Tyddynod
Rhoslas, Nebo
Llun: William
Pritchard a'i wraig Rachel Jones tu allan i dyddyn
Neuadd ddu.
Yn ystod y 19eg ganrif, codwyd tyddynod ar Roslas,
yn bennaf oherwydd datblygiad y chwareli yn Nyffryn
Nantlle. Wrth gymharu a phentref llechi Llanllyfni
yn ei ffurf ruban o derasau ar hyd y ffordd, mae’n
amlwg pa mor wahanol yw Rhoslas. Gweithid y tyddynwyr
yn bennaf yn y chwareli hefyd, ond roedd ganddynt y
cyfle i gadw da byw a thyfu cnydau a roddid iddynt
safon uwch o fyw na trigolion y tai moel. Cymuned gwasgaredig
ydoedd, o fath cyffredin iawn yng Nghymru. Yn yr Alban,
mae’n nhw’n eu galw ‘townships’-hynny
yw: nid pentref niwcliar.
Ceir disgrifiad gwerthfawr am fywyd y tyddynwr yn
Atgofion Mab y Mynydd, gan Mathonwy Huws (Gwasg Gee
1982) Ganed ef ym Mryn Llidiart, Rhoslas. Gweler hefyd
dogfennau yn yr Archifdy, Caernarfon gan W R Williams,
Harri Wyn Williams ac eraill. Cafodd gyfres o’u
erthyglau eu cyhoddu yn y papur bro Lleu yn 1986-1987
a 1990- 1991. (Mae rhain i’w gweld yn y llyfrgell
cyhoeddus, Penygroes)
Fe ganwyd Dr R Alun Roberts gwyddonwr, naturiaethwr
a darlledwr, yn Nglan y Gors, Rhoslas. Mae ei atgofion
i’w cael yn Hafodydd Brithion ac yn Darlith Flynyddol
Llyfrgell Penygroes 1968 (mae’r llyfryn hwn yn
brin iawn). Ceir hanes amaethyddol yr ardal yn saesneg
yn Welsh Home Spun 1930 (teitl hollol anaddas!)
Rhaid wrth ddarllen gwaith Kate Roberts, a gafodd
ei magu mewn ardal tebyg iawn yn Rhosgadfan.
Yn pryderu am iechyd y genedl, rhoddwyd pwerau i’r
Cynghorau Sir gan y senedd yn 1875 i wella safonau
iechyd y bobl. Yn ôl y sôn, yn Nebo, caed
y canran uchaf yng Nghymru o’ diciäu. Er
nad oedd cyflwr y tai yn achosi diciäu, doedd
lleithder ddim o les i neb a phetasai gormod o bobl
yn byw yn yr un ty, yn sicr, byddai’r haint yn
ymledu‘n gyflym. Dechreuodd ymgyrch "Gorchfygu’r
Darfodedigaeth" yn 1910 ac un o’i cefnogwyr
mwyaf brwdrydig oedd yr athro a phregethwr Silyn Roberts
1871-1930. (Ganed ef hefyd ym Mryn Llidiart, Rhoslas – yn
ewythr i Mathonwy Huws). Ni orchfygwyd diciäu
yn llwyr cyn i’r pelydr-X a’r moddion gwrthfeiotig
cael eu darganfod.
Cafodd yr awdurdodau lleol yr hawl i godi tai cyngor
efo holl gyfleusterau anghenrheidiol. Roedd na nifer
sylweddol o’r tyddynwyr, rhai efo teuleuodd mawr,
yn fwy na bodlon gyda fath cynnig. Codwyd tai cyngor
yn Nebo yn 1933 a 1951.
Cauwyd rhan fwyaf y chwareli erbyn dechrau’r
Ail Ryfel Byd yn 1939. Os oedd gan rywun di-waith ddarn
o dir, buwch, mochyn neu ddefaid, byddai’n amhosibl
hawlio’r dôl, hyd yn oed tasai’r
incwm yn bitw - symudodd nifer fawr oddi ar y tir oherwydd
y rheolau llym. Gan nad oedd digon o swyddi ar gael
yn y Sir, mi aeth rhai i’r ‘Sowth’ (De
Cymru), i Loegr a rhai, hyd yn oed, dros y môr.
Chwalwyd cymdeithas cyfan – gwag oedd cynifer
o’r tai, syrthiodd y waliau cerrig sych – doedd
dim rhaid i ffermwyr eu trwsio, crwydrai eu preiddiau
dros y tir.
Gwerthwyd rhai o’r tai am ychydig gannoedd o
bunnoedd (heb dir gan amlaf) yn ystod ail hanner yr
20fed ganrif, yn bennaf i newydd-ddyfodiaid neu fel ‘tai
haf’. Ond mae tua hanner hen dyddynod Rhoslas
(11 i gyd) yn dal yn adfeilion.
Cyn drigolion Neuadd Ddu
Llun: Llun
priodas William Pritchard a Rachel Jones.
Llun: Rachel
Pritchard a'i chwaer Jane Jones, 1946.
Diolch i Barbara Seaton am y lluniau |