Hanes Byr y Pentref
Pentref o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg a sefydlwyd
ar gwrs ffordd ganoloesol o Gaernarfon i Glynnog -
ac ar hyd ffordd y 1820au a'i disodlodd yn rhannol,
yw Penygroes. Cnewyllyn y gymuned, a'r nodwedd a
roes iddo ei enw, yw'r gyffordd rhwng y ffordd o'r
cyfnod cyn 1820 a'r ffordd i Gloddfa'r Coed, a'r efail
a sefydlwyd yno tua 1801.
Ehangodd y pentref fel canolfan ar gyfer adwerthu,
bancio a gweinyddiaeth drwy gydol yr 19 ganrif, ac
fe ehangodd ragor ar ddiwedd yr 20 ganrif pan godwyd
tai cymdeithasol a'r stadau diwydiannol yn sgîl
dirywiad y diwydiant llechi a'r chwalfa gymdeithasol
a'i dilynodd.
Adeiladau
Saif yr adeiladau cynharaf ar y brif ffordd (1820au)
drwy'r pentref - sef y Stryd Fawr (Heol y Dŵr).
Codwyd Hen Bost a Siop Griffith, sy'n gyfoes â'r
ffordd, â cherrig lleol yn bennaf. Y rhes a elwir
yn Dreddafydd, a godwyd ym 1837, yw un o'r rhesi diwydiannol
hir cynharaf yng Ngwynedd, ac mae'r toeau wedi eu gwneud
o lechi brith bras o Gloddfa'r Lôn. Mae'r tai
diweddarach ar Ffordd y Sîr yn dilyn llwybr Rheilffordd
Nantlle, a fu'n rhedeg o 1828 hyd 1872; mae'r anheddau
hyn wedi cadw amrywiaeth o byrth addurnol a ffensys
o haearn gyrru.
Cerrig bychain o'r caeau a ddefnyddid yn aml i godi'r
tai diweddarach, megis y rhai ar Allt Doli, Ffordd
Fictoria a Stryd yr Wyddfa, a thybir y defnyddid y
rheiny am nad oedd deunyddiau mwy sylweddol ar gael.
Siopau oedd llawer o'r adeiladau hyn (mae rhai ohonynt
yn dal yn siopau hyd heddiw), ac mae llawer o ffryntiadau
siopau cymharol addurnol o'r 19 ganrif wedi goroesi.
Mae dylanwadau pensaernïol estron i'w gweld
yn y rhes a adwaenir fel y Tai American, a godwyd yn
arddull tai'r peithdir yng nghanol America, ac efallai
mai rhywun a ymfudodd ac a ddychwelodd a'u cododd.
Mae'r ardal yn cynnwys nifer o adeiladau sylweddol o ddiwedd y bedwaredd ganrif
ar bymtheg gan gynnwys yr hen ysgol sirol (1896), yr hen swyddfa bost, sef
banc HSBC bellach a thafarn y Commercial. Mae'r toeau llechi patrymog ar hen
swyddfeydd cwmni Chwarel Riley ar gyffordd Ffordd Fictoria a'r Ffordd Sirol
yn werth eu nodi. Gwelir patrwm tebyg ar y gatws ar y ffordd i Dalysarn.
Mae'r stad ddiwydiannol ar gyrion deheuol yr ardal
yn cynnwys nifer o siediau dur parod ac adeiladau llai
ar gyfer swyddfeydd. |