Enwau
Lleoedd
O ble ddaeth yr enwau Nebo a Nasareth? O'r Beibl, mae'n
amlwg, fel enwau i'r ddau gapel. Ceir y cyntaf
yn yr Hen Testament yn unig a'r ail yn y Testament
Newydd yn unig. Ond nid ar hap y dewiswyd enw i gapel.
Beth yw'r cysylltiad rhwng un o dduwiau y Babiloniaid,
mynydd yng Ngwlad Iorddonen a dinas wrth ymyl yr anialwch?
Yr ateb yw Nabu (ystyr - uchder), neu yn y Beibl Cymraeg
- Nebo, negesydd y duwiau a hefyd duw doethineb. Cafodd
Nebuchodonosor, Nebusasban, Nebuzaradan, Nabopalassar
ac eraill eu henwi ar ei ôl ef.
Nebo yw'r enw, hefyd, ar gadwyn o fynyddoedd ger Afon
Iorddonen; ac o un o'i gopaon, Pisga, y cafodd Moses
weld Gwlad yr Addewid, (Deut p34). Yn ôl traddodiad,
enwyd y capel yn "Nebo" gan yr enwog Barchedig
John Jones, Talysarn, wedi iddo bregethu ar yr un
testun rywbryd rhwng 1838 a 1842 yn y Capel Bach. (Ond
defnyddiwyd yr enw "Mynydd" yn rheolaidd
hyd at 1859 .)
Ond bu Dinas Nebo ar ffiniau Jwdea yn un o'r trigfannau
i ddisgynyddion mab Abraham a'i gaethferch. Pan esgorodd
Sara, gwraig Abraham, ar Isaac, anfonwyd Hagar a'r
bachgen tair ar ddeg oed, Ismael, i ffwrdd i'r anialwch.
Ond cyn cyrraedd yr Aifft, gorchfygwyd nhw gan newyn
a syched. Trwy wyrth, ymddangosodd ffynnon gerllaw.
Yn ôl un o'r chwedlau am fywyd yr Iesu, (a ddefnyddiwyd
gan Berlioz yn ei oratorio 'L'Enfance du Christ') ffodd
y Teulu Sanctaidd i'r Aifft rhag llid Herod, ond ar ôl
taith beryglus drwy'r anialwch, chawson nhw ddim lloches
gan Eifftiaid na Rhufeiniaid nes iddyn nhw gwrdd ag
Ismaeliaid maddeugar a roddodd groeso iddynt teilwng
o'i deulu colledig.
Prynwyd y tir lle codwyd yr ysgoldy (Capel Bach Nebo
wedyn) am bum gini gan Hugh Robert Ismael, Glan y Gors
yn 1825. Roedd o a'i deulu yn gefnogol iawn i achos
y Methodistiaid ar Fynydd Llanllyfni. Ond pwy all dweud,
fel yn y Beibl, mai dynion gwyllt fyddai'r Ismaeliaid?
*
Nasareth. El Nazirah. Ystyr y gair yw 'cangen' neu
'le neilltuedig'. Safai'r dref mewn lle anghysbell
ar ffiniau'r mynydd-dir a daeth i fri fel trigfan yr
Iesu am 28 o flynyddoedd. Ond yn ôl pobl Jwdea yn y
cyfnod hwn, dim ond taeogion gwladaidd fu'n byw yn
Nasareth. Enw gwawd oedd 'Y Nasaread' ar Yr Iesu. Yn
y Beibl, er enghraifft, dywedodd Nathanael wrth Philip "A
ddichon dim da ddyfod o Nasareth?" (Ioan 1.48).
Ond daeth y Cristnogion cynnar i ymfalchïo yn yr enw "Nasareniaid".
(Wrth sôn am fab y saer, roedd melin lifio ger y nant
yn ein Nasareth ni ym mlynyddoedd cynnar yr ugeinfed
ganrif.)
Wrth sôn am Nasareniaid, fe ddylem ni gofio am
air gwahanol sy'n swnio'n debyg, sef Nasariaid, y rhai
a gymrodd ran yn un o arferion crefyddol arbennig yr
Iddewon. Addunedai dyn neu ferch am o leiaf 30 diwrnod
neu am oes i beidio â thorri ei (g)wallt, yfed gwin,
cyffwrdd â chorff marw ac yn y blaen (Num.6). Ymlith
y Nasariaid parhaus yr oedd Ioan Fedyddiwr, Samuel
a Samson. Ystyr y gair Hebraeg yn llythrennol yw 'ymneilltuo.
Pwy oedd Pelyn?
Yn ôl un chwedl, dioddefai Sant Pelyn neu Peulyn,
(Paulinus yn Lladin) yn aml o achos cur pen
enbyd. Gwaethygodd ei gyflwr cymaint nes iddo golli
ei olwg yn llwyr. Ond wedyn, clywodd Lais yn dweud
wrtho, "Cei di dy wella drwy arddodi dwylo gan
un o’th ddisgyblion dy hunan." Ceisiodd
Samson a Gildas eu gorau heb lwyddiant. Ond ar ôl i
Ddewi Sant roi ei ddwylo ar ben Pelyn, gwellodd yr
hen ŵr yn llwyr.
Credir mai ar Fynydd Llanllyfni y digwyddodd y wyrth
yma neu, o leiaf, enwyd y lle ar ôl y digwyddiad rhyfedd.
Mae'n chwedl hyfryd, (er ei bod yn siomedig i
rai wrth golli cysylltiad fel hyn efo'n nawddsant)
yn Hen Fynyw yn Nyfed y trigodd Pelyn (un
o’r ysgolheigion mwyaf disglair ei oes) a’i
fynachod.
Enw poblogaidd iawn oedd Pelyn yn ystod y Canol Oesoedd
yn ôl yr Athro Bedwyr Lewis Jones. Felly does dim rhyfedd
gweld enw lleol fel Tirion Pelyn (nid efo’r ystyr
mwyn neu garedig) ond Tiroedd Pelyn hefyd, Llidiart
Pelyn a Phen Pelyn ei hun sy’n ffinio ar Dirion
Pelyn.
Rhybuddiai Syr John Morris Jones, "Fydd ‘na
neb ond ffyliaid yn treio esbonio enwau lleol!". |