Hanes Dyffryn Nantlle

Nebo a Nasareth

 
 
 

Hanes Teuluoedd Rhoslas, Nebo

Atgofion Tom Dulyn Thomas a Harri Wyn Williams

(Mewn cromfachau a llythrenau eidaleg mae gwaith Harri Wyn Williams.
Allwedd: 1. Lle, 2. Enw’r teulu 1928-1938, 3. Gwaith 1928-1938, 4. Cyflwr 1988
)


Gadewch i ni ddechrau yn :-

Glanrhyd

Yn y 1920’s ‘roedd teulu Parry yn byw yno. Ef yn fab i’r clochydd bach. Y plant - Arfon aeth yn Ficer. Elisabeth Ann, Maldwyn a Meirion. Fe enillodd Maldwyn Parry y ruban glas ddwywaith. Symud i’r Gors rhwng Llanllyfni a Penygroes.

Yna daeth teulu William Jones - Wil Barracks.

Prynodd J.T. Jones Paragon y ty a’i adnewyddu - Yna yn ddiweddarach, daeth yn gartre i Robert John a Wanda Williams. (1. Glanrhyd, 2. Wm Jones a’r teulu, 3. Chwarelwr. 4. Cyfannedd)

Rhydlydan

Cartref John Ellias Jones, chwarelwr a blaenor yng nghapel Nebo. Mrs Roberts Cerrig Stympia yn chwaer iddo ac roedd ganddo ddau frawd.

Robert Ellis Jones, tad Mary Ellis Holtham ac Eurwen Jones.

Brawd daeth yn fferyllydd ym Mhwllheli. Fe briododd ei wyres ag Osian Ellis y Telynor.

* Roedd olwyn yn Rhydlydan i gorddi a’r ast fach mewn cadwyn yn troi’r olwyn.

(1.Rhydlydan 2. John Ellis Jones a’r teulu 3. Chwarelwr 4. Cyfannedd)

Cors y Llyn

Ar y dde, ac fe adwaenid rhan o’r gors fel y Ffridd. Llwybr ar draws y gors at Bant-y-Gog.

Tai neu fythynod yn y Gors:
  • Fron Dulyn (1. Fron Dulyn 2. Arthur Parry a’r teulu, 3. Crydd, 4. Murddun)
  • Y Foty (1. Foty Newydd, 2. Mrs Hughes a’i merch, 4. Gwag)
  • Hafod y Llyn (1. Hafod Llyn, 2. Wm Jones a’r teulu 4. Gwag)

‘Rwyn cofio’r teulu Owen yn byw yn Fron Dulyn, ac yna’r teulu Arthur Parry (crydd). Bydd llawer yn cofio Lottie a Nansi Parry.

‘Roedd chwaer i William Jones, gwr Lizzie Jane, (Clochydd) yn byw yn un o’r tai eraill.

Cors y Llyn yn dir comin a byddai rhai yn mynd a gwartheg yno i bori a mynd yno nos a bore i odro.

Uwchben Rhydlydan ar y chwith ‘roedd:
  • Tyddyn Seion (Neu Tyddyn Sion!) cartref y teulu Price (chwarelwyr). (1. Tyddyn Seion, 2. R Price , 3. Chwarelwr 4. Cyfannedd)
  • Neuadd Ddu. Cartref William a Rachel Owen(Jones gynt), a’i nith Laura Pritchard. ‘Roedd ef yn gigydd ac yn mynd oddi amgylch i werthu cig gyda poni a thrap. Yna daeth y teulu Morris Williams. Ef yn gwneud bywoliaeth trwy ddal tyrchod ddaear. Mrs Williams yn chwaer i Bob Owen Croesor. Dau o blant. Harri Wyn ddaeth yn athro Cemeg yn Manchester Grammar School for Boys. Yna daeth mam Wanda Williams i fyw yno. Yn anffodus ni aeth y cyflenwad trydan ymhellach na Rhydlydan. (1. Neuadd Ddu 2. Morris Williams a’r teulu 3. Tyddynwyr 4. Gwag)

Penffridd

Hyd y tri degau ‘roedd yn gartre i hen lanc oedd yn berthynas i deulu Bryniau Cochion.

Ar ol ei amser ef daeth David Roberts a Mrs. Roberts i fyw yno. Ef yn gwerthu llefrith. Tad a mam i Gwawrwen a Dafydd. (1. Pen y Ffridd, 2. D Roberts a’r teulu, 3. Gwerthwr Llefrith. 4. Cyfannedd)

Cerrig y Drudion

Cartref John Enoch Jones a theulu o saith neu wyth o blant. (1. Cerrig Drudion, 2. Richard Jones a’r teulu, 3. Chwarelwyr 4. Cyfannedd)

Bryn Trallwm

Cartref Griffith a Kate Hughes a’i merch Elen Ann a’r mab Humphrey. Ar ol iddynt symud i’r Ty Capel nid wyf yn credu i neb fyw yn yr hen fwthyn wedyn. (1. Bryn Trallwng, 2. Griff Hughes a’r teulu, 3. Chwarelwr, 4. Murddun)

Maes Neuadd

Cartref Hugh Enoch Jones a’i wraig Elin Jones a deg o blant. Pum mab a phum merch. Nid wyf yn siwr o leoliad y bythynnod wedyn. (1. Maes y Neuadd, 2. Huw Jones a’r teulu, 3. Chwarelwyr. 4. Cyfannedd)

Bryn Eithin

Cartref un arall o feibion y clochydd bach. Tad Lizzie Jane.

Mae cysylltiad a theulu dau weinidog a Bryn Eithin. Morgan Griffith gweinidog pur enwog Capel Penmount Pwllheli, a’i frawd oedd yn weinidog yng Nghroesoswallt. Mam y ddau yn fwtsiar yn gwerthu cig yn Nhalysarn. (1. Bryneithin, 2. John Parry a’r teulu, 3. Chwarelwr, 4. Murddun)

Pant-y-Fran

Magwyd teulu nodedig yn y bwthyn hwn. Dau os nad tri prifathro a Malen oedd yn enwog yn y dyffryn fel bydwraig. (1. Pant y Fran 2. Richard Owen a’i ferch 3. Hen Chwarelwr 4. Murddun)

Maen Gaseg

(1. Maengaseg, 2. Wil Williams, 4. Gwag)

Maen Llwyd

Cofio John a Gwen Hughes yn byw yno. Ef o Ynys Mon.

Fe ddeuent i’r capel unwaith y flwyddyn - ar brynhawn Llun Diolchgarwch ac yn cyfrannu’n hael. Yr unig deulu yn yr ardal i dalu gyda siec!

Yn y Maenllwyd yr oedd gwreiddiau’r bardd Gwilym R. Jones, Dinbych wedyn.

(1. Maenllwyd, 2. John Hughes a’i wraig, 3. Chwarelwr. 4. Cyfannedd)

Taleithin 1,2,3

Teuluoedd y Robertiaid yn y tri ty, ac roedd cysylltiad gyda teulu fy hen nain.

Mae’n ardal diethr i mi wedyn, ond gwn am dri cartref oedd yno:

Ty’n Llidiart

Cartref y bardd Silyn Roberts. Bu ef yn ddisgybl yn ysgol Nebo cyn cyfnod fy nhaid yn brifathro. (Prifathro cyntaf ysgol Nebo oedd Griffith Roberts, Bodychain, oedd - yn ol Silyn yn well ffarmwr nag o athro.)

Chwaer i Silyn oedd mam Mathonwy Hughes. Gweler ei hanes ef yn ysgol Nebo yn y llyfryn ar ei ddarlith o drigolion Dyffyn Nantlle. Mae gennyf lythyrau di flewyn ar dafod ganddo yn rhywle!

(1. Bryn Llidiart 2. Teulu Mathonwy Huws, 3. Chwarelwr, 4. Murddun)

Glan Gors Rhoslas

Cartref Robert Alun Roberts ac Annie ei chwaer. Eu tad yn frawd i dad Kate Roberts ac i Edwin Roberts Brithdir Canol. ‘Daeth "Bob Alun" yn Athro "Agri - Bot " yn y Brifysgol. Ymwelydd cyson a’m cartref.

Teulu o ochr ei fam yng Nghae Ffridd, Beudy Mawr, Hafod Esgob, a Phenbryn Ffactri. Ef a’i gefnder Dic Cae’r Ffridd - Richard Thomas Bryniau Cochion wedyn - oedd cyfeillion mynwesol Robert Williams Parry pan welwyd y Llwynog "ganllath o gopa’r" Graig Goch.

Mam R. Williams Parry wedi ei geni yn Nhu Ucha’r Ffordd.

(1. Glangors, 2. Teulu Dr Alun Roberts, 3. Chwarelwr. 4. Cyfannedd)

Ac yn olaf:

Cae Mawr

John Williams yn rheolwr ar chwarel Nant y Fron. Llu o blant a’r cyfan yn mynd i ysgol Nebo hyd fy nhaid sefyll yn ei erbyn mewn etholiad Cyngor Plwyf. Enillodd fy nhaid o UN bleidlais a dydd Llun canlynol symudwyd y plant i Ysgol Llanllfyni.

Felly - Wel dyna ni.

Un peth arall - ‘roedd llwybr troed ar y Graig Goch yn arwain o’r Rhoslas i Gwm Pennant. Byddai dynion y Rhoslas yn ei throedio hi ar y llwybr yma’n gynnar ar fore Llun i weithio mewn chwarel yn y Pennant a dychwelyd ‘nawn Sadwrn. Bywyd caled i’r dynion ac i’r gwragedd oedd yn crybino byw ar dir a ddygwyd o’r mynydd.

  Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C Cascading Style Sheets (CSS) Dilys