Hanes Dyffryn Nantlle

Llandwrog

 
 
 

Capel y Bwlan

Gan William Jones: Cyflwyniad i Gymanfa Ganu yng Nghapel y Bwlan ym 1974

Pa le mae'r Bwlan? Cwestiwn a geir yn fynych yw. Capel M.C. yn ardal Llandwrog ydyw. Nid yw nepell o'r ffordd yr elych o Gaernarfon i Bwllheli ar y dde i'r fan y cychwyn mur Plas Glynllifon.

Capel y Bwlan, Llandwrog
Llun: Capel y Bwlan yn Llandwrog

Cwestiwn arall a ofynnir beunydd ydyw beth yw ystyr yr enw? Tybir iddo gael ei gymryd oddi wrth fryncyn gerllaw sydd ar ffurf basged gron a wneid gynt i ddal ŷd. Ceid yr enw yn ogystal ar ysgrepan ledr i gario baich ar gefn. Dyna yn ddiau darddiad enw capel yr ardal. Nid yw yn y pentref ond ychydig y naill du, a'r rheswm am hynny meddir oedd gormes y bendefigaeth.

Mae'r cwmwd yn un a hanes hen iddo, a cheir ynddo flas enwau'r Fabinogi Gymreig, Math fab Mathonwy. Draw i'r chwith o'r addoldy y mae Caer Arianrod, a Dinas Dinlle, lle yr amlygodd Lleu Llaw Gyffes ei fedr i'w fam, a chael ei enw ganddi. I'r dde dros ysgwydd y bryn drachefn y mae olion hen Fynachlog Rhedynog y bu iddi yn ol traddodiad gysylltiad a Mynachlog Ystrad Fflur; o amgylch Rhedynog y mae darn o wlad a elwir o hyd yn 'Dir yr hen lanciau', a'r Hengwrt yntau a rydd flas cyfnod y Mynachlogydd inni.

Nid gwlad llwyni cnau mohoni, gan nad yw'r Traeth ymhell a sŵn y môr ar y feisdon. Bro blodau yw, "bro mill a phwysau, Bro llawn cnwd," a gwenyn yn canu eu cerdd wrth gasglu mêl yng nghoed a gerddi'r Glyn a'r cylch.

Ni wyddis faint o ganu a geid yn y Fynachlog gynt o enau'r hen lanciau, ond gwyddom fod cân a moliant yn draddodiad yn y cylch a chaed prawf o hynny ar Ragfyr 8fed, 1974 pan gafwyd Cymanfa Ganu o dan arweiniad Mr. Richie Thomas y tenor dawnus a melys o Benmachno. Yr oedd yr adeilad yn llawn o gantorion y broydd a ddaeth ynghyd, a chafwyd dros ddwyawr o ganu pêr gan y côr ynghyd ag unawdau gan yr Arweinydd a Mr. Tal Griffith y baswr hamddenol o Lithfaen - chwarelwr a fethodd cledwch y graig a gwywo ei gân. Detholiad o'r Gymanfa honno a geir yn y record hon. Credwn fod y lleisiau, y tonau a'r geiriau cyfoethog a ganwyd mor fyw ar y noson dan sylw yn werth eu cadw mewn cof a chael gwrando drachefn ar adlais o'r Gymanfa mewn hamdden ddifyr.

Llawenydd i mi yw cael ei chyflwyno i chwi, a'i chyfrif yn fraint.

  Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C Cascading Style Sheets (CSS) Dilys