Hanes Capel Nasareth
cyn 1890
Cyflwynwyd
y pregethu cyntaf yn Llwynbedw gan Mr D Griffiths,
Talysarn. Agorwyd y capel cyntaf ar Orffennaf
4ydd 1823 â "Baich o Ddyled". Wedi
i D Griffiths adael, daeth y cysylltiad â Thalysarn
i ben - daeth nifer o weinidogion ond nid arhosai neb
yn hir. "Yr roedd rhyw elfennau yn y lle yn milwrio
yn fawr yn erbyn llwyddiant yr achos." Unwyd â Phant-glas
a Sardis ac ordeiniwyd Mr Richard W Roberts ond yn
fuan, aeth i Glarach a Salem, Sir Aberteifi.
Llun: Capel Nasareth.
Yn 1857, daeth Mr John Morgan i gadw ysgol - ar gyfnod
gwan iawn yn yr achos - dim ond 3 o bobl. Roedd yr
addoldy wedi dadfeilio ac roedd ganddynt ddyled drom
- dim digon hyd yn oed i dalu'r llog ar y ddyled. Dyn
egnïol oedd J. Morgan - trwsiwyd y capel, aildrefnwyd
y gyfundrefn a phenodwyd ymddiriedolwyr newydd.
Talwyd y llog a £100 o'r ddyled gan Mr Griffiths,
Bethel. Ymunodd ugeiniau o aelodau newydd hefyd, yn
enwedig, yn sgîl Diwygiad 1859. Yn 1866, aeth
J. Morgan i Sir Aberteifi. Yn rhydd o'r dyled, penderfynwyd
codi capel newydd ond, o edrych yn ôl, yr oedd
yn rhy ddrud i'r eglwys a'r gynulleidfa. Ceisiodd yr
aelodau yn galed i ostwng y ddyled o £700. Agorwyd
y capel newydd ar yr ail a'r 3ydd o Orffennaf 1867.
Er bod digon o bobl yn yr ardal roedd yn anodd cadw
gweinidog, ond yn niwedd 1867, rhoddwyd galwad i Mr
John Davies, Coedpoeth, a ordeiniwyd ar 10fed Ionawr
1868 ond dirywiodd ei iechyd ac aeth i Drefriw fel
gweinidog rhan amser. Aeth dyn lleol, Daniel Roberts
yn weinidog i Lanberis.
Ganwyd y Parchedig William B Roberts ger Conwy tua
1836. Aeth i'r ysgol ym Mhontypridd ac i'r Athrofa,
Caerfyrddin. Symudodd i America yn syth o'r coleg.
Fe'i hordeiniwyd yn Efrog Newydd. Dychwelodd i Gymru
tua 1874 ac fe'i penodwyd ef yn weinidog i Nasareth
a Phant-glas. Bu farw ei wraig a "chyda thwr o
blant" roedd yn rhaid iddo weithio yn galed. Dyn
galluog ydoedd, ond ni allai pawb werthfawrogi ei ddawn.
Dioddefai o broblemau meddyliol ym misoedd olaf ei
fywyd. "Teimlai pawb bod rhywbeth yn ddierth o'i
gylch, er nad ofnai neb unrhyw berygl. Pa fodd bynnag,
cafwyd ef wedi lladd ei hun ar 2 Fai 1889. Claddwyd
ef yn barchus ac yr oedd y rhai a oedd yn ei adnabod
orau yn meddwl llawer ohono, ac roedd yna gydymdeimlad
mawr i'w blant amddifaid."
Y Capel heddiw
Llun: Y
Capel ei hun.
Llun: Y
Capel a'r ardd.
Llun: Yr
olygfa o ardd y Capel.
|