Hanes
Siop
Nasareth
Nid oes gennyf wybodaeth am y siop cyn 1936 – dim ond mai Ann Jones oedd yn ei
chadw. ‘Roedd Ann yn wyres i John Jones Bryngwyn ac
yn chwaer i fy nhaid William Jones Bodychain.
Yn 1936, fe dorrodd iechyd Ann Jones ac aeth fy nhad
a mam i helpu am ryw fis neu ddau. Ond aeth y mis neu
ddau yn chwe blynedd tan 1942.
Tyfodd y busnes yn un
llewyrchus, hyd yn oed ym mlynyddoedd cyntaf yr Ail
Rhyfel Byd. Y silffoedd yn llawn stoc bob amser. Morris & Jones oedd y prif gyflenwyr a chofiaf y lori yn
iawn – gyda llun bachgen tywyll ei groen yn hysbysebu "Black Boy Tea" (tybed
a fyddai hynny yn hiliol erbyn heddiw?). Oes oeddech yn ysmygwr,
roedd dewis da ar eich cyfer - Baco Amlwch, Baco Siag,
Tom Long,
Golden Flake a sigarennau fel Players, Capstan, Craven
A, Woodbine
dwy geiniog a.y.b.
Ar wahân i fwydydd arferol groser, rhaid oedd gofalu am ddigon o bowdwr golchi,
heb anghofio'r lliw glas.
Eitem bwysig arall oedd
oel lamp, a hefyd gwydrau ar gyfer y lampau. Esso fyddai'n
danfon y cyflenwad oel ac yn ei drosglwyddo
i danc go helaeth yn
y siop, tu
ôl i balis ar yr ochr chwith. Wrth gwrs roedd yn rhaid mynd a chan oel
lamp eich hun i'w nôl.
Cofiaf yn dda'r arwydd glas gan Esso y tu allan i'r siop "WHITE ROSE OIL".
Ar
ochr dde i'r siop ‘roedd Swyddfa'r Post, yma hefyd roedd y ffôn – cyn
dyfodiad y blwch ffôn tu allan. Os am ei ddefnyddio
i alw rhif (yn Lerpwl dyweder) rhaid i ddechrau galw'r
gyfnewidfa ym Mhenygroes trwy droi handlen yn perthyn
i'r peiriant. Yna rhoi manylion i'r cysylltydd,
ac yntau wedyn yn cysylltu â chyfnewidfa bellach a phellach hyd y byddai'r
rhif
wedi ei gysylltu.
Roedd yn amhosib cynnal sgwrs breifat gan fod pawb yn y siop yn gallu
clywed popeth!
'Roedd Postman lleol,
John Owen Bryn Mawr, ynghlwm â'r Post yn Nasareth.
Ef fyddai'n dosbarthu'r llythyrau ar droed i lefydd
fel Caerau, Cwmbrân,
Llwynbedw,Pennant,
Cae Grasbil, Pen yr Yrfa, a Bryn Melyn, ac yna yn dychwelyd i'r Swyddfa
yn y Siop. Bob Parry, Postman o Benygroes fyddai wedi cludo'r llythyrau
i'r Siop ar ei feic, a byddai ef wedyn yn parhau tua
Nebo gan ddosbarthu ar
ei ffordd,
ac
yna i lawr am Bontlloc ac yn ôl ar hyd ffordd Pen Chwarel i Benygroes.
Nid oes gennyf fawr o gof am werthu blawdiau anifeiliaid o'r warws
yn y cefn, ond roedd y pennill bach yma yn gyfarwydd iawn i ni'r
plant:
Mae yn siop Nasareth, dau ful dall,
Yn cario blawd allan i'r hwn a'r llall,
Yn cario rhan fwyaf i dŷ Mr. Green,
A hwnnw fel cacwn a'i fys yn ei din.
Yn 1942, daeth Mr. a Mrs.
Alwyn Morris i gadw'r siop.
Tybed oes rhywun yn cofio pwy oedd Mr. Green druan! Diolch i Richard Jones, (Dic Dalar Deg Penygroes) am anfon rhywfaint o hanes
Siop Nasareth i ni. Oes oes gan unrhyw un fwy o hanesion
fel hyn cysyllter a post@nantlle.com os gwelwch yn dda.
Cwsmeriaid olaf Siop Nasareth
Caeodd drysau Siop Nasareth am y tro olaf erioed yn hanner cyntaf
2008. Dyma rai o drigolion y pentref a fu ymhlith
cwsmeriaid
olaf
un y siop:
|