Capel Nebo
Er
yr ymddengys fod y fro fynyddig hon yn llawnach ei
phoblogaeth na’r rhannau isaf o’r plwyf,
eto ni chafwyd yno le o addoliad hyd y flwyddyn 1826,
ond cynhelid Ysgol Sul ers 1809 mewn tŷ bychan
o’r enw Tan-y-Fron gerllaw Nasareth. Symudwyd
oddi yno i dŷ Catrin Salmon yn agos i Rhwng-y-Ddwy
afon. Yma cynyddodd yr Ysgol Sul fel y gorfodid ei
chynnal mewn tri o dai. Gofalid amdani gan Robert Evans,
Cil-Llidiart; Hugh Hughes, Caerau; a John Pritchard,
Tirion Pelyn.
Llun: Capel Nebo.
Peidiodd yr ysgol am gyfnod pan adeiladwyd addoldy
yr Annibynwyr yn Nasareth, ond ail-gychwynwyd yr ysgol
yn Maes-y-Neuadd, ac oddi yno i le o’r enw Pencraig,
cartref John Michael, (perthynas efallai i Michael
Prisiart) a gofelid am yr ysgol ganddo ef a Gruffydd
Williams, Taleithin. Symudwyd drachefn i’r Taldrwst,
a gofelid amdani gan Thomas Edwards, gŵr y tŷ,
William Roberts Buarth y Foty, a Williams Roberts,
Cae’r Engan.
Yn 1825 prynwyd tir gan Hugh Robert Ismael, Glan-y-Gors
am bum gini, yn safle i adeiladu ysgol arno, yn y man
ble saif addoldy (Capel Bach) Nebo heddiw - adeiladwyd
yr ysgol gan Williams Williams Tan-y-Fron yn 1826.
Gofelid am y gwaith gan Owen Edwards Coed-Cae-Du ac
Evan Roberts Dolwenith. Llawr pridd oedd i’r
adeilad cyntaf, a meinciau coed i eistedd arnynt. Wedi
gorffen y capel daeth y rhai oeddynt ar wasgar yn ôl,
sef aelodau ysgol Sul y Taldrwst, y rhai oeddynt wedi
mynd i Nasareth a Llanllyfni. Arolygwr cyntaf yr ysgol
newydd oedd Richard Gruffydd, Pen yr Yrfa, ond dywed "Asiedydd" yn
y "Cymru" mai Ellis Roberts, Pant yr Arian
oedd y cyntaf. Holwyr cyntaf oeddynt John Williams,
Pandyhen a Hugh Williams, Pen Isa’r Lôn.
Yr arweinwyr canu cyntaf oeddynt Richard Williams Maes
y Neuadd, a William Evans, Talymaes.
John Williams, Llecheiddior a bregethodd gyntaf yn
y Capel Bach, ar ‘bnawn Sul Ionawr 1827. Wedi
hyn gafwyd cyfarfodydd eglwysig, dan arweiniad un neu
ddau o flaenoriaid Llanllyfni.
Rhifau’r ysgol oedd wyth ar hugain yn 1828.
A deng mlynedd yn ddiweddarach trefnwyd Mynydd Llanllyfni
yn daith gyda Thalysarn.
Sefydlwyd yr eglwys yn 1843. Buasid wedi gwneud flwyddyn
ynghynt onibai am y gwrthwynebiad o Lanllyfni oherwydd
fod dyled o £700.00 ar y lle. Rhifau’r
eglwys ar ei sefydliad oedd 36, ond talent eu casgliad
misol yn Llanllyfni hyd 1846. Trefniant oedd hwn ar
gyfer y Weinidogaeth.
Priodol fyddai rhestru gwyr amlycaf yn hanes yr ysgol
a’r achos yn ei ddechreuad, a dyledus ydynt o’u
cofio:
• Robert Williams, Tŷ Capel.
• Hugh Jones, Blaen-y-Foel
• John Pritchard, Penpelin
• John Williams, Pant y Pistyll
• Ellis Roberts, Pant yr Arian
• Williams Pritchard, Tŷ Cerrig
• Hugh Robert Ismael, Glan y Gors
• Williams Williams, Tan y Fron
• Thomas Jones, Glan y Gors
• Robert Williams, Pen y Mynydd
• Robert Gruffydd Bryn y Person
• Morgan Jones Tal y Maes.
• Owen Morris
• Owen Ellis, Nazareth
• Dafydd Gruffydd, Tŷ’r Capel (a
laddwyd yn un o chwareli Dyffryn Nantlle)
• Williams Roberts Nant y Noddfa (a aeth
i America).
Yn ddi-os, doedd y rhan fwyaf o'r blaenoriaid a sonwyd
amdanynt ond yn medru darllen tipyn bach, ond dywedwyd
am Hugh Robert Ismael ni fedrai ddarllen o gwbl; ond
y bu iddo gael cymaint o bleser wrth wrando ar eraill
mai prin ydoedd yn absennol.
Roedd rhifau'r Ysgol tua 64 yn y cyfnod hwn.
Y mae rhestr llawr o'r rhai a aeth o Lanllyfni i Nebo
pan sefydlwyd y capel bach yn"Hanes Methodistiaeth
yn Arfon" gan Rev. W Hobley.
Richard Roberts Bodychain and Richard Gruffydd Pen
Mynydd a ddewiswyd fel blaenoriaid yn 1844. Mae'n debyg
eu bod nhw y dau gyntaf. Rhyw Moses Jones o Lyn (a
dalwyd dau swllt) oedd y cyntaf i bregethu wedi'r eglwys
cael ei sefydlu.
Rhestr o'r Blaenoriaid:
• Robert Richards, Bodychain 1844
• Richard Gruffydd, Penmynydd
• Robert Williams Garreg Lwyd 1850
• William Jones Nasareth 1856
• William Gruffydd, Bryn Bugeiliad 1859
• Gruffydd Jones, Tal y Mignedd 1870
• Dafydd Gruffydd Llythyrdy
• Hugh Williams, Glan Gors 1873
• William Roberts, Tyddyn Hen
• Gruffydd W Jones, Nasareth 1883
• David Roberts, Maes y Neuadd
• John Edwards 1889
• T H Gruffydd ( Arfonydd)
• John Hughes, Bryn Ffynnon 1990
• Evan Jones, (Ieuan Nebo)
• Owen Morris (Owain Meuric) 1914
• Edwin O Roberts, Nant Gwyddil
Gweler hefyd
»» Dathlu canmlwyddiant Capel Nebo |