Y Bwytawr Pechodau
Dros Gymru gyfan, a'r Gororau hefyd, fe gafodd y bwytawyr
pechodau rôl amlwg yn nefodau angladdol ond prin
iawn yw'r tystiolaeth ysgrifenedig amdanynt. Yn ystod
y 19fed a'r 20fed ganrif, tueddau'r rhan fwyaf o'n
haneswyr wadu bodolaeth y fath berson. Fel arfer, cafodd
y buddugwyr ysgrifennu’r hanes, gan fynnu bod
hyd yn oed y syniad yn dystiolaeth glir o amwybyddiaeth
y werin bobol. Sut fedrai neb gredu yn y syniad neu
hyd yn oed gymeryd rhan yn y defod yn eu hoes fodern
oleuedig? Yn arbennig, dan ddylanwad yr Ymneilltuwyr,
nid oedd gwrthod yr hen gredodau yn ddigon. Er mwyn
creu delwedd ddelfrydol i'r Cymry yn ôl safonau'r
oes, gwadasant fodolaeth cynifer o'n hen arferiadau
neu'n waeth byth, peidient siarad o gwbl amdanynt (yn
bennaf mewn ymateb i'r awgrymiadau sarhaus a alwyd
yn "Brad y Llyfrau Gleision" roedd hyn: sef
Adroddiadau’r Senedd yn y 1840au a roddodd arolwg
anffafriol iawn am gyflwr Cymru).
Yr oedd gwahanol defodau ym mhob ardal:
Ymhlith y straeon lleol am y Goeden Bechod, ym Mhlwyf
Llanllyfni, arferai teulu'r ymadawedig osod taten neu
cacen oedd newydd ddod o’r popty, ar frest y
corff marw a'i adael nes iddo oeri. Credai'r bobl bod
holl bechodau'r ymadawedig yn cael eu sugno gan y bwyd.
Gosodid y bwyd hwn dan y Goeden Bechod, lle, ym mhen
amser, bwytid i gyd gan y bwytawr pechodau, wrth iddo
gymryd arno holl bechodau'r ymadawedig. Rhoddai'r teulu
ddarn o arian i'r bwytawr pechodau a oedd, fel arfer,
yn ddyn tu hwnt i gymdeithas parchus.
Mewn ardaoedd eraill yng Nghymru a'r Gororau, arferai'r
bwytawr pechodau ddod i dy'r ymadawedig a bwyta'r gacen
a baratowyd ar ei gyfer ger yr arch a derbyn yr arian.
Rhaid oedd iddo wedyn ymadael ar unwaith wrth gael
ei felltithio gan y galarwyr.
Yr oedd yn bwysig dros ben roi bwyd wedi ei wneud
o'r cynhwysion gorau, er mwyn sicrhau fod pob tamaid
yn cael ei fwyta. Felly roedd yr arfer yma yn Llanllyfni
o gynnig taten yn ei chroen yn sicrhau cyfanrwydd y
rhodd a'i gynhwysion melltigedig.
Mae’r arferiad yn parhau, medd rhai...
|