Hanes Hugh Hughes o Nasareth
Dyma ran o erthygl a ymddangosodd yn Ninnau,
Papur Cymraeg i Ogledd America yn 1993, gan John A.
Jones, a Joan L. Jones o Granville, Efrog Newydd. Ein
diolch iddynt am ganiatau i ni gyhoeddi’r erthygl
hon.
Mae John A. Jones yn rheolwr ar yr Amgueddfa Lechi
yn Granville ac mae ganddo ddiddordeb mawr mewn cysylltiadau
Cymreig sydd yn rhan o hanes chwareli Granville.
Dechreuodd y gwaith cynhyrchu llechi o ddifri yn 1850au.....gan
ddenu llu o weithwyr o Gymru yn ystod y cyfnod 1853
i'r 1900au cynnar - mae cymaint o hanes amdanynt. Denodd
y chwareli lawer o fewnfudwyr eraill hefyd, gan greu
gymysgedd go iawm o ddiwylliannau. Am fwy o wybodaeth,
ewch i www.slatevalleymuseum.org -
mae'r wefan yn werth ei gweld.
Hugh W. Hughes; "Llechfrenin America"
Petaech yn cerdded trwy fynwent Elmwood yn
Middle Granville, Efrog Newydd, busasai’n amhosib i
chwi beidio sylwi ar gofgolofn anferth a fyddai’n
addas i Frenin.
Fe'i
cerfiwyd o garreg wenithfaen, a’i gosod
mewn man amlwg iawn o’r fynwent, i gofio am Hugh
W. Hughes, Y Llechfrenin o Nasareth ger Llanllyfni.
Dyma a barodd i'r Dr Arturo Roberts, golygydd
papur newydd i Gymry Alltud, 'Ninnau' i ymweld â’r
fynwent.
Parodd cwestiynau Arturo i Joan L. Jones fentro ymchwilio
i gefndir gwrthrych y cerflun a adnabyddid fel ' The
Slate King of America'.
Nid chyfyngwyd yr hanes i’r ardal leol,
ond fe soniwyd amdano yn Americans from Wales gan
Edward
G. Hartman. Datgelodd yn 'The History of Washington
County 1737 - 1878' - his shipments in 1876 were
twenty three thousand squares of roofing - slate enough
to be called the "Slate King!"
Ar y cerflun godidog a edrychai dros y dyffryn
mae’r
sgrifen yn cofnodi iddo gael ei eni ar Dachwedd 25ain
1836 "at Trion Pilyn, Plwyf Llanllyfni, Caernarfon,
North Wales." (Tirion Pelyn, Nasareth yw’r
cyfeiriad cywir!)
Yn
llyfrgell Pember yn Granville mae ffeiliau’r
papur lleol y Granville Sentinel ar ffurf microfilm.
Ynddynt ceir y dyfyniad canlynol o golofnau Main Street
gan Morris Rote-Rosen, a sgrifennodd lawer am bobol
amlwg, a heb fod mor amlwg, o’r dyffryn llechi.
Roedd Hugh W. Hughes yn un o naw o blant,
ac yn 21 oed pan gyrhaeddodd yr Unol Daleithiau.
Nid oedd
ganddo
fwy na $5 o arian i’w enw, a theithiodd i Dolgeville,
Wisconsin, ble cafodd waith yn y chwareli plwm.
Pan glywodd hanesion am y nifer cynyddol o
Gymry oedd wedi ymfudo i Ddyffryn Mettowee, penderfynodd
adael
am y dwyrain. Yn 1859, cyrhaeddodd Scotch Hill, Fair
Haven, Vermont. Roedd tynfa chwareli llechi yn gref
i Gymro o Ddyffryn Nantlle, a chafodd waith yn Vermont.
Yn ddiweddarch, gweithiodd yn Hampton, Efrog Newydd,
ar ochr Efrog Newydd o’r Dyffryn Llechi fel yr
adnabyddid yr ardal hon bellach.
Yn 1865, trwy fyw yn gynnil, llwyddodd i agor
chwarel yn Fair Haven, Vermont. Gwerthodd chwarel
Vermont ychydig
flynyddoedd yn ddiweddarch, a gwnaeth elw o $400. Gyda’r
arian hyn yn ddiogel, symudodd i Granville, Efrog Newydd,
gan gymryd prydles ar chwarel yn Hampton, ychydig filltiroedd
i’r gogledd o chwareli eraill Efrog Newydd. Profodd
hyn yn gynllun llwyddiannus a phroffidiol, a buddsoddodd
mewn chwarel arall ar eiddo Whiting ar draws ffin y
dalaith yn Vermont.
Gwenai ffawd ar Hugh Hughes, ac agorodd chwareli eraill
yn Pawlet, Vermont, gan werthu rhai chwareli eraill
am elw sylweddol. Roedd yn berchen ar nifer o chwareli
cynhyrchiol yn Granville, Efrog Newydd, ac yn Pawlet,
Vermont. Enynnodd barch ac edmygedd, a datblygodd yn
arweinydd yn y gymuned fusnes.
Prynodd
y tŷ mwyaf godidog yn sir Granville.
Safai ar safle'r llyfrgell ac Amgueddfa Pember presennol.
Talodd $7,000 am ei dŷ, y pris mwyaf i'w dalu
am dŷ yn yr ardal bryd hynny. Prynodd ddodrefn
drudfawr, yn ogystal â darluniau, celfi addurniadol
a dodrefn o Gymru. Datblygodd ei gartref i fod yn 'fan
arddangos' i’r ardal gyfan.
Cynhyrchodd 43,000 o lechi yn ei chwareli ei hun,
ac yn ogystal prynodd 14,000 o lechi gwyrdd gan chwareli
eraill a 2,200 o lechi cochion.
Yn 1875, bu’n gymorth i sefydlu’r Granville
National Bank, y banc cynta ym mhentre Granville. Ddwy
flynedd yn ddiweddarach, fe'i gwnaethpwyd yn llywydd
y Banc, swydd a gyflawnodd hyd ei farwolaeth. Roedd
yn arweinydd mewn gwleidyddiaeth lleol, ac yn aelod
o’r ' Republican County Committee'. Roedd heyfd
yn gyfarwyddwr y ' Salem National Bank' yn Salem, Efrog
Newydd.
Ar ôl ei farw yn 1890, gadawodd stad
werth $125,000 a pholisi yswiriant gwerth $15,000.
Yn ôl Mr. Rote-Rosen, roedd y ffortiwn
y casglodd Hugh W. Hughes yn gamp rhyfeddol am ddau
reswm.
Y rheswm cyntaf oedd fod y gost o gynhyrchu un llechen
yn y 1800au ar gyfartaledd tua $2.00 gyda phris gwerthu
ar gyfartaledd isel llechi gwyrdd rhwng $4.00 i $4.25
y llechen.
Yr ail reswm pam fod camp Hugh W. Hughes mor
enfawr oedd na fu iddo erioed fynychu ysgol ddyddiol.
Fe'i
gorfodwyd i weithio am ei fywoliaeth, ac aeth trwy
fywyd heb allu ysgrifennu mewn unrhyw iaith. Yn ôl
yr hanes, dim ond arwyddo ei enw oedd o’n gallu
wneud. Ond wedi dweud hyn, os nad oedd Hugh Hughes
yn gallu 'sgrifennu, yn sicr roedd yn gallu cyfrif!
Os oes gan unrhyw ddarllennwr Lleu wybodaeth
bellach am y gŵr hynod hwn o Nasareth, neu am
ei deulu, cysyllter ag O.P Huws, Bryn Gwyn, Nasareth,
Llanllyfni ar 01286 881176 os gwelwch yn dda.
Mae Dyffryn Nantlle yn ardal cloddio llechi draddodiadol,
er bod y chwareli wedi cau erbyn hyn ac yn dal yn gadarnle
o Gymreictod, efo cymunedau agos.
Gadawodd Hugh W. Hughes a channoedd o ddynion ifanc
eraill y dyffryn yn ystod yr 19 ganrif er mwyn osgoi
gweithio yn y chwareli llechi oedd yn eiddo i dirfeddianwyr
ac ysbeilwyr cyfoethog o Saeson.
Anfonai rhieni eu plant i weithio yn y chwareli yn
ifanc iawn, ac fel Hugh W. Hughes, yr unig addysg ar
gael oedd yr ysgol Sul Gymraeg.
gan O.P Hughes |