Cloch y Llan
A mi yn sefyll yn y cwrdd,
A'r llyfr emynau yn fy llaw,
Ar hwyrddydd tawel yn y wlad,
Fe ganai Cloch Llanddewi,
Cloch a fu'n canu 'mhell yn ôl,
Yng nghlochdy hen Llanllyfni.
Wele uchod y pennill cyntaf o gerdd allan o “Odlau'r Paith a chaneuon eraill” gan R.J. Jones (1937) yn disgrifio'r hiraeth am Lanllyfni wrth i gloch fu unwaith yng nghlochdy Llanllyfni ganu miloedd o filltiroedd i ffwrdd yn Chebut yn y Wladfa. Mae copi llawn o'r gerdd wedi ei fframio ac i'w gweld ger mynedfa Eglwys St. Rhedyw, Llanllyfni ac yn werth ei darllen.
Mae hi wedi bod yn ddirgelwch i rai ohonom ers blynyddoedd sut, pwy a pha bryd aethpwyd a chloch o Eglwys St. Rhedyw Llanllyfni i Ddolavon yn Chebut.
Er mai gormes yr Eglwys yng Nghymru fu'n un o achosion yr ymfudo cynnar, a gwelwyd tŵf sylweddol yn y nifer o gapeli anghydffurfiol wrth i’r ymfudwyr o Gymru sefydlu eu canolfannau crefyddol hen ar dir newydd, dylid cofio nad Anghydffurfwyr oedd pob un o'r Cymry a ymfudodd i'r Wladfa. Roedd yno garfan fechan o Eglwyswyr, ac yn eu plith bu Edwyn C. Roberts, un o arweinwyr cynnar y Wladfa. Bu’n cynnal cyfarfodydd crefyddol yn ei gartref am flynyddoedd ar ei fferm Bryn Antur, rhwng Rawson a Threlew.
Ymdrechodd Edwyn Roberts yn galed i sicrhau offeiriad ac adeilad pwrpasol ar gyfer ei gyd-Eglwyswyr. Gwnaeth sawl apêl daer at rai o Esgobion Cymru am gymorth crefyddol i'r Eglwyswyr ym Mhatagonia, ond ofer fu'r ymdrechion. Dim ond trwy ymdrech glew Canon Thomas, St Annes Bangor casglwyd swm o arian i gynnal Caplan yn y sefydliad Cymraeg, ac ordeiniwyd Hugh Davies i'r gwaith.
Hugh Ddu o Arfon
Saer coed yn ei waith pob dydd o ardal Nefyn oedd Hugh Davies a gymerai wasanaethau Eglwysig o dro i dro, ond cafodd niwed corfforol difrifol wrth ei waith fel saer, a phenderfynodd gymhwyso ei hun fel Offeiriad llawn amser yn yr Eglwys Anglicanaidd, er mwyn diolch i Dduw am achub ei fywyd.
Yn dilyn ei ordeiniad hwyliodd Hugh Davies am y Wladfa o Lerpwl ym 1883 gyda'i wraig Margaret o Lanfairfechan, a phedwar o'u plant. Y bwriad gwreiddiol oedd iddo aros am bum mlynedd, ond ni ddychwelodd.
Sefydlodd yn ardal Chebut ac adeiladodd Eglwys Llanddewi ger Dolavon, gan gyflawni llawer o'r gwaith a'i ddwylaw ei hun. Agorwyd y drysau ym 1891.
Cyn iddo ymadael a Chymru derbyniodd nifer o roddion oddi wrth Eglwysi Cymru yn gymorth i’w waith, Cist gan un, pulpud gan arall, a Chloch gan Eglwys Llanllyfni. Yn ôl y son roedd Cloch Llanllyfni ymhell dros ddau gan mlwydd oed bryd hynny.
Roedd Hugh Davies yn hen hen daid i’r diweddar Emrys Jones Llanllyfni ac mae gan Gwennan, merch Emrys lawer o luniau a dogfennau yn croniclo hanes y dyn a’i daith ryfeddol. Ymysg y dogfennau mae yno lun o’r Eglwys wreiddiol, gyda rhan helaethaf o’r adeiladwaith o wneuthuriad coed, ond yn rhyfedd digon does dim clochdy ac felly dim cloch! Paham felly na ddefnyddiwyd Cloch Eglwys Llanllyfni?
Bu i Hugh Davies wasanaethu’n ffyddlon hyd ei farw ym 1909, ac fe'i claddwyd yn y Gaiman. Yn ôl y sôn dim ond ei ferch Jane ddaeth yn ôl i Gymru i fyw.
Yn anffodus iawn niweidiwyd yr Eglwys wreiddiol yn ddifrifol mewn corwynt a storm enfawr ym 1909, ble collwyd y to, ac er i deulu Hugh Davies geisio ei hatgyweirio a’i gynnal am amser maith, nid oedd bellach yn ddiogel i gynnal gwasanaethau ac fe'i tynnwyd i lawr ym 1914.
Cyfunodd Hugh Davies ei waith fel offeiriad ag amaethu, a datblygodd i fod yn amaethwr bur llwyddiannus, ac adeiladwyd Eglwys newydd o gerrig cadarn ar ddarn o dir wedi ei gyflwyno i’r Eglwys ganddo cyn ei farw. Gorffennwyd y gwaith ym 1917. Roedd gan yr Eglwys newydd gloch a chlochdy, felly mae'n debyg mai i'r Eglwys yma daeth cloch o glochdy Eglwys St. Rhedyw yn rhodd.
Yn anffodus bu i gyflwr yr Eglwys ddirywio dros amser ac er i deulu Hugh Davies weithio’n galed iawn i’w achub, gwan iawn oedd yr achos. Er ym 1987 penderfynodd Alwyn Cantremis, Archdderwydd Cymru helpu, a rhoddwyd swm o arian oddi wrth yr Eglwys yng Nghymru i gynnal yr achos.
Mae pentre Llanllyfni wedi gefeillio efo Dolavon Patagonia yn ddiweddar, gan fawr obeithio fydd modd cryfhau y berthynas ymhellach yn arbennig ym maes yr iaith a diwylliant, gan fod y gloch a ganai heddiw yn Nolavon bell, yn un a ganai unwaith ym mhentre' Llanllyfni.
O.P. Huws, Ionawr 2017.
|