Hanes Dyffryn Nantlle

Nebo a Nasareth

 
 
 

Hanes byr Nebo a Nasareth cyn 1821

Mae'n amlwg bod Ffordd Nasareth yn dyddio'n ôl i oes cyn dyfodiad y Rhufeiniaid. Rhwng Nasareth a Chwm Bran mae o leiaf 10 safle o gyfnod cyn hanes neu Rufeinig - lle prysur yn ei gyfnod. Mae safleodd cyn hanes eitha diddorol, hefyd, tua'r gogledd o Ros Las tuag at Gwm Silyn.
Agorwyd y ffordd dyrpeg sy'n mynd o Lôn Bost Caernarfon - Pwllheli ger Dolydd drwy Nasareth hyd at Lidiart Ysbyty yn 1810. Cwblhawyd y gwaith ar y Cob ym Mhorthmadog yn 1811. Perchnogion y ffordd 1769 -1882 oedd Hen Gwmni Tyrpeg Sir Gaernarfon. Oherwydd datblygiad y diwydiant llechi ym mlynyddoedd cynnar y cyfnod hwn, gwnaeth y tyrpeg elw mawr; ond bu'n llai pwysig wedi dyfodiad y rheilffordd (lein bach) o Nantlle i Harbwr Caernarfon yn 1828.

O gwmpas Nebo, ymddengys bod y rhan fwyaf o'r safleoedd hynafol yn perthyn i gyfnod wedi'r Oesoedd Canol. Mae cysylltiad amlwg rhyngddynt ag amaethyddiaeth, yn enwedig gyrru'r anifeiliaid i'r mynydd-dir wedi Calan Mai ac yna trigo mewn hafod, a throi yn ôl i'r hendre cyn Calan Gaeaf.

'Dyw'r tir ddim mor ffrwythlon â'r tir is, a phan oedd y boblogaeth ar gynnydd codid bythynnod ar y tir diffaith. Mae tyddynnod bychain yn parhau yma ond prin y medrai neb ennill bywoliaeth dda o'r tir yn unig. Er enghraifft, ni wisgai plant y fro esgidiau i fynd i'r ysgol Sul yn yr haf. Fel arfer, gweithiai'r dynion a'r bechgyn yn y chwareli a byddent yn trin y tir (palu, hyd yn oed) dan olau llusern. Gofalai'r gwragedd am yr anifeiliaid, y cnydau a bron bopeth arall.

Caewyd rhannau o Dîr Comin Mynydd Llanllyfni drwy Ddeddf, sef y tirrannau gorllewinol Llyn Cwm Dulyn, yn enwedig Rhos Las. Yr oedd hawl i blwyfolion dorri mawn fel tanwydd ac i bori eu hanifeiliaid ar y comin. Petasai'r comin yn llai, byddai pawb ar eu colled. Ond i'r tlodion oedd yn byw ar y comin heb weithredoedd eiddo, yr oedd y newid yn drychinebus. Cymaint oedd y gwrthwynebiad i'r cynllun a chymaint o weithiau y cafodd y tirfesurwyr eu bygwth nes yr anfonwyd milwyr i gadw trefn yn 1817. Restiwyd nifer o'r trigolion. Pasiwyd Deddf Cau Tir Comin (Nefyn, Pistyll, Carnguwch, Llanaelhaearn, Clynnog a Llanllyfni) yn y Senedd 8 Mawrth1821.

Rhan o'r ddeddf hon oedd cydnabod y rhandiroedd oedd wedi bodoli dan Gyfraith Lloegr, a hefyd rai o'r tyddynnod a ddaeth i fodolaeth heb ganiatad neb. Mae'n debyg bod rhai yn hafodydd unnos a godwyd dros nos yn ôl Cyfraith Hywel Dda (sef, pan ddeuai criw o bobl leol i gynorthwyo perthynas neu gyfaill i godi tŷ tywyrch yn ystod y nos, a'i hawlio ynghyd â llain o dir, fel hawl oesol. Wrth gwrs gwrthodwyd ceisiadau fel hyn dan Gyfraith Y Brenin Siôr). Ond yn aml, tueddai'r sawl oedd yn ffermio am y terfyn â'r tir comin i greu caeau ychwanegol, e.e Llechfeddiannau Henry Parry ac yn y blaen.

Hefyd, pennwyd ffyrdd a llwybrau sy'n dal o hyd, gan gynnwys 'Public Turbary Roads' (o gyffordd yr hen ffordd drwy Dalgarnedd ac yn troi i fyny ger Tal-y-maes tua Chors y Brithdir a Chors-y-Llyn) er mwyn sicrhau mynediad i 'Llanllyfni Fuel Grounds' lle arferai'r plwyfolion dorri mawn. Cludid coed tân ar hyd y ffordd hon o Lôn Dŵr i Bont Lloc. Weithiai, achosai mawna anghydfodau mawr, a soniodd y Parchedig Robert Jones am ei waith fel dyfarnwr, yn enwedig yn y Garn!

Trwy Ddeddf Cynghorau Sir 1888, mi ddaeth y gwaith o gynnal a chadw'r ffyrdd yn rhan o ddyletswyddau cyngor sir etholedig cyntaf Caernarfon a daeth y cyflenwad dŵr newydd o Lyn Cwm Dulyn i Ddyffryn Nantlle yn rhan o'i cyfrifoldebau hefyd.

Y darn olaf o'n tir comin ni ydy Cors-y-Llyn. Fe'i cofrestrwyd fel Safle o Diddordeb Gwyddonol Arbennig, ac yn awr, cyfrifoldeb Cyngor Plwyf Llanllyfni ydyw.

  Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C Cascading Style Sheets (CSS) Dilys