Hanes Dyffryn Nantlle

Llanllyfni

 
 
 

Y Plygain

O Atgofion Catherine Parry, Llanllyfni, 1989

Arferwn fynd i Eglwys Sant Rhedyw erbyn chwech o'r gloch y bore i wasanaeth y Plygain, ond yn 1970 daeth i fod am saith o'r gloch. Gwasanaeth eglwysig i'r plwyf cyfan - y tair eglwys, Llanllyfni, Penygroes a Thalysarn yn uno i ganu carolau; y gynulleidfa yn canu bob yn ail â’r unawdwyr, deuawdwyr neu bartion, ac ambell i fab neu ferch yn darllen rhan o'r Ysgrythur Lân. Tymor Tangnefedd ac Ewyllys Da. Mae y gair ‘Plygain' ei hun yn deillio o'r gair Lladin, Pullicantus, sef caniad y ceiliog ar doriad y dydd.

Mae cyrchu i Eglwys y Plwyf yn Llanllyfni ar fore'r Nadolig i wasanaeth y Plygain yn hen arferiad. Mentraf ddweud wedi holi rhai o drigolion hynaf yr Eglwys (a neb yn gallu rhoi atebiad pendant) a gwneud ychydig rifyddeg, ei fod tua dau gant oed. Un o nodweddion arbennig Llanllyfni yw'r traddodiad parhaol hwn. Mae'r bedwaredd genhedlaeth o deulu John Parry, y clochydd, a oedd yn cadw Tafarn y Bermo, yn dal i gadw'r traddodiad yn fyw. Byddai dau fab iddo, Pitar a Henry Richard Parry (yr olaf wedi ein gadael yn 1952) yn meddu ar leisiau swynol, fel yr oll o'r teulu. Byddent yn canu deuawd, y naill yn canu tenor a'r llall yn canu'r alaw, a phawb yn mwynhau gwrando amynt, yn arbennig yn canu 'Carol y BIwch', ac yn hollol naturiol mae ei ddwy ferch wedi cael rhoi y ddwy linell olaf o un o res hir o benillion sydd yn 'Carol y BIwch' ar garreg fedd eu tad, Henry Richard Parry, ym mynwent Gorffwysfa, Llanllyfni. Cefais eu caniatad i godi'r ddwy linell, a dyma hwy:

'Mae'r bedd yn dy goleu mae'r lamp yn y gell,
I’r saint i ail wisgo cyn mynd i le gwell.'

A dyna Huw a Harri Parry, Liverpool House, dau gefnder i fy nhad, ond dim perthynas â theulu'r Bermo. Cofiaf hwy pan oeddwn yn blentyn yn canu 'Carol y BIwch' a'm hewyrth Harri yn dobio llawr yr Eglwys efo'i ffon i gadw amser. (Roedd D'ewyrth Harri yn defnyddio'i ffon am ei fod yn gloff - crydcymalau arno.) Canu yn ddigyfeiliant fyddai'r drefn adeg hynny, a'r Eglwys yn orlawn o bobl.

Hir y parhao y canu arbennig, a'r amser arbennig, sef canu carolau ar fore'r Nadolig yn Eglwys Llanllyfni. Mae'n anodd dychmygu am un dull gwell o ddechrau dathlu'r Ŵyl.

Carwn ychwanegu fod Maldwyn Parry, yr enillydd cenedlaethol hysbys, yn wyr i'r dywededig John Parry, Clochydd. Ef yn cadw traddodiad y teulu yn fyw, trwy arwain a hyfforddi partion ar gyfer gwasanaeth y Plygain bob blwyddyn. Ef hefyd yw organydd Eglwys Sant Rhedyw, ac yn weithgar iawn gyda chaniadaeth y cysegr yno.

  Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C Cascading Style Sheets (CSS) Dilys