Chwedl
Garth Dorwen Ffermdy ym Mhenygroes yw Garth Dorwen ac yno amser maith yn ôl roedd gŵr a gwraig
oedrannus yn byw. Un diwrnod aethant i Gaernarfon ar
ddydd Ffair Glangaeaf i gyflogi morwyn. Aethant at
eneth landeg a gofyn iddi oedd arni eisiau lle, ac
atebodd hithau ei bod ac felly cyflogwyd Eilian yn
forwyn i Garth Dorwen. Bryd hynny roedd yn arferiad i nyddu ar ôl swper yn enwedig yn oriau hirnos gaeaf.
Byddai’r forwyn yn mynd i’r weirglodd i nyddu wrth
olau’r lleuad a deuai’r Tylwyth Teg ati i ganu a dawnsio.
Un diwrnod yn ystod y gwanwyn, diflannodd Eilian gyda’r
Tylwyth Teg ac ni welwyd mohoni yn unman. Hyd heddiw
gelwir y cae lle gwelwyd hi ddiwethaf yn Cae Eilian
a’r weirglodd yn Weirglodd y Forwyn. Arferai hen wraig Garth
Dorwen helpu marched ar enedigaeth plentyn a byddai
llawer yn mynd i ofyn iddi am gymorth. Un diwrnod death
gŵr bonheddig i ddrws Garth Dorwen i ofyn a ddoi at
ei briod. Dilynodd yr hen wraig ef at le o’r enw Bryn
y Pibion ac aethant i mewn i ogof fawr. Dyna’r lle
harddaf a welodd yr hen wraig yn ei bywyd. Wrth i’r
hen wraig drin y babi daeth y gŵr bonheddig ati a rhoi
ennaint iddi i iro llygaid y plentyn gan ei rhybuddio
i beidio â chyffwrdd ei llygaid ei hun a’r ennaint.
Ond dechreuodd llygaid yr hen wraig gosi a rhwbiodd
ei llygaid gyda’r bys a ddefnyddiodd i roi’r ennaint
ar lygaid y babi. Yn dilyn hyn, gwelodd drwy’r llygad
hon, wraig yn gorwedd ar dwmpath o frwyn a rhedyn crinion
mewn ogof fawr a cherrig mawrion ar bob ochr iddi,
ac ychydig o dân mewn congl. Gwelodd mai Eilian ei
hen forwyn oedd yno. Aeth amser heibio ac ar
ymweliad a marchnad Caernarfon un diwrnod gwelodd yr
hen wraig yr un gŵr bonheddig unwaith eto. Gofynnodd
iddo "Sut mae Eilian". "O, yn bur dda" atebodd yntau
a gofynnodd iddi "Gyda pha lygad yr ydych yn fy ngweld
i rŵan" "Hefo hon" atebodd hithau gan bwyntio at un
llygad. Cymerodd y dyn babwyren ac mewn eiliad tynnodd
lygad yr hen wraig o’i phen.
|