Dod i’r lan yng
Ngyrn Goch - Llongddrylliad Y Fortuna (Hydref 1927)
Wedi cadarnhau’r trydydd gwelliant ar ddeg i
Gyfansoddiad yr Unol Daleithiau yn 1865, rhyddhawyd
mwyafrif y caethweision. Gwrthododd llawer ohonynt
aros i weithio yng nghaeau siwgr a chotwm taleithiau’r
de ac Ynysoedd India’r Gorllewin. Aeth rhai cannoedd
ohonynt yn ôl i Affrica, ac o’r herwydd,
recriwtiwyd gweithwyr o India a China i ddod i weithio
yn eu lle ar gontract pum mlynedd am gyflog a chludiant.
Gwnâi cwmnïau llongau Prydain arian da wrth
gario’r rhain o India – Cunard yn un. O
1820 ymlaen, datblygwyd llongau stêm, yn enwedig
llongau rhodli y Mississippi a’r Missouri, a
cheid moethusrwydd mawr arnynt. Yn 1819 croesodd y
Savannah Fôr Iwerydd mewn saith niwrnod ar hugain,
ond yr agerlong gyntaf i groesi o Brydain i’r
America oedd llong rodli Brunel, (gyda chymorth hwyliau
hefyd), sef y Great Western.
Llun: Y
Fortuna.
Cant a hanner oedd ar fwrdd y Great Western ar ei
mordaith gyntaf o Fryste i Efrog Newydd – taith
pythefnos. Gyda datblygiad sgriwyriant, daeth teithio
gyda stemars yn rhatach, a gellid arbed tanwydd. Daethant
yn llawer mwy eu maint hefyd erbyn diwedd yr 19 ganrif,
a daeth cystadleuaeth fawr am deithwyr. Ni allai’r
llongau hwylio gystadlu bellach â’r leinars,
ac er pwyslais y teithwyr cyfoethog hyn ar bwer a chyflymder,
daliai’r llongau i gario pobl dlawd a mewnfudwyr
i’r America.
Gwr o’r enw Connell adeiladodd yr Ems, llong
hwylio 1829 tunnell, gyda chorff dur a ddylunwyd ar
gyfer cario gweithwyr o India a China (a elwid yn cwlis
ar y pryd) i gwmni James Nourse. Hwyliai’n rheolaidd
o Galcutta i borthladdoedd fel Dieppe, cyn trosglwyddo’r
teithwyr i liner i groesi’r Iwerydd. Adeiladwyd
yr RMS Titanic ar gyfer dau beth – moethusrwydd
mawr i’r teithwyr cyfoethog, gyda rhannau eraill
dipyn llai moethus i’r mewnfudwyr tlawd. Galwodd
yn Dieppe ar ei mordaith gyntaf anffodus o Southampton
i Efrog Newydd. Arni yr oedd mewnfudwyr o ddwyrain
Ewrop, China, India a’r Lefant. Hwyliai’r
Ems yn syth o India i Efrog Newydd, gan gario glo a
bwyd yn ôl i Galcutta bob tro. Yr oedd cryn gystadleuaeth
rhwng y llongau; yn 1898 bu’r Ems yn rasio’r
clipar gyflym Brenda i Galcutta. Cyrhaeddodd y ddwy
ar yr 2il o Fai – y Brenda 84 niwrnod o’r
Sianel, a’r EMS 87 Niwrnod o Fryste. Ar y 30ain
o Orffennaf 1902 cyrhaeddodd yr Ems Galcutta, 103 niwrnod
o Efrog Newydd, un o’r mordeithiau cyflymaf o’r
America i Galcutta y flwyddyn honno.
Llun: Y rhai a achubwyd,
yng ngerddi gwesty’r
Sant Beuno yng Nglynnog.
Mae Capten Larsen yn eistedd
wrth ochr y wraig yn y ffwr.
Ar ei mordaith cario cwlis olaf, gadawodd yr Ems Galcutta
ar y trydydd o Orffennaf 1908 gan gario mewnfudwyr
dan faner Norwy. Yr oedd yn Dieppe erbyn y 13eg o Hydref
ac fe’i towiwyd i Hamburg lle’r aeth ar
werth. Yn 1909 gwerthwyd hi i gwmni Tonsberg Whaling
a’i hailwerthu drachefn yn 1912 i Sandefjord
a’i haddasu fel llong forfila a chario guano
ar gyfer gwrtaith. Gwerthwyd hi eto yn 1916 i Gwmni
Morfila Argentine, ac ailfedyddwyd hi Y Fortuna. Er
hyn arhosodd ei chapten a’i chriw o Norwy gyda
hi, ac am un mlynedd ar ddeg olaf ei hoes bu’n
teithio’n rheolaidd i Ynysoedd De Georgia dan
y Capten Olaf Larsen. Ar ei ffordd yno, cariai fwyd,
glo a thuniau gwag i gario olew morfil; ac ar y ffordd
adref, olew a guano. Fel arfer, cymerai rhwng 60 a
70 niwrnod o’r Sianel i Dde Georgia, gan wneud
y siwrnai unwaith mewn 57 niwrnod. Yn Hydref 1927 daeth
y Fortuna i’r Afon Merswy gyda 11,400 casgen
o olew morfil, a mawr oedd diddordeb hen longwyr Lerpwl
ynddi. Norwyaid oedd yr holl griw, ar wahân i’r
mêt, oedd o Sweden. Pum niwrnod yn ddiweddarach
daeth y newyddion iddi suddo, ar dân, mewn storm
ger glannau deheuol Iwerddon a bod pump o’r criw
ar goll.
Dyma ddywedodd Capten Larsen yn ddiweddarach:
‘Pan oeddem tua deng milltir i’r de o’r Iwerddon bu
ffrwydriad yn un o’r cabanau, darniwyd y starn, lluchiwyd
y drysau’n agored, gwnaethpwyd twll anferth yn nenfwd
yr ystafell fwyta ac aeth y llong ar dân. Does
gen i ddim syniad beth achosodd y ffrwydriad – cariai
un o’r criw flwch carbeid dan ei gesail, ond hyd yn
oed petai’r blwch wedi syrthio, does bosib y byddai’r
ffrwydriad mor sydyn ac mor anferth. Roedd yn debycach
i fom na dim arall.’
Mae calsiwm carbeid yn gemegyn llosgadwy iawn a ddefnyddid
i greu nwy i lampau asetylen drwy ollwng diferion o
ddŵr yn araf arno, mewn llestr, dan bwysedd. Cedwid
y carbein dan sêl fel arfer mewn tuniau a agorid â chun
a morthwyl, a chedwid y tuniau mewn blychau pren. A
allsai gwreichionyn o’r cun fod wedi rhoi mymryn
o’r asetylen ar dân? A oedd dŵr wedi
mynd i mewn i’r tun carbeid, gan lifo’r
ystafell fwyta ddi-awyr, glos â’r asetylen?
A roddodd gwreichion wedyn y nwy ar dân? Digon
yw dweud y bu ffrwydriad asetylen fawr yn yr ystafell.
Ni allwn ond ceisio dyfalu sut. A chan mai ystafell
fwyta’r morwyr oedd, yna mae’n sicr fod
y tân coginio yn bur agos!
Llun: Cwch
y Fortuna ar y Grafog.
Ar y dec, torrwyd ffêr yr Is-Gapten oedd ar
wyliadwraeth, gan goedyn luchiwyd ato. Pan welwyd nad
oedd yn bosibl diffodd y tân, gollyngwyd dwy
gwch i’r môr er mwyn dianc. Erbyn tua deg
o’r gloch, gwelwyd nad oedd gobaith achub y llong,
gan iddi droi yn y dŵr a dechrau suddo yn y tonnau
cryfion. Aeth un o’r cychod i lawr gyda’r
llong, yn sownd yn ei chamlath o hyd. Boddodd rhai
o’r criw, ond daeth y Capten a’r Is-Gapten
i’r wyneb a chodwyd hwy i’r cwch arall.
Collwyd y steward, bachgen a weithiai yn y gegin, un
decmon a dau longwr arall.
Llun: Y
bobl leol fu o gymorth i’r criw.
O’r chwith:
Robert Hughes, Richard Thomas, Miss Thomas, Mrs Thomas
a William Thomas, o Dyddyn Hen.
Lluchiwyd y cwch, gyda Chapten Larsen ac ugain arall
ynddi, o don i don mewn tywydd ofnadwy drwy’r
nos, y nos Wener honno. Erbyn y pnawn Sadwrn roedd
y cwch wedi ei chwythu ar draws Môr Iwerddon
i’r lan ger Clynnog Fawr. Daeth y criw i’r
lan ar lanfa’r Grafog, dan fferm Tyddyn Hen,
Gyrn Goch, yn y môr egr. Defnyddid glanfa’r
Grafog gan longau’n cario cerrig calch a glo
i’r odyn gerllaw. Wedi bod yn y cwch am ddeunaw
awr, a’u cario dros ddau gant a hanner cilomedr,
o’r Iwerddon i Fae Caernarfon, chwythwyd hwy
i’r lan. Yr oedd dau wedi torri eu coesau a phob
un ohonynt wedi hen ymlâdd. Cawsant groeso gan
drigolion Gyrn Goch a Chlynnog. Arhosodd y criw gyda
Wiliam Roberts a’i deulu yn Nhyddyn Hen, nes
i W.S. Jones, ysrgrifennydd lleol Cymdeithas Llongddrylliad
Morwyr drefnu iddynt fynd adref i Norwy.
gan Dafydd Williams,
Llafar Gwlad Rhif 84, Tud 19-20.
Cyhoeddwyd gan Wasg
Carreg Gwalch |