Mathonwy Hughes
~ 1901-1999
Prifardd, Llenor, a Chyn-Ddisgybl o Ysgol Nebo
Ganwyd yn unig blentyn ym Mryn Llidiart, tŷ yng ngodre mynydd Cwm Silyn. Lle a fu gartref i dair cenhedlaeth, ac a gododd ddau Brifardd. Roedd Robert Roberts (Silyn) yn Ewythr iddo.
Roedd ei dad Joseff Hughes yn un o 8 o blant, ac yn Chwarelwr, a’i fam Ellen yn gweithredu fel gwniadwraig (dressmaker). Roedd hi’n darllen llawer yn y Gymraeg ar Saesneg, ac yn ddynes wybodus a deallus iawn, gyda’r tŷ yn llawn llyfrau, a dyna mae’n debyg ble gafodd Mathonwy flas a diddordeb mewn llyfrau. Er mae dim ond deud ychydig mwy na IES a NO oedd ei dad yn gallu neud yn Saesneg.
Llun: Mathonwy Hughes.
Roedd Bryn Llidiart yn lle anial ac unig iawn ac yn bell o bobman. Yr unig ffordd drol i fynd yno oedd heibio hanner y mynydd ac roedd hynny'n cymryd oes i gyrraedd. Roedd bywyd yn galed iawn pryd hynny, cyflogau yn isel, a rhan fwyaf yn gorfod trio neud bywoliaeth yn gweithio yn chwareli’r dyffryn, ac yn cadw buwch a defaid ar ychydig o dir mynyddig. Aeth neb i Fryn Llidiart ar eu holau hwy. Amser fu unig denant y lle byth wedyn a hawliodd y mynydd ei eiddo yn ôl ers blynyddoedd.
Defnyddio’r llwybrau oedden nhw ran fwyaf, ac i Danrallt roedd Mathonwy yn mynd gan amlaf, gan gerdded pob cam. Roedd 'na ddwy siop yno pryd hynny, a thrigolion y tai yn Gymry Cymraeg bob un. Roedd Mathonwy yn selog iawn yng Nghapel Tanyrallt, ble cynhelid cyfarfodydd llenyddol o fri, gyda chystadleuwyr yn teithio o bell i gystadlu, a hynny ar Ddydd Nadolig.
Dau ddyddiad oedd yn bwysig i blentyn y cyfnod hwnnw: Diwrnod Ffair Llanllyfni ar y 6ed o Orffennaf (Gŵyl Rhedyw Sant), a Diwrnod Cwrdd Llenyddol Capel Tanyrallt ar Ddydd Nadolig.
Cafodd ei addysg gynnar yn Ysgol Gynradd Nebo yn 7 oed. Cerddai trwy dair milltir o gorsydd, ymhob tywydd i gyrraedd yr Ysgol, gyda'i ginio o frechdanau gydag o. 'Ddaru Mathonwy gymryd diddordeb mawr mewn barddoni a llenydda a sylweddolwyd yn gynnar iawn fod ganddo gryn dalent naturiol, gan iddo ennill mewn cystadlaethau sgwennu i blant yn 10 oed.
Roedd Nebo bryd hynny yn ysgol lawn i fyny i'r seithfed safon, ond yn anffodus cafodd Mathonwy waeledd, a chollodd y cyfle i fynd i Ysgol Dyffryn Nantlle ac felly fe aeth i Ysgol Clynnog. Oedd y darnau uchaf o’r rhostir ym mhlwyf Clynnog pryd hynny nid ym mhlwyf Llanllyfni fel y mae heddiw.
Cyfnod hapus oedd cyfnod Mathonwy yn Ysgol Nebo dan oruchwyliaeth y prifathro T.H. Griffith, ac er i'r Prifathro fod yn Gymro glân, Saesneg oedd iaith yr ysgol. Roedd T.H.Griffith hefyd yn cadw siop. Ni allai Mathonwy ddirnad sut yr oedd Mr Griffith yn siarad Cymraeg gyda mam Mathonwy yn y siop, a Saesneg pob gair efo'r plant yn yr ysgol.
Ugain oed oedd Mathonwy pan drawyd ef gan y clwy’ cystadlu am gadeiriau eisteddfodol, ac enillodd ei gadair gyntaf yn Eisteddfod Talysarn ar y testun 'Gwastadedd Meira' o'r Hen Destament. Dechreuodd gystadlu am gadeiriau mewn eisteddfodau go iawn, a chafodd gryn lwyddiant. Enillodd dair cadair yn y flwyddyn hon, ac un arall pan yn 22 oed.
Priododd ym 1954 cyn mynd ymlaen i ennill ei gadair Eisteddfodol yn Eisteddfod Genedlaethol Aberdâr yn 1956. Cofiai cychwyn am 7.00 o'r gloch y bore mewn fan i nôl y gadair. Daeth yn ail yng nghystadleuaeth y Goron yn y Bala yn 1967.
Gweithiodd Mathonwy am gyfnod fel gwerthwr yswiriant, yn teithio o amgylch yr ardal ar ei fotor beic, ond ei brif ddiddordeb oedd barddoni, ac yn arbennig gwneud englynion.
Pan ddaeth y rhyfel roedd Mathonwy yn benderfynol o beidio ag ymuno â'r fyddin, am na fedrai ei ddychmygu ei hun yn lladd neb, ac roedd yn ei eiriau ei hun yn ormod o gachgi i fod yn wrthwynebydd cydwybodol, felly ymunodd â'r Gwasanaeth Gwladol. Ar ôl y rhyfel fe gafodd wahoddiad gan Wasg Gee i fod yn is-olygydd y Faner, a derbyniodd yn llawen. Roedd ei ewythr Silyn yn arloeswr ac fel un o sylfaenwyr Cymdeithas Addysg y Gweithwyr a chynigodd waith i Mathonwy fel athro. Bu Mathonwy yn Athro ar ddosbarth yn Ninbych am gyfnod o 25 mlynedd.
O 1949 hyd 1977 yr oedd yn Is-Olygydd “Baner ac Amserau Cymru”.
Cyhoeddodd sawl cyfrol o farddoniaeth ac ysgrifau, ac un gyfrol o feirniadaeth Lenyddol: Ambell Ganu (1957); Corlannau (1971); Myfyrion (1973); Creifion (1979); Dyfalu (1979); Awen Gwilym R. (1980); Gwin y Gweunydd (1981); Atgofion Mab y Mynydd (1982, hunangofiant); Chwedlau'r Cynfyd (1983). Enillodd ei blwy' fel un o brif lenorion ein gwlad.
Mae ei lyfr “ Mab y Mynydd” yn gofnod gwerthfawr o fywyd yng Nghwm Silyn mewn cyfnod sydd bellach wedi dirwyn i ben. Mae hiraeth Mathonwy yn amlwg wrth iddo son am ei atgofion, ac am ei brofiadau bore oes yn yr Ucheldir.
Adeiladwyd ysgol Nebo yn 1878, ac yn 1978 cynhaliwyd noson i ddathlu'r canmlwyddiant, gan estyn gwahoddiad i Mathonwy. Cafwyd straeon difyr iawn gan Mathonwy am ei ddyddiau cynnar, ac i gofio'r digwyddiad cyfansoddwyd englyn arbennig i Ysgol Nebo.
Cofiaf, fel llawer cyfoed,
- ei haddysg,
Yn nyddiau ieuengoed;
Ar hon sy'r herio henoed
Gwened haul,
hyd ddeugant oed.
Hir oes i'r Ysgol fach yn y wlad bu'n fagwraeth i gewri ein llenyddiaeth.
gan O.P Huws.c.c. |