Pwyllgor Ardal Nebo a
Nasareth
Sefydlwyd Pwyllgor Ardal Nebo a Nasareth rai blynyddoedd
yn ôl i hyrwyddo pob mathau o weithgareddau er
lles y gymuned, i godi arian i weithio fel cylch trafod,
a bod yn llais i'r ardal wrth ymwneud â chyrff
cyhoeddus.
Aelodaeth y pwyllgor yw holl drigolion Nebo a Nasareth
sydd dros 16 oed, neu unrhyw oedolyn sydd â diddordeb
yng ngweithgareddau'r pentrefi.
Mae nifer o weithgareddau wedi'u canoli yn yr Ystafell
Gymuned, a gall unrhyw breswylydd ofyn i'r pwyllgor
rheoli am ei defnyddio.
Ein prif ffynhonnell ariannol yw'r Clwb Cant, sy'n
rhoi gwobr o £15 yn fisol. Dim ond £1 y
mis, neu £12 y flwyddyn, yw'r tanysgrifiad. Cynhelir
cyfarfod bob mis.
Swyddogion Cyfredol:
• Cadeirydd - Yvonne Mosely, Capel Bach, Nebo.
• Is-gadeirydd - Kim Parry, Ty Capel, Nasareth.
• Trysorydd - Kevin Smith, 1 Fron Dirion, Nebo.
• Ysgrifennydd - Lin Heath, Ty'n Pant Uchaf, Nebo.
|