Hanes Dyffryn Nantlle

Nebo a Nasareth

 
 
 

Y Parchedig Robert Jones - Ochr y Foel, Llanllyfni ~ 1806-1896

Ganed Robert Jones mewn ffermdy o'r enw Dolwenith ger Llanllyfni ar 14 Tachwedd 1806. Bedyddwyd ef pan yn bythefnos oed yn Eglwys Sant Rhedyw. Pan yn bedair oed, symudodd ei deulu i Gae'r Waun yn yr un plwyf. Roedd yn byw yno am tua 28 o flynyddoedd. Symudodd i dŷ ei wraig, sef Ochryfoel, Mynydd Llanllyfni, lle bu'n byw am dros 58 o flynyddoedd. Gwir Fab y Fro ydoedd, ac, yn ôl y sôn, dylanwadodd y gwrthgyferbyniad rhwng y golygfeydd rhamantus a bywyd caled y Werin yn gryf arno.

Ieuenctid

DolwenithMynychai Ysgol Sul y Methodistiaid a gynhelid yn nhŷ Catrin Samuel, yn ymyl Rhwng y Ddwy Afon. (Dim ond adfeilion sydd i'w gweld yn awr.)

Llun: Dolwenith, lle ganwyd Robert Jones yn 1806.

Cafodd flwyddyn yn unig yn Ysgol Ddyddiol Eglwys Llanllyfni, ac yntau yn 12 oed. Roedd rhaid i ddisgyblion fynd i bob gwasanaeth ar y Sul, ond cosbwyd ef yn gorfforol llawer o weithiau am fod yn absennol o'r eglwys.

Gweithiai yn y chwareli fel rwbelwr - gan na fu fawr o ddewis i fechgyn yn y cyfnod hwn. Ond gwirionai mewn llyfrau.

Ochr y FoelLlun: Ochr y Foel, lle trigai Robert Jones am 58 o flynyddoedd. Yn y llun mae ei ferch, Ann Owen gyda'i gwr.

Troedigaeth

Er fod ganddo ddim amynedd efo Eglwys Loegr, yr oedd Rheithor Sant Rhedyw, John Jones, yn gymwynasgar wrtho, yn benthyg neu roddi llyfrau iddo. Dros y blynyddoedd, casglodd nifer fawr o'r llyfrau gorau am Ddiwinyddiaeth. Parhaodd eu cyfaillgarwch hyd at farwolaeth John Jones. Yn agos iawn i Gae'r Waun trigai Alsi Hughes, aelod selog o Eglwys y Bedyddwyr, Felingerrig. Byddai Robert Jones yn ymweld â hi yn Nhaleithin Isaf yn gyson er mwyn trin a thrafod ei fuchedd a'i amheuon ynglŷn â dysgeidiaeth y Methodistiaid. Wedyn, cafodd droedigaeth, a bedyddwyd ef yn Afon Llyfni... Yn 1834, dechreuodd bregethu. "Unigolydd, dyn bler a diofal ei olwg, heb ddeall natur ei gyd-ddyn" medd rhai, - ond i'r rhai a'i adnabu o'n iawn, "crefyddwr arallfydol, ansigledig ei argyhoeddiadau a chyfaill teyrngar". Ordeinwyd ef yng Nghapel Ebeneser, Llanllyfni ym 1836.

Priodas

Robert Jones yn 40 oedDechreuodd ymweld â Mrs Margaret Hughes, gwraig weddw yn nhŷ ei thad a mam - Ochryfoel. Ganwyd hi ym Maes y Geirchen, ger Bangor yn 1800. Enw ei thad oedd John Thomas - mab hynaf Thomas Pritchard, Ochryfoel, Llanllyfni. Ann, merch hynaf Maes y Geirchen, oedd ei mam. Symudon nhw i gadw gwesty y Four Crosses ger Porthaethwy 1805-7(?). Bu farw ei nain yn 1817, ac etifeddod ei thad Ochryfoel. Priododd Margaret â John Hughes ei chefnder, aned yn 1798. Dyn golygus yn ôl y sôn a fu farw o'r darfodedigaeth yn 1828. Bedyddiwr o ran barn, medden nhw. Bedyddwyd hi yn Afon Llyfni, haf 1829.

Llun: Robert Jones yn 40 oed.

Roedd Robert Jones yn byw yng Nghae'r Waun o hyd. Ond er bod yn daith o ryw filltir, roedd yn anhwylus iawn. Mi âi dros yr afonydd, y waliau a'r corsydd i'w gweld. Byddent yn darllen ac yn siarad yn gyffredinol, fel aelodau o'r un capel. Ar ôl rhai misoedd awgrymodd Margaret na ddylen nhw ddim cwrdd gyda'i gilydd mor aml rhag i bobl ddweud mai cariadon oedden nhw. Atebodd Robert "Ond ydan ni yn caru, a pha waeth iddynt ddweud neu beidio." Yn ystod y gaeaf 1837-8, gwisgai ei glocsiau a chario lantern yn ei law gan fod y tir mor wlyb a'r nos mor dywyll. Weithiau, byddai Marged yn chwerthin ar ei ben, mor ryfedd oedd ei olwg! Roedd ateb i'r sefyllfa anghyfleus yn amlwg. Felly, priododd Robert â Margaret ar 23 Chwefror 1838. Etifeddodd Margaret y tyddyn rhai blynyddoedd wedyn. Buont yn byw yn Ochryfoel hyd at y diwedd.

Meddai, "Yn nghanol pob anfanteision cafodd lonyddwch rhagorol oddiwrth drafferthion bydol am lawer o flynyddoedd. Trefnodd Rhagluniaeth Fawr y fraint hon iddo, trwy gael gwraig ffyddlawn ac ymroddgar, i gymeryd arni ei hun ei holl ofalon bron yn hollol. Gwnaeth hyny hefyd yn dra ewyllysgar a dirwgnach. Y mae wedi gwneyd mwy iddo ef yn yr ystyr yma nag a wnaeth pawb arall yn nghyd." Bu hi farw 10 Ionawr 1875.

Ymgyrch dros addysg

Ymddengys fod Mr Jones yn teimlo ar hyd ei oes oddi wrth fawr ddim o fanteision addysg yn more ei oes. "Y mae diffyg manteision dysgeidiaeth" ebe fe "yn un pwysig, y mae yn ddiffyg y mae yr ysgrifenydd wedi ei deimlo yn ddwys yn wyneb llawer o anturiaethau a gymerodd mewn llaw".

Roedd Rheithor Llanllyfni, John Jones,hefyd yn awyddus iawn i godi Ysgol Frytanaidd yn y pentref (er, fel Eglwyswr, a ddylai fod o blaid Ysgol Genedlaethol, derbynodd y ffaith bod rhan fwyaf y bobl yn Ymneilltuwyr).

Yn ôl William Hobley, priodolir codi Ysgol Frytanaidd yn Llanllyfni i Gwrdd Misol y Methodistiaid a gynhaliwyd yn Nebo ym 1860. (Yn Capel Bach - ni chafodd y Capel Mawr ei agor tan 25 Mehefin 1861.) Er nad oedd Robert Jones, Ochr-y-Foel, yn aelod o'r Cwrdd Misol, mynychodd y cyfarfod i bwysleisio'r angen am ysgol. Beiodd y Methodistiaid i'w hwynebau mai hwy oedd ar fai am nad oedd ysgol ar gael. Yr oeddynt yn fwy niferus nag un blaid eglwysig arall.

Credir mai ymosodiad Robert Jones a barodd fod tri Methodyn, sef Thomas Jones (Swyddfa'r Post), William Jones (Coed Cae Du) a Robert Roberts (Nant- y Gwyddel), yn ymgynghori â'i gilydd, ac yn penderfynu bod William Jones i fynd i Fangor i geisio cael John Phillips i bwyso ar yr awdurdodau priodol i gael ysgol i Lanllyfni (agorwyd yr ysgol ym 1862).

Robert Jones yn 95 oedDywedir yn ei gofiant iddo gael y parch mwyaf gan y Parch. John Jones, Talysarn, un o'r Methodistiaid mwyaf dylanwadol ei oes. Yr oedd yn gyfaill deyrngar iddo, amddiffynnai ef ym mhob achos pan fyddai rhai yn ei ddilorni.

Penodwyd ef yn Llywydd y Bedyddwyr Cymreig ym 1880.

Cyhoeddodd 12 o lyfrau, y pennaf yw ei gasgliad Gemau Duwinyddol, a llafuriodd yn galed i'w gwerthu gyda'r unig fwriad o rannu yr ychydig elw a gawsai i geisio cynnal amryw fannau gweiniaid rhag suddo. Ysgrifennodd nifer fawr o emynau hefyd.

Yn ystod Rhyfel y Degwm, roedd yn Rhyddfrydwr selog.

Llun: Robert Jones yn 95 oed, pum mis cyn ei farwolaeth ym 1896.

"Pan gyrhaeddodd y llonyddwch terfynol oddi wrth drafferthion bydol parhaodd yn ddioddefgar yn ei gystydd. Gofalai ei ferch yn dirion amdano." Bu farw yn dangnefeddus ar Ddydd Gwener y Groglith 3 Ebrill 1896. Claddwyd ef ym mynwent Ebeneser lle bu'n weinidog am 60 mlynedd.

Gemau Duwinyddol

Yn mis Gorffennaf 2007, derbyniodd nantlle.com e-bost gan Jessica Blank a ysgrifennodd atom wedi iddi ddarganfod copi o gasgliad Robert Jones, Gemau Duwinyddol, mewn siop elusen yn Florida bell (neu 'thrift shop' fel y'i gelwir yn UDA).

Bu Jessica cystal a gyrru'r delweddau canlynol wedi'i sganio o'r llyfr i nantlle.com:

Clawr Gemau Duwinyddol gan Robert Jones
Llun: Clawr Gemau Duwinyddol gan Robert Jones.

Cyflwyniad Gemau Duwinyddol gan Robert Jones
Llun: Cyflwyniad Gemau Duwinyddol gan Robert Jones.

  Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C Cascading Style Sheets (CSS) Dilys