Atgofion am y Baracs
a Siopau Nantlle, gan Thomas Alun Williams
Pleser mawr i mi, fel un sydd wedi ei eni a’i
fagu ym mhentref Nantlle, oedd canfod llun o’r
Baracs ar eu newydd wedd yn rhifyn Mai 2004 o Lleu.
Cymeraf y cyfle hwn i wireddu un ffaith, sef fy mod
wedi gweithio am bedair blynedd yn Chwarel Penyrorsedd
cyn cael galwad i’r gad yn 1940, ac yn ddiweddarach
ailgychwyn taith bywyd yn fy hen gartref ar ôl
fy ymddeoliad yn 1977 o Ysgol Gyfun John Bright, Llandudno,
fel athro celf a chrefft a gwaith metel.
Erbyn heddiw, credaf mai myfi yw’r unig ddyn
yn byw yn Nantlle ac yn nesau at 90 oed, sydd wedi
cael y fraint o gydweithio a’m hen gyfoedion
yn chwarel Penyrorsedd.
Daw 'oriau bore bywyd' yn felys iawn i’m cof
am y cyfnod pan nad oedd ond un Saesnes yn byw yn Nantlle,
sef Mrs Evan William Evans, gwraig diweddar 'store-keeper'
y chwarel. Bellach daeth llawer tro ar fyd, 'mae cenhedlaeth
wedi mynd, a chenhedlaeth wedi dod,' ysywaeth, gyda
llanw o estroniaid; ac erbyn heddiw mae pentref Nantlle
wedi ei Seisnigeiddio, fel llawer pentref arall yn
y Dyffryn, a rhamant yr hen chwarelwyr wedi diflannu
a darfod; ond mae ysbryd Lleu yn parhau yma o hyd ymysg
disgynyddion a gwehelyth yr hen gyndadau, ac mi rydym
yn ddyledus iddynt am gadw fflam yr achos crefyddol
yn fyw.
Rhaid dychwelyd at hanes y Baracs, ac os yw rhywun
yn berchen ar fy llyfr 'Atgofion Uncle Tomos', rwyf
wedi sôn am drigolion y Baracs eisoes.
Codwyd y Baracs ar ddarn o dir oedd yn perthyn i iard
ffarm yr hen Dŷ Mawr. Cyfeirid at y lle fel 'Baracs
yr Iard' ers talwm: roedd yn eiddo i Ystad Kinmel,
ynghyd â chwmni chwarel Penyrorsedd.
Yn y fangre hon y gwersyllodd Iorwerth Iaf, ystablu
ei feirch, a chynnal ei dwrnameint ar y dolydd gwastad
ger y ddau lyn, cyn bod sôn am chwareli Dyffryn
Nantlle.
Roedd pum tŷ bychan yn perthyn i Resdai y Baracs,
ac yn eu cefnau roedd ystablau a beudái ffarm
Tŷ Mawr, heibio iddynt roedd ffordd bach Tŷ Mawr
yn arwain o’r ffordd bost i ffarm Y Ffridd Baladeulyn,
ac yn ymestyn fel llwybr troed cyhoeddus drwy iard
Y Ffridd hyd yr ochr ddeheuol i Lyn Uchaf Nantlle,
ac ymlaen drwy iard ffarm Talymignedd Isaf i Ddrws-y-Coed
a Gwaith Copr a Phlwm Y Benallt.
Yn Rhif 2 Y Baracs cofiaf deulu John Jones Y Crydd
yn byw, sef hen gartref Mrs Lilian Eddy a’i brodyr,
Llewelyn a Roland Jones, ac yn ystod blwyddyn cadoediad
1918 dychwelodd Mrs Eddy a’i phlant, Nellie a
Harry, o Gernyw i fyw am gyfnod byr, nes symud i Rif
5 Rhesdai Baladeulyn. Cefais fy nghydfagu gyda’r
plant a chanlyn meithrinfa addysg elfennol yn Ysgol
Nantlle, ac, wrth gwrs, ar fronnau Ysgol Sul Baladeulyn
lle’m derbyniwyd yn gyflawn aelod yn yr Eglwys
M.C. yno, 75 mlynedd yn ôl.
Yn Rhif 3 Y Baracs roedd John Jones Y Bugail yn byw
gyda’i adar bach amrywiol, mewn cewyll cymwys
a diddos ar y pared ger y simdde, ar wahân i’r
nicos, y caneris a’r llinos. Roedd gwely wrth
y pentan i’w ddaeargast fach, Nel, 'black and
tan'; roedd yn amddifad o ddant neu ddau yn ei henoed
oherwydd llawer o ymrysfa efo aml i lwynog wrth iddi
hela efo Wil Y Ffridd a Dei Pen-ddol. Pan ddeuai’r
bardd G.W. Francis heibio i’r Baracs a gweld
Nel yn ymborthi ger y drws ar ysbarion cinio dydd Sul
yr Hen Fugail, fe gyfansoddodd yn y fan y cwpled, 'Duw
Annwyl, nid daioni, rhoi 'roast beef' i’r ast
bach'. Lawer tro y cofiaf y Bugail yn cyfarch rhywun
drwy ddweud 'Helo, deulu bach', pe na byddai dim ond
un person yno; ond cawsom lawer i chwe cheiniog ganddo
am redeg i Siop Y Felin i ymofyn tybaco siag, iddo
gael mwynhau ei getyn pridd, gan roddi ei bwys ar y
wal o flaen ei dŷ a syllu tua’r mynyddoedd.
Rhif 4 Y Baracs. Dyma gartref diwedd oes Ann Roberts,
'Nantw', cymeriad diddorol dros ben, roedd hi’n
chwaer i Jane Jones, Corn Mawr, sef gwraig hen arweinydd
Band Deulyn, wedi i William Darby a’r teulu ymfudo
i Seland Newydd yn 1881.
Gan fod nam ar law chwith Nantw fe wisgai ddarn o
hosan wlanog i’w gorchuddio, roedd yn enwog iawn
am ei gallu i grasu bara ceirch ar y radell ar y pentan,
a hefyd gallai wau a gwnïo a chynnal ei hun mewn
gwaith tŷ; ond roedd iddi un gwendid, roedd yn
arferiad ganddi sefyll ar ben-drws Rhif 3 Rhesdai Nantlle,
cyn symud i’r Baracs, rêl 'busy body' ar
lafar gwlad. Nid oedd Nantw am golli dim a ddigwyddai
yn y ffordd fawr, ac un tro, pan oedd Josi’r
Gof yn cerdded heibio i’w thy am gyfeiriad Talysarn,
gwelodd Nantw ar bwys y drws a gofynnodd iddi:
'Welsoch chi fochyn yn pasio yma, Ann Robaits?'
'Naddo wir', 'Josaph Jones', meddai, ac atebodd Joseph:
'Wel ar i blydi pen i chi, Ann Robaits, phasiodd o ddim ynteu.'
Rhif 5 Y Baracs. Roedd gennyf gof byr am yr Hen Wmffras,
roedd ganddo lediaith Canolbarth Cymru, ac yn gweithio
yn y 'machine' pwyso llechi, ar waelod Inclên
Y Stablau, yn chwarel Penyrorsedd. Roedd ganddo gwch
ar Lyn Nantlle Uchaf i bysgota, a phan fyddai’n
arfer mynd i bysgota, fe ddywedai ei fod yn mynd i
roi’r 'bad yn dŵr'. Cafodd y pleser o bardneriaeth
Josi’r Gof wrth fynd a dod i Dalysarn i dorri
ei syched ar nos Wener tâl, ac wrth i’r
ddau ddychwelyd fraich ym mraich ar noson rewllyd oer
i Nantlle, pan oeddynt ar ben Allt Temperance, lle
roedd cafnau dŵr, yn arwain uwchben y ffordd o
ffarm Pen-y-Bryn i Chwarel Dorothea, roedd dafnau dŵr
o’r cafnau wedi rhewi ar y ffordd ar noson dywyll,
ac yn sydyn cwympodd Wmffras ar ei bengliniau a throi
at Joseph gan ddweud:
'Pam ddiawl na fuaset ti wedi dweud bod yma rew tew?'
ac ar amrantiad atebodd Joseph:
'Pam ddiawl na fuaset ti wedi deud dy fod yn mynd i syrthio!'
Y Siopau
Yn gynnar yn nauddegau'r ugeinfed ganrif, fe agorwyd
siop yn Rhif 12 y Baracs ar ôl i deulu John Jones
y Crydd ymadael. Ei pherchennog oedd William John Jones
mab di-briod William G Jones, Corn Mawr, ac enw'r siop
oedd American Stores oherwydd fod ei frawd
yng nghyfraith William Morris Jones, alias 'Moi Yankee'
yn adnabyddus i'w gydweithwyr ar ôl iddo ddychwelyd
o'r America i weithio yn y chwarel. Roedd y chwarelwyr
yn nodedig am las enwau.
Y siop gyntaf i mi ei chofio yn fy mhlentyndod oedd
Siop Anne Henderson yn 1-2 Rhesdai Nantlle. Cymeriad
unigryw a ffraeth ei thafod, hi hefyd oedd bydwraig
y pentref a daeth a llawer plentyn i'r byd yn ystod
ei hoes! Roedd Anne Henderson yn enwog am ei dawn o
goginio cacennau amrywiol a llawer tro pan oeddwn yn
blentyn bach yn ystod y rhyfel byd cyntaf, byddwn yn
mynd i Siop Anne Henderson hefo dimai neu geiniog yn
fy llaw i brynu teisen bwdin, tafell o deisen afal,
llus, cyraints duon neu fwyar duon ayb. Roedd hi hefyd
yn enwog am ei 'lemonade' a'i diod dail (dandelion
and burdock). Roedd Jack ei mab yn gweithio yn y chwarel
ac roedd hi yn cadw lletywr o Sais o'r enw Laurence.
Roedd hwn yn gweithio yn y chwarel ar oriau gwahanol
i Jack (fe elwid yr oriau hyn yn 'stemio') ac roedd
Jack yn dechrau am 8 o'r gloch y bore tan bump a Laurence
am 12 o'r gloch tan 8 y nos. Meddai'r hen wraig wrth
Jack pan yn gadael y tŷ yn y bore:
"fedrai byth gofio enw'r lodjiwr yma Jack
er mwyn ei godi at hanner dydd".
"Wel cofiwch orens mam" meddai Jack.
Daeth yn 11.30 ac yn amser i alw ar Laurence i godi o'i wely a'r hen Anne
yn dechrau mynd i banics. Aeth at droed y grisiau a gwaeddi - "Cod y lemon diawl!"
Rwyn siwr fod Laurence wedi codi ar frys pan glywodd
yr hen wraig yn gwaeddi'n groch! Wedi marw Anne Henderson, fe gymerwyd y siop drosodd
am gyfnod byr gan ddau frawd, sef Robert Hughes Jones
ac Evan Jones o Dalymignedd Isaf. Roedd R H Jones wedi
ei brentisio'n siopwr ym Mhentrefoelas cyn ei alw i
ymuno â'r fyddin yn y Rhyfel Cyntaf. Yn y cyfamser
aeth Siop-y Felin yn wag ar ôl ymddeoliad John
Morris Griffith, blaenor a thrysorydd Eglwys MC Baladeulyn
am flynyddoedd. Priodi wnaeth John Morris Griffith
a symud i fyw i Roslan a chollodd y pentref a'r eglwys ŵr
oedd yn boblogaidd a mawr ei barch tra bu yn Siop y
Felin. Roedd becws Y Felin yn boblogaidd hefyd a deuai
gwragedd Rhesdai Nantlle â'u toes yno i'w bobi'n
fara. Joni'r Felin fyddai'n cario'r nwyddau allan hefo'r
gert a'r ferlen hyd yn oed i bentref Drws y Coed. Bu
cyfnod llewyrchus am rai blynyddoedd ar Siop y Felin
ac yno y dechreuodd R Hughes Jones fusnes tacsi cyntaf
yn Nantlle hefo'i Fordyn, wedyn yr 'Overland', ac Evan
ei frawd oedd y gyrrwr nes gwahanodd y ddau ar ôl
iddynt briodi.
Dechreuodd Beatrice Roberts fusnes cigydd yn hen Siop
Anne Henderson ar ôl i R H Jones fynd i'r Felin.
Merch Evan Jones Butcher Talysarn oedd hi ond ni fu
fawr lewyrch ar y siop gig gan fod cigyddion eraill
yn dod yn eu cerbydau o bentrefi cyfagos i werthu cig
wrth y drysau i deuluoedd y pentref.
Yn 1926 agorwyd ffordd newydd rhwng Nantlle a Thalysarn
a daeth trafnidiaeth yn ôl i'r pentref. Da oedd
gweld bwsiau Jim Jones a Mrs Evans, Leod, Caernarfon
yn cario teithwyr unwaith yn rhagor. Bu farw trigolion
y Baracs ond roedd y American Stores yn dal mewn busnes
a daeth Griff Pritchard y 'Crydd Bach' i gynnal ei
weithdy yn Rhif 3 Y Baracs, hen gartref John Jones
Bugail. Un yn hanu o Fethesda oedd Griff ac yn anabl
oherwydd ei droes 'clwb' a gwisgai esgid bwrpasol am
ei droed chwith. Lletyodd ym Mhenygroes a marchogaeth
ei feic ar bob tywydd at ei waith a chafodd dderbyniad
croesawus iawn yn enwedig gan y llanciau ifanc. Diddorol
oedd ei weld yn gallu gyrru ei feic gan roddi mwy o
bwysau ar ei goes dde a chlymu cortyn dros ei esgid
drom i badlen ei feic a'i chodi yn ôl a blaen
drwy gymorth y cortyn. Roedd hyn yn golygu cryn ymdrech
iddo reidio ei feic os byddai'r gwynt yn ei erbyn.
Roedd yn gymeriad poblogaidd, awyddus a siriol a byddem
yn cyrchu i'w weithdy yn yr hwyrnos, yn enwedig ym
misoedd oer y gaeaf ac yntau yn dal i golbio'r esgidiau
i'w gwsmeriaid. Wedi iddo gwblhau ei lafur am y diwrnod
byddai'n ymuno â ni i chwarae cardiau, lluchio
'rings' at y bwrdd bachau ar y wal, chwarae draffts
a 'tidli wincs'. Byddai'n trwsio a phwytho ein pêl
droed yn aml ac yn gosod styds ar ein esgidiau pêl
droed yn rhad ac am ddim. Un noson daeth un o'r bechgyn
a phâr o fenyg bocsio i'r gweithdy a bu gryn
hwyl a miri yn ystod y paffio a'r 'Crydd Bach' yn ymuno
i mewn yn yr hwyl gan hopian ar ei untroed. Nid oedd
mynediad i'r genethod i'r fangre dim ond pan oedd angen
gwadnu neu sodlu esgidiau a hwyrach fod rhyw gymaint
bach o eiddigedd yn codi eu gwrychyn. Daeth cwyn i
glustiau blaenoriaid y sêt fawr ac o ganlyniad
daeth dyddiau adloniant y bechgyn i ben, a'u dinas
noddfa hefyd! Gorfodwyd i'r Crydd Bach roddi allwedd
ei weithdy yn ôl i oruchwyliaeth chwarel Penyrorsedd.
Roedd hyn o beth yn destun rhagfarnllyd yn erbyn hapusrwydd
y to ifanc ac yn anfaddeuol yn eu meddwl am gyfnod
maith.
Ail agorwyd Siop Newydd, hen siop Evan Jones pan gymerodd
William Jones a Mrs Jones y busnes drosodd. Daethant
i fyw o Garmel i Llys Alaw a chyfnewid tŷ drachefn
hefo William a Margaret Davies rhif 13 Penyrorsedd
Terrace er mwyn cysylltu'r tŷ â'r siop a
sefydlu Post Office yno.
Cyn hyn roedd y Post Office cyntaf yn Nantlle yn cael
ei gadw gan Hannah Williams yn rhif 9 Penyrorsedd Terrace
ond bu farw Hannah Williams drwy ddamwain angeuol ar
yr Allt Goch pan dorrodd y bit yng ngheg y ceffyl ar
ei ffordd i Dinas Dinlle yn 1908. O ganlyniad agorwyd
Post Office dros dro ynglwm wrth dalcen tŷ Rhif
1 gan John William Roberts, Blaen y Garth, tad Mrs
Williams Gwynfa Penygroes gynt. Cofiaf fynd yno yn
llaw fy hen daid Owen John Hughes blaenor a hynafiaethydd
ei oes, iddo gael y pensiwn cyntaf o 5 swllt trwy annogaeth
deddf gwlad y Prif Weinidog David Lloyd George. Cofiaf
mai Enid Jones chwaer Gwilym Glyn ac Alwyn Jones oedd
yn gwasanaethu yn y post newydd bryd hynny sef plant
i David a Mrs Samuel Jones, ymfudodd ef i Awstralia
cyn hyn.
Y Siop Bach, Rhif 6 Baladeulyn Terrace, Nantlle
Hon oedd siop Catrin Williams, a'i mab Robert Williams
- yr hwn oedd yn hollol ddall ar ôl damwain yn
y chwarel pan ffrwydrodd boiler injan stêm i'w
wyneb. Pan fu farw ei fam, fe gariodd Robert Williams
y busnes ymlaen am flynyddoedd, drwy iddo gyflogi morwynion
ifanc i wasanaethu yn y tŷ a'r siop, ac yn ddiweddarach
yn ei fywyd fe ail-briododd a'i housekeeper,
ac ar ôl ei farwolaeth daeth ei fab John Williams
a'r teulu i fyw i Rhif 6, a chadw'r busnes i fynd am
ychydig o fisoedd, ac yna cau oherwydd ei ymddeoliad.
Dyma siop oedd yn agored o 8 o'r gloch y bore hyd
10 o'r gloch yr hwyr, heblaw ar ddydd Sul, ac yr oedd
yn boblogaidd iawn gan blant ac oedolion, ac yn enwedig
gan y chwarelwyr, i brynu eu sigarets, tybaco a matsis,
hefyd lemonade neu sasparilla ar
ganol dydd crasboeth yn yr haf. Roedd Robert Williams
yn cadw pob math o gyffuriau at yr annwyd, neu at unrhyw
anhwylderau corfforol, nid oedd raid i'r pentrefwyr
alw meddyg, os oedd meddyginiaeth wrth law gan Siop
Bach. Roedd yn gwerthu pob math o felysion, 8 am geiniog,
o'r Caramels a'r Red Seal Toffies i'r plant, cyn mynd
i'r Gobeithlu neu'r Cyfarfodydd Mawr elusennol, a gynhelid
ar y llwyfan uchel yn y Festri.
Nid oedd cerdded rhyw chwarter milltir o'r tŷ,
ar bob tywydd, i Fferm y Bryn, Rhesdai Victoria, yn
rhwystr o gwbwl i Roberts Williams i gyrchu ei beint
llefrith; ei ffon oedd ei gyfarwyddwr, gwyddai am bob
bwlch, a rhif pob clwyd, wrth deimlo curiad ei ffon.
Wrth deithio 'mlaen yn y dydd neu'r nos, fe glywech
swn ei ffon yn taro'n ysgafn ar y clwydi pan fyddai'n
cerdded yn yr hwyrnos.
Roedd yn ddyn diwylliedig a deallus iawn, ac yn ei
ddydd roedd yn athro Ysgol Sul. Cofiaf imi weld llun
ohono gyda'i ddosbarth pan yn ddyn ifanc, cyn ei ddamwain;
a phan fyddwn yn galw yn y siop, fe adwaenai fy llais,
fel pawb cyfarwydd; dywedai wrth fy nghyfarch:
"Y llonaf o'r llinach, yw Alun Bach".
Cymeriad unigryw oedd y dyn
dall, ac fe'i cofir
am byth gan ei gyfoedion a phlant y pentref. Agorodd y Baracs i'r cyhoedd ar y 10fed o Fai 2004
a phe gallai’r muriau draddodi eu hatgofion mae’n
debyg y byddai ganddynt gyfrolau o hanesion am hen
deuluoedd a fagwyd oddi fewn tafliad carreg iddynt.
Mae eu hepillion wedi chwalu fel mân us drwy'r
dyffryn, a thu draw, erbyn hyn ac ac fel y dywedodd
un alltud o'i fro, sef y diweddar R.O Hughes yn ei
delyneg hiraethus am Nantlle:
"Y Chwarel a chwerwodd, a'r efail arafodd,
A'r bechgyn a'i carodd, a fudodd o'r fan.
Mae gweithfa y cannoedd o bennau teuluoedd
Ardaloedd, yn lleoedd dylluan."
|