Talentau'r Dyffryn
Yng Ngorffennaf/Awst 1977, ar gais Mr. Elwyn Griffiths golygydd Yr Enfys, cyhoeddwyd erthygl gan Dewi, mab Owen Francis un o'r enwog Brodyr Francis, yn adrodd hanes y ddau frawd.
Mae'n bleser cyflwyno addasiad o'r hanes hwnnw, am ddau a wnaeth gymaint o argraff ym maes cerddoriaeth a barddoniaeth yn eu cyfnod. Carwn ddiolch yn fawr iawn i Vera Jones Nantlle am gysylltu a’r teulu am eu caniatâd i ailgyhoeddi hanes dau frawd o Ddyffryn Nantlle a ddaeth yn wir arwyr y genedl, ac o bosib nad ydynt wedi cael y clod haeddiannol.
Y Brodyr Francis
Ychydig iawn o Gymry dros y canol oed sydd heb glywed rhywdro am ‘Y Brodyr Francis’ y cantorion enwog o Ddyffryn Nantlle. Hwy yn ddiamau oedd pop stars y cyfnod yn dilyn y Rhyfel Mawr hyd at ganol y tridegau. Yn union fel pobol heddiw yn dilyn eu hoff grŵp ar deledu neu ar lwyfan, felly y byddai gwerin Cymru y troedio milltiroedd i neuadd neu Gapel i weld a chlywed y lleisiau arbennig.
Ie, gweld a chlywed . Nid yn unig gwrando ar y ddeulais ardderchog yn asio fel un, ond hefyd yn dotio ar eu personoliaeth a'u hymddangosiad ar lwyfannau pentrefi a threfi ein gwlad. Y ddau wedi eu gwisgo mewn ‘tei bow’ a tails ac yn hawlio sylw'r gynulleidfa. Daeth galwadau o'r tu allan i Gymru hefyd. Cymry alltud Llundain, Lerpwl a Manceinion yn eu gwahodd i'w diddori.
'Roeddynt hefyd yn aroleswyr wrth iddynt gymryd rhan yn y rhaglen radio gyntaf yn y Gymraeg, a hynny o Ddulyn yn y dauddegau. Yn anffodus iawn nid oes recordiad o'u lleisiau ar gael.
Ar y pryd dim ond tair set radio oedd ym mhentre Nantlle, a sonia nifer o bobl am y wefr a gawsant wrth glywed llais yn galw ‘Helo Gymru’ ac yn arbennig ‘Helo bobl Nantlle’.
Beth am eu cefndir?
Fe anwyd Griffith William Francis yn 1876 ac Owen William Francis yn 1879, ynghyd â'u chwaer Annie ym Mryn-y-wern, Cwm Pennant (Cwm Eifion Wyn). 'Roedd eu tad, William Francis, yn rheolwr ar chwarel y Moelfre yn y Cwm, ac yn gantor o fri ac yn gerddor dawnus. Bu'n arwain côr yn Nhal-y-sarn, ac efe oedd arweinydd un o'r cymanfaoedd cyntaf a gynhaliwyd yn y Garn.
Un o Dal-y-sarn oedd eu mam Mary Owen, hithau yn gantores o fri dan yr enw ‘Mair Alaw’ oedd wedi perfformio yn y Philharmonic Hall yn Lerpwl amryw o weithau, ac fel ei gŵr yn aelod o'r ‘Tal-y-sarn Glee Singers’, parti a oedd mewn bri yn ystod chwedegau y bedwaredd ganrif ar bymtheg, gyda Mair Alaw yn unawdydd iddynt.
Peth go ddieithr yn y cyfnod cynnar oedd i un o bentrefi yng Nghymru fynd i'r Academi Frenhinol yn Llundain, ond cafodd Edward Owen, brawd Mair Alaw, y fraint honno, ac enillodd y fedal am ganu. Daeth y fedal i feddiant Dewi, mab Owen Francis gyda'r ysgrifen arni ’Royal Acedemy of Music – EDWARD OWEN – SINGING’. Bu Edward ar daith ganu yn Ne Affrica yng nghwmni rhai cantorion byd-enwog, ac wedyn am gyfnod bu'n organydd Falmouth Road, Llundain. 'Roedd brawd arall i Mair Alaw yn fardd ac ysgrifennai dan yr enw ‘Ioan Wythwr’. Gwelir felly fod canu a barddoni yng ngwaed teulu'r Francis.
Yn anffodus cafodd y ddau frawd Francis ergydion go arw yn ystod eu plentyndod, a nid gwynt teg a gawsant ar eu gyrfa. Pan oedd Owen brin ddwyflwydd oed fe gollodd ei fam, ac o fewn llai na blwyddyn, bu farw eu tad. Cymerwyd y dau frawd ynghyd â'u chwaer Annie i'w magu gan eu taid, Griffith Francis, a'i ail wraig Margiad (oedd bron yn ddall) mewn bwthyn o'r enw Clogwyn Brwnt, sydd bellach yn adfail ar ben allt Drws-y-Coed.
Cyfnod caled iawn oedd hwn, ond cyfnod a adawodd argraff ddofn ac emosiynol iawn, iawn arnynt. Mae hyn yn amlwg iawn o ddarllen Telyn Eryri, cyfrol o farddoniaeth a gyhoeddodd Griffith Francis yn 1932:
Yn blentyn bach mewn tymestl flin,
O ddyffryn arall curwyd fi.
Tad Syr Thomas Parry-Williams, Henry Parry-Williams, oedd eu prifathro yn ysgol y Cyngor, Rhyd-ddu, a dyna'r unig addysg ffurfiol a gawsant.
Cofio ymlwybro yn drindod gytûn,
I'r hen ysgol gyntaf, anwylaf o'r un.
Cofio'r “Hen Athro” 'n ei henfro o hyd ―
Fe'i cofir tra rhed dŵr Llyn Cader drwy'r Rhyd.
Mae llawer un o'r farn fod Griffith Francis yn ddi-os yn fardd wedi'i anwybyddu i raddau helaeth.
Pryd hynny oedd bosib i blant ymadael â'r ysgol yn un ar ddeg os oedd ganddynt waith i fynd iddo, ac yn ddeuddeg oed gadawodd y ddau frawd yr ysgol pan gawsom waith yn chwarel Glanrafon, Rhyd–ddu. Yn dilyn marwolaeth eu taid a’u nain aethant i lawr y dyffryn i Nantlle i fyw at eu hewythr William (Wil Owen Cargo) a oedd yn frawd i'w mam Mair Alaw. 'Roedd ei dŷ yn chwarel Penyrorsedd, ac yn y chwarel hon y buont yn gweithio hyd eu marwolaeth, gyda Griffith yn gweithio fel gof. Hynny ar wahân i gyfnod yn ystod y rhyfel pan fu Owain fy nhad yn y fyddin, a Griffith yn y ‘Munitions’.
Daeth Tŷ Nant, tŷ ar gwr y chwarel yn wag ac ar gael iddynt, a daeth y cyfle iddynt gael aelwyd eu hunain, efo Annie yn cadw tŷ a'r ddau frawd yn gweithio yn y chwarel. Cyfnod hapus dros ben oedd hwn i'r tri. Yn byw drws nesaf oedd teulu a ddaeth i ddylanwadu yn fawr arnynt, sef teulu Hugh Hughes. Teulu cerddgar iawn oedd hwn, gyda William y mab yn grythor dawnus, ei frawd Owen yn gyfeilydd penigamp, a Laura'r ferch yn gyfeilyddes ddawnus. Ymhen amser daeth Laura yn wraig i Griffith.
Mae stori o'r cyfnod yma yn werth ei hadrodd. Prynodd fy nhad biano, heb fedru chwarae 'run nodyn. Ar ei ffordd i'r Capel un bore clywodd ŵr yn deud wrth un arall, ‘Rwyn deall fod yna ornament wedi dod i Dŷ Nant. Aeth yr ergyd at ei galon, ac aeth ati o ddifrif i ddysgu. Byddai'n ymarfer bob awr o'r dydd a'r nos, ac aeth at John Jones, Tal-y-sarn, am hyfforddiant am chwarter o ‘Theory’ (ymfudodd John Jones yn ddiweddarach i'r America, lle daeth yn gerddor enwog). Bu ymdrechion fy nhad mor llwyddiannus nes iddo fod yn gyfeilydd yng Nghapel Baladeulyn. Hyn oddi fewn i lai na dwy flynedd ar ôl prynu'r offeryn.
Yn anffodus llyncwyd yr hen ‘Dŷ Nant’ gan y chwarel, ac wedi cyfnod byr yn y Gelliffrydiau, Nantlle, daethant i lawr i ganol pentre Nantlle i dŷ newydd sbon a alwyd yn ‘Llys Alaw’. Y drws nesaf roedd eu cyfeillion cerddorol ‘Yr Hughesiaid’ yn byw, ond yn anffodus fe ddaeth tristwch – bu farw Annie eu chwaer. Roedd hyn yn ergyd sylweddol i Griffith ac Owen a chlosiodd y ddau frawd at ei gilydd ac ymgollent mewn canu a barddoni.
Medd E. Morgan Humphries yn ei ragair i Telyn Eryri, cyfrol o farddoniaeth a gyhoeddwyd gan Griffith, ‘Nid wyf yn gerddor, ond gwn fod y ddau frawd wedi rhoddi rhywbeth mwy na lleisiau ystwyth cyfoethog i'r gelfyddyd Cymreig o ganu gyda'r tannau. Rhoddasant hefyd lafur diflino, ac ymdrech ddiorffwys i ddeall a meistroli'r grefft, a'r gallu meddyliol a diwylliant a barai iddynt wybod sut i wneud prydferthwch a chadernid y farddoniaeth a genid ganddynt yn ddealladwy i bawb.’
Dyma gychwyn o ddifrif ar yrfa oedd i fynd a hwy i bob cwr o Gymru a'u cadw yn eilunod y cyhoedd am chwarter canrif. Bellach Bob Owen Drws-y-Coed oedd eu cyfeilydd, ac o dipyn i beth daeth y triawd yma fel un, gan mai dim ond Bob Owen oedd yn cael cyfeilio iddynt.
Medrent gynnal cyngerdd cyfan eu hunain, ond weithiau roedd Miss Maggie Powell a Llew Deulyn yn ymuno â nhw er mwyn cynnig amrywiaeth i'r rhaglen.
Bu'r dau frawd yn canu gydag enwogion y genedl megis Mary King Sarah a Leila Megane. Cynhaliwyd cyngherddau mawreddog yn yr Houldsworth Hall a'r Free Trade Hall yn Manceinion. Buont am wythnos gyfan yn perfformio yn Lerpwl a'r cylch. Ond yn bennaf teithio i bentrefi bach a mawr ledled Cymru oedd eu hoff waith. Cawsant y fraint o ganu yng nghyngerdd yr Eisteddfod Genedlaethol, a chlywais sawl un yn dweud amdanynt yn canu rhwng dramâu yn ystod wythnos dramâu flynyddol a drefnid gan Gwynfor, sef Thomas Owen Jones y dramodydd a’r actor, a Llyfrgellydd Sir Gaernarfon yn y Pafiliwn mawr yng Nghaernarfon. Nid oes amheuaeth na fu'r fagwraeth galed yn gyfrwng iddynt glosio at ei gilydd i'r fath raddau nes magu fath o ‘delepathi’ rhyngddynt, a roedd hynny yn amlwg iawn ar y llwyfan.
Clywais fy mam yn sôn fel y byddai i'r naill neu'r llall gael syniad am eiriau neu alaw addas. Byddent yn dod at ei gilydd i'w drafod, ac yna yn mynd at y piano. Cyn pen dim byddent yn canu mewn cynghanedd gywir, gyda'r lleisiau yn asio'n berffaith.
Fel y soniwyd eisoes yr oedd Griffith yn fardd galluog. 'Roedd Owen hefyd yn barddoni, ond fel cerddor yr adnabyddir ef fwyaf. Byddai'n cyfansoddi alawon a thonau, ac mae llawer ohonynt wedi eu cyhoeddi gyda chryn ganu ar rai o'r tonau.
Er mai dim ond chwarter o addysg gerddorol a gafodd, gallai Owen gynganeddu yn fedrus iawn, ac fe drefnodd sawl darn i'r band lleol yn Nantlle. Meddai un cerddor amlwg amdano ‘Mae ei holl waith yn dangos ôl crefftwr ysbrydoledig’. Daeth llawer o'i alawon, trefniadau, a'i osodiadau yn boblogaidd iawn trwy Gymru gyfan.
Y Brodyr Francis oedd y cyntaf i osod ‘Caru Cymru’ ar ‘Blaenhafren’, sydd mor boblogaidd o'r hyd. Mae rhestr lawn o'u trefniadau yn faith ac amrywiol ac yn cynnwys ‘Fy Olwen i’, ‘Cywydd Penmon’, ‘Cloch y Llan’ a ‘Rheidiol’.
Mae llyfrau fy nhad yn cael eu trysori gan fy mam o'r hyd, ac wrth eu darllen fe welir fod ganddynt rywbeth ar gyfer pawb yn lleddf ac yn llon. Ble bynnaf yr af bydd pobl yn holi am fy nghysylltiad i â'r brodyr Francis, ac yn ddi-feth byddant yn adrodd eu hatgofion cofiadwy amdanynt wrth fwmian rhyw gân arbennig ddaru apelio iddynt.
Mae llawer yn cofio digrifwch y ddau wrth ganu ‘A.B.C.’, neu englynion ‘Dau a dwy’, gydag eraill yn cofio ‘Cywydd coffa Eifion Wyn’ neu ‘Cywydd y Bedd’ neu ‘Y Border Bach’.
Dros y blynyddoedd clywais deyrnged iddynt o lawer cwr. Cofiaf y diweddar Barchedig Tom Nefyn Williams yn datgan iddo gael profiad dwfn iawn mewn cyngerdd yn Rhyd-ddu wrth ganu ‘Ar ei ben bo'r Goron’.
Yn Eisteddfod Wrecsam cefais awr fythgofiadwy yng nghwmni Llwyd o'r Bryn yn adrodd eu hanes yn mynd o gwmpas y wlad yn diddanu'r cynulleidfaoedd. Cofiai yn arbennig am wythnos o gyngherddau yn y De, gan orffen y daith yn Llanbrynmair, ac yn dilyn y cyngerdd cafwyd ‘Noson Lawen’ answyddogol a barai hyd oriau mân y bore. Ond y profiad mwyaf gwefreiddiol a gafodd oedd bod yn bresennol mewn noson hwyrnos yn Llandderfel. Distawrwydd wrth ddisgwyl i'r gloc daro hanner nos, ac yna'r ddau yn codi o'r llawr gan ganu a cherdded yn araf tuag at y llwyfan.
Y gofid mawr yw nad oes unrhyw gofnod o record ohonynt, ond yn ôl y sôn fe wnaed cytundeb gyda chwmni recordio enwog i recordio, ond bu anghytundeb. Hawliau'r Cwmni iddynt ganu i gyfeiliant y delyn, ond nid oedd eu cyfeilydd Bob Owen yn gallu chwarae'r delyn, ac oherwydd nid oedd yr hogiau am ganu hebddo.
Beth felly oedd eu hapel arbennig? Yn sicr roedd ganddynt leisiau arbennig o gyfoethog ac yn asio'n berffaith, Griffith yn fariton, ac Owen yn canu tenor. Roddent wastad yn paratoi yn drylwr cyn pob perfformiad, ond yn bennaf roeddynt yn artistiaid yn ymddwyn yn gwbl broffesiynol gan feddu'r ddawn i gyflwyno cân i swyno'r gwrandawyr. Peth greddfol, meddech, mae hynny'n wir, ond o gofio iddynt gael magwraeth galed iawn heb unrhyw addysg ffurfiol, mae'n syndod mai trwy eu doniau cerddorol a barddonol y daethant i fod yn eilunod cenedl, gan adael ar eu holau etifeddiaeth gyfoethog iawn, cyfrol o farddoniaeth, a phentwr o alawon a thonau ynghyd â llu o gefnogwyr efo atgofon melys.
Bu'r galwadau am eu gwasanaeth yn gyson trwy'r dauddegau ac i'r tridegau. Ni fyddant byth yn gwrthod gwahoddiad, yn arbennig os oedd yr achos yn deilwng, a doedd dim prinder o alwadau i godi arian er mwyn achosion da yn eu cyfnod.
Rhwng llwch y chwarel a'r teithio di-baid, a pherfformio yn aml iawn mewn neuaddau oer yng ngefn gwlad Cymru, torrodd iechyd Owen fy nhad. Bu farw ar Ebrill 6ed 1936. Ymhen tri mis bu farw ei frawd Griffith ar Fehefin 15fed 1936. Roedd y delyn bellach yn fud.
Efallai i Ioan Brothen daro'r holen ar ei phen yn ei englyn.
Rhy dawel i roi deuawd ― yw Owen,
Tawodd yr hoff gymrawd,
I Ruffydd brydydd a brawd,
Anodd fydd canu deuawd.
Bu tristwch dros Gymru gyfan gyda theyrngedau lu iddynt ymhob papur a chylchgrawn. Dyma ran o goffâd Y Cerddor yn Awst 1936.
‘Perthynent i ddosbarth sydd o'r pwysigrwydd mwyaf i'r ddilwylliant Cymru...
Roeddent yn fyw i bopeth gwir Cymreig i'r cerdd ac yn gan.
Perthynent hefyd i'r dosbarth gorau o Werinwyr, ac ni bu peryg i Gymru golli ei hen draddodiadau tra deil i fagu rhai fel Y Brodyr Francis.’
O.P. Huws. Chwefror 2019.
|