Hanes Dyffryn Nantlle

Llanllyfni

 
 
 

Fynwent Bara Chaws: Hanes yr Achos

Copi o sgwrs gan Cyng. O.P. Huws i glwb Pensiynwyr Llanllyfni

Erbyn heddiw ychydig iawn o bobol sydd yn sylweddoli fod y darn o dir blêr, wedi ei guddio tu ôl i wal uchel, gyferbyn a Chapel Salem yn Llanllyfni, wedi chwarae rhan bwysig mewn hanes crefydd yn lleol. Dyma leoliad fynwent Bara Chaws. ‘Roedd Capel Ty’lon a’r fynwent yn ganolfan bwysig iawn yn natblygiad y Bedyddwyr Albanaidd yng Ngogledd Cymru.

Adeiladwyd Capel Ty'lon yn 1790 ac adnabuwyd y fynwent yn Fynwent Bara Caws.
Galwyd yr addolwyr yn Fedyddwyr “Bara Caws” a hynny oherwydd yr arferiad o deithio o bell gan ddod a bwyd gyda nhw i Capel i addoli.

Yn ôl cofiant y diweddar John Roberts, Pontllyfni gan y Parch D. Davies (Dewi Eden) a chyhoeddwyd yn 1909 mae o'n datgan “Yr oedd i'r Bedyddwyr Albanaidd achos yn Llanllyfni: eu capel a'u mynwent oedd mewn man hynod gyfleus o'r enw Ty'n lon”. Dyma ddisgrifiad y diweddar Owen Davies Arthog ohono: “Lle bach cyffyrddus iawn, a'i lawr o bridd wedi ei orchuddio efo charped o wellt, gyda phlatiau eirch yn addurno'r waliau.”

Credir fod achos y Bedyddwyr wedi dechrau yn Llanllyfni ym 1787, ac yn ôl y son roedd Capel Ty'n lon yn wreiddiol yn gapel y Bedyddwyr, ond fe ddatblygodd i fod yn fan addoli pwysicach o lawer wedi troi i fod yn Gapel i Fedyddwyr Albanaidd yn dilyn rhwyg enfawr ym 1798.

Cyn diwedd y flwyddyn 1800 'roedd achos y Bedyddwyr wedi ei rannu yma yn Llanllyfni a hefyd trwy'r rhan fwyaf o Ogledd Cymru, a hynny oherwydd yr egwyddorion diwinyddol a arddelwyd gan y Parch John Richard Jones, Ramoth, ym mhlwyf Llanfrothen.

'Roedd y Parch John R. Jones yn ddyn dysgedig iawn, yn hyddysg mewn amrywiol ieithoedd, yn bregethwr ac yn ddiwinydd rhagorol, ac yn bleidiwr di-ildio i ryw osodiadau nad oedd ei oes a'i enwad yn aeddfed i'w dderbyn. Cofleidiodd olyniadau diwinydd Albanaidd o'r enw Andrew McClean.

Dygodd John Jones elfennau anghydfod i mewn i'r Eglwysi, ac ymraniad a rhwygiadau a ddilynodd. Gadawodd John Jones y Bedyddwyr am byth i sefydlu'r “Bedyddwyr Albanaidd yng Ngwynedd” ym 1798 (er mae tystiolaeth i'r Bedyddwyr Albanaidd eisoes fodoli mewn rhai mannau yn y Gogledd ychydig cyn hynny). Erbyn 1807 roedd 350 o aelodau mewn llefydd fel Harlech, Ffestiniog, a chyn belled a Rhosllannerchrugog a Glyn Ceiriog, gyda John Jones yng ngofal y cyfan.

Yn Llanllyfni gorfodwyd y lleiafrif, nad oeddynt yn cytuno gyda'r athroniaeth newydd, ac a lynent wrth ddaliadau'r hen Fedyddwyr i ymadael, gan gwrdd mewn tai ei gilydd am flynyddoedd cyn adeiladu Capel newydd yn agos i'r pentref ar dir yn Felingerrig. Hynny ym 1826 - er fe helaethwyd y Capel yn 1858.

Datblygodd Capel bach Tŷ Lon Llanllyfni yn galon i'r Bedyddwyr Albanaidd ac yn ei anterth deuai'r saint i addoli yno o Harlech, Penrhyndeudraeth, Blaenau Ffestiniog, Trefor, a Chaernarfon. Yn cyrraedd yn y bore arhosant trwy'r dydd, a chaewyd rhan o'r Capel i ffwrdd, er mwyn darparu lle iddynt fwyta. Arferai cyfeillion a chymdogion cyfagos berwi dwr iddynt gael te, gan hefyd ddarparu cyflenwad o lestri addas.

Fe'i gelwid gan eu gelynion yn Sandemaniaid oherwydd y tebygolrwydd yn nifer o'u hymarferion i grefydd Robert Sandeman - nifer sylweddol o flaenoriaid, Cymundeb pob Sabath, y wledd Cariad, y gusan sanctaidd, a golchi traed a.y.b. Ond mi roedd John Jones yn gwadu ac yn gwrthwynebu'r honiad yn ffyrnig, gan ddadlau bod Robert Sandeman yn cefnogi bedyddio plant, a hynny yn gwbl groes i'r Ysgrythur.

'Roedd yr achos yn Nhy' lon Llanllyfni dan ofal Edmwnd Francis, Caernarfon yn wreiddiol. Wedi ei farw bu Humphrey Humphreys yng ngofal yr achos; brodor o Harlech oedd Humphrey, ond symudodd i Gaernarfon. 'Roedd Harlech ac ardaloedd eraill o Feirionydd yn cael eu disgrifio fel Jerwsalem y Bedyddwyr Albanaidd yng Ngogledd Cymru yn y cyfnod hwnnw.

Ond bu farw Humphrey Humphreys yn ddyn lled ifanc, ac fe ddaeth pregethwr ifanc o'r enw John Roberts o Ffestiniog, oedd hefyd yn saer maen, i ofalu am yr Eglwys yn Llanllyfni.
Yn fuan ar ôl iddo symud fe briododd John Roberts gyda Ellen Williams, merch David a Mary Williams, Fferm yr Ynys, Pontllyfni. A dyna mae'n debyg cadarnhau'r cysylltiad rhwng mynwent Bara caws a theulu'r Ynys, gan fod teulu'r Ynys yn aelodau selog yn Nhy'n lon. Ar ôl priodi aeth John Roberts a'i briod i gartrefu yng Nghefnfaes yn, Llanllyfni.

Gwan iawn oedd yr achos yn Nhy'n lon erbyn 1836, ac nid oedd y rhagolygon yn dda.
gan fod yr Eglwys gan y Bedyddwyr Neilltuol yn yr Felingerrig yn blodeuo a chryfhau dan weinidogaeth yr enwog Robert Jones Llanllyfni. Dim ond 16 aelod oedd i achos y Bedyddwyr Albanaidd yn Nhŷ Lon, Llanllyfni erbyn 1836, a'r rheswm am hynny yn ôl John Jones ei hun oedd “Bod eu ffydd yn llawer rhy syml, anghyffyrddus, a hunan wadol i ennill llawer o ddilynwyr”. Doedd y Bedyddwyr Albanaidd dim yn grefydd boblogaidd yng Ngogledd Cymru erbyn hyn.

Erbyn y flwyddyn 1865 dim ond 3 aelod oedd yn aros i addoli yng Nghapel bach Tŷ Lon - Brawd a chwaer - William a Marsli Hughes - (dau onest a Duwiol yn ôl y son) a David Jones, mab i'r Doctor David Thomas Jones, (Doctor Mynydd) yr herbalydd enwog arferai byw yn Hafod Esgob Nebo, neu Mynydd Llanllyfni fel y’i gelwid pryd hynny.

Penderfynodd John Roberts y byddai'n ddoeth i'r Bedyddwyr Albanaidd ymuno a'r Bedyddwyr Neilltuol yn yr Felingerrig, ac fe gafodd gryn feirniadaeth am ei benderfyniad, ond ymuno ddaru nhw, ac aeth yr Eglwys honno o nerth i nerth.

Yn ddiweddarach derbyniodd John Roberts alwad oddi wrth Eglwys y Bedyddwyr yn Capel y Beirdd, a bu'n gweinidogaethu am flynyddoedd cyn symud i Eglwysi yn Llanaelhaearn a Phontllyfni. Yna symudodd o Lanllyfni i fyw yng nghartref ei wraig ar fferm yr Ynys Pontllyfni.

Mae nifer o aelodau Teulu’r Ynys wedi eu claddu yn y fynwent, ac yn glir roedd y teulu wedi chwarae rhan amlwg yng nghrefydd y Bedyddwyr Bara Caws, roedd stori ar led mae nhw oedd yn berchen ar dir y fynwent, ond yn anffodus nid oes tystiolaeth gadarn bod y tir ym meddiant y teulu erbyn heddiw.

Bu farw'r Parch John R. Jones, Ramoth yn 1872. Y gŵr oedd wedi bod mor allweddol wrth sefydlu'r Bedyddwyr Albanaidd yng Ngogledd Cymru ac yn sgil hynny Bedyddwyr bara Caws Llanllyfni.

Cynhaliwyd cyfarfod yn y Groeslon, dydd iau Hydref 19eg 1905, ble cytunwyd yn unfrydol i gasglu addewidion (gyda tharged o £30.00) ar yr amod bod bwrdd yn cael ei sefydlu i ofalu am hen fynwent Tŷ Lon. 'Roedd disgwyl am gefnogaeth sylweddol oddi wrth y teuluoedd hynny oedd ag anwyliaid wedi eu claddu yn y fynwent, er mwyn dod a'r achos i ben mewn modd teilwng. Yr ysgrifennydd yn y cyfarfod hwnnw oedd William Williams, 7 Newbrough Street, Caernarfon. Mae nifer o feddi yn y fynwent gyda chyfeiriad Newbrough Street Caernarfon arnynt.

Yn ôl cofnodion yn y swyddfa cofnodion cyhoeddus yng Nghaernarfon, nid oes un cyfraniad, 'nag addewid wedi ei gofnodi, er i ewyllys yr hen ddoctor mynydd David Thomas Jones, Hafod Esgob, ddatgan fod arian wedi ei adael er mwyn gofalu am y fynwent. Mae copi swyddfa o’i ewyllys, oedd wedi ei brofi ym mis Mehefin 1888, yn darllen “There is a provision whereby the house occupied by the tenant Thomas Jones at Brynsisillt in Llanllyfni at the rent of £3.10 is to be paid to trustees, to be applied for from the time of death in keeping the grave of myself and family, and also the graveyard of Tynlon Baptist Chapel Llanllyfni aforesaid in good repair”.
Does neb yn gwybod i ble yr aeth yr arian hwnnw, a hyd heddiw ni all neb ddeud i sicrwydd pwy yw perchennog y fynwent.

Sefydlwyd achos yr Annibynwyr yn Llanllyfni gyda chymorth Y Parch. William Ambrose o Borthmadog, a 'roedd aelodau cyntaf yr Annibynwyr a chytundeb i ddefnyddio Capel y Bedyddwyr yn y Felingerrig, ar yr amod bod y ddau gorff yn cyd-addoli pob rhyw fis neu ddau.

Cyflwynwyd y bregeth gyntaf 12fed o Chwefror 1868 gan y Parch. John Davies, Nasareth.
Yn 1870 penderfynodd yr Annibynwyr i adeiladu Capel eu hunain yn Llanllyfni ac agorwyd Capel Moreia yn swyddogol yn 1871.

O.P. Huws 07.05.2009

  Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C Cascading Style Sheets (CSS) Dilys