Crynodeb fer o hanes
y pentref
Mae’r ardal yn llawn o safleoedd cyn-hanes,
a chyfeirir at "Nantcyll" ym Mhedwaredd Gainc
y Mabinogi fel y lle y bu gwyr Dyfed a Gwynedd yn brwydro
yn erbyn ei gilydd. Mae Nancall hyd heddiw yn gynwysedig
yn enwau tair ffarm ar gwr y pentref.
Yn Nancall Uchaf, y maged Bryn Terfel, y canwr byd-enwog.
Cychwynnodd ei yrfa gerddorol yng Nghylchwyl Glannau
Dwyfach rhwng capeli Pant-glas, Bwlchderwin, Bryncir
a Brynengan - lle bu ei hen daid, Richard Jones, Y
Gaerwen, yn godwr canu.
Gyferbyn â'r hen dafarn mae'r ffordd yn arwain
at hen orsaf reilffordd yr LMS a redai o Gaernarfon
i Afon-wen hyd 1964. Ffordd feiciau a cherddwyr yw
gwely'r hen reilffordd erbyn hyn, a adwaenir fel Lôn
Eifion ac mae'n ymestyn am bedair milltir ar ddeg o
Gaernarfon i Fryncir.
Yn gwarchod pentref Pant-glas tua'r de mae Moel Derwin
ac ar y llechwedd y tu draw iddi mae Bryn Derwin. Yno
yn 1255 yr enillodd Llywelyn y Llyw Olaf y frwydr yn
erbyn ei frodyr Owain a Dafydd. Mae enwau fel Cae March,
Cae Doctor a Chae Lliaws yn parhau ar y caeau.
Tua'r gogledd ceir mynydd y Graig Goch. Mae'r hen
ffordd bost yn cydredeg â'r ffordd newydd bresennol
ac mae'n arwain o Garndolbenmaen i Nasareth. Ar ochr
y ffordd hon, yr ochr uchaf i Nancall Uchaf, mae hen
gapel arall gan y Methosistiaid cynnar ar dir ffarm
Tai Duon. Mynwent Tai Duon y gelwir y fynwent sydd
yno heddiw. Yma y claddwyd dau frawd a chwaer o Nantcwmbran,
Pant-glas, a fu farw'n ifainc rhwng 1918 a 1924, fel
a ddisgrifwyd yn y bennill isod gan J Roger Owen:
"Marwolaeth Mair a Willie - a Rhisiart
Wna i reswm dewi;
Ond ffydd ddichon fodloni
A gweld trefn mewn galw tri."
|