Eira Mawr ~ 11-02-1929
Y diwrnod cyn Dydd Mawrth Ynyd - bore rhewllyd efo
gwynt llym o'r dwyrain ydoedd. Nid rhyfedd yw hyn ym
mis Chwefror ac mi aeth bywyd ymlaen fel arfer - yn
ddi-os edrychai'r plant ymlaen at y bore wedyn, pryd
y caent gyfle i fynd o dŷ i dŷ i hel crempog,
yn ôl yr hen arferiad.
Dechreuodd fwrw eira'n drwm tua deg o'r gloch, ac
ni fedrai'r chwarelwyr ddal i weithio. Wedi'u siomi'n
arw wrth golli eu cyflog ac yn poeni'n fawr am y difrod
hir-dymor a wnâi'r rhew i'r creigiau a pheiriannau,
yn anfodlon, dechreuasant eu taith dros Rhos Las tuag
at Nebo a Nasareth.
Am ddau o'r gloch, rhybuddwyd Mr Griffith (y cyn brifathro)
gan orymdaith gyn-amserol y dynion heibio siop Nebo
lle roedd o'n byw. Aeth yn syth dros y Sgwâr i'r ysgol,
wedi'i ei syfrdanu oherwydd bod y plant yn dal yno
o hyd. Gan ei bod mor oer, anfonasai Mr Thomas (y prifathro,
a mab-yng-nghyfraith Mr Griffiths) a'r ddwy athrawes
y nifer fach o blant a ddaethent i'r Ysgol ar ddiwrnod
mor aeafol i ystafell glyd y Babanod, lle roedd tanllwyth
mawr o dân, a hwythau'n holloll anymwybodol am y tywydd
a ddaliodd i waethygu.
Felly, heb oedi, gwisgodd y plant eu cotiau amdanynt,
a threfnwyd nhw mewn grwpiau yn ôl lle roedden nhw'n
byw, dan orchymyn i gerdded gyda'i gilydd mor hir ag
oedd yn bosibl ar eu teithiau adref. Cyfarfuwyd rhai
eraill o'r plant ar y ffordd gan eu rhieni.
*
Dyma un fersiwn o'r stori am Harri Wyn Williams, bachgen
wyth mlwydd oed, sef yr unig blentyn o Nasareth i fentro allan
y diwrnod hwn. Roedd taith hir o'i flaen yn ôl
i Lwynbedw ac, yn sicr, roedd y cyfle i
gael hwyl wrth gymryd llwybr tarw yn demtasiwn fawr
iddo.
Yn yr achos hwn, camgymeriad difrifol oedd crwydro
oddi ar y llwybr.
Yn hytrach na mynd heibio Goleufryn ac ar hyd Ffordd
Nasareth, mi wnaeth o benderfynu mynd i lawr allt lithrig
Pen Isa'r Lôn at Gerrig Mawr lle lluwchiai'r eira'n
ddwfn dan gryfder Gwynt Traed y Meirw. O ganlyniad gorchuddiwyd
olion ei draed yn llwyr mewn ychydig eiliadau.
Aeth ei dad i nôl Harri ar hyd y llwybr heibio Goleufryn
i Nebo. Pan gyrhaeddodd yr ysgol, cafodd wybod
gan yr athawon fod ei fab wedi gadael ers peth amser.
Dechreuodd Mr Williams bryderu. Trodd yn ei ôl i lawr
Ffordd Nebo, gan chwilio cyn drylwyred ag y gallai
yn y lluwch. Heb os, cofiai Mr Williams am y pethau
a ddywedasai ei fab am lwybrau hyfryd yr haf a âi heibio
Bryn Melyn tuag at Nasareth. Gwelai'r anialwch gwyn
o'i gwmpas ac ofnai'r gwaethaf. Neidiodd dros y wal
gerrig gan suddo at ei bengliniau yn y lluwch eira;
ond doedd ganddo ddim amser i'w golli.
Yn y cyfamser, cawsai Harri gryn dipyn o drafferth
gan na allai yn ei fyw gerdded trwy'r eira a oedd yn
prysur lenwi'r pant erbyn hynny. Ond er yr oerni a'r
lludded, nid oedd am ildio. Tynnodd ei gôt, er
mor oer ydoedd. Gosododd hi ar yr eira a llwyddo
i gropian gam wrth gam, a dyna a wnaeth, drosodd
a throsodd nes iddo gyrraedd lle diogel.
Pan gyrraeddodd Harri Lwynbedw ar ei ben ei hun, mi
gafodd ei fam gryn ysgytwad o weld cyflwr truenus ei
mab efo'i ddillad a'i wallt cyrliog wedi rhewi'n gorn.
Dychwelodd ei dad yn fuan wedyn a golwg fel dyn eira
arno. Gwnaethpwyd pob ymdrech i gynhesu'r bachgen,
ond bu Harri'n dioddef am wythnosau o niwmonia dwbl.
I ychwanegu at yr anffawd hwn, llithrodd Mr Williams
ar lawr y gegin yn ei glocsen eira. Brifodd ei
gefn yn arw ac ni fedrai weithio am wythnos. Er gwaethaf
eu profiadau arswydus, cafodd y ddau adferiad llwyr.
Ôl-nodyn
Gwireddwyd pryderon y chwarelwyr. Yr oedd y chwareli
mewn trafferth ers troad y ganrif am nifer o resymau,
gan gynnwys cystadlu brwd o du chwareli tramor. Collasai'r
cyfranddalwyr eu ffydd yn chwareli Cymru fel ffynonellau
hael o elw. Dwysaodd yr argyfwng ariannol dros y byd
i gyd. Felly, erbyn 24 Hydref 1929 pan gwympodd
y farchnad stoc yn Wall Steet, Efrog Newydd, nid oedd
neb o blith y rhai oedd yn dal i fod ag arian ganddynt
am ailfuddsoddi yma, a chollodd nifer fawr o chwarelwyr
eu swyddi. Chwalwyd nifer sylweddol o gymunedau yng
Ngymru hefyd o'i herwydd.
Rhagor o wybodaeth
Gweler hefyd
drawsgrifiad o dâp a recordwyd gan Harri Wyn Williams
yn Archifdy
Caernarfon a'r
llyfr 'O Benrhyn Llyn i Lle bu Lleu' gan Mrs Janet
Roberts (cyn
athrawes yn Ysgol Nebo). |