd copr
Llun: Llun hyn o'r hen weithfeydd copr.

  Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C Cascading Style Sheets (CSS) Dilys