Gweinidogiaid
Cymru yn anrhydeddu celfyddwraig ifainc leol ~ 16-06-2005
Mae Lowri Fretwell o Benygroes - myfyrwraig Celf yn ei blwyddyn olaf yn Athrofa
Prifysgol Cymru, Caerdydd (UWIC)
wedi ennill y fraint o gael arddangos ei gwaith yn
swyddfeydd Llywodraeth Cynulliad Cymru: yn benodol
yn swyddfeydd y Prif Weinidog Rhodri Morgan ac Alun
Pugh, y Gweinidog dros
Ddiwylliant,
yr Iaith Gymraeg a Chwaraeon.
Dewiswyd y gwaith celf buddugol ar gyfer gwobrau blynyddol y Llywodraeth o sioeau
gradd Celf a Dylunio UWIC,
fel rhan o Ŵyl Ddylunio Caerdydd, 2005.
Cafodd y wobr am y gwaith ar yr Iaith Gymraeg a Chwaraeon ei ennill gan fyfyrwraig
BA (Hons) Celf Cain a Phrintio, Lowri Fretwell,
22 mlwydd oed, o Benygroes am ei gwaith print yn
seiliedig ar hanes a phrofiadau ei theulu.
Llun: Lowri
a'i gwaith celf buddugol.
Gyda themâu cryf o fywyd cartef traddodiadol, mae gwaith Lowri yn cynnwys
tameidiau am ei thaid yn mynd i ymladd yn yr Ail Ryfel
Byd
a'r ffordd y bu'n rhaid i'w Nain gario ymlaen efo ei
bywyd tra 'roedd i ffwrdd. Mae Lowri wedi defnyddio
printio sgrin a gwahanol ddogfennau megis llythyrau
cariadus oes rhyfel a lluniau gan ei thaid i'w nain,
a deunyddiau atgof teulu yn ei gwaith.
"Mae'n anrhydedd fawr i mi ennill y wobr a chael arddangos fy ngwaith
yn Llywodraeth Cynulliad Cymru", meddai Lowri.
"Mae'r flwyddyn olaf wedi bod yn un anodd, ond mae hon yn wobr werth chweil ac
rwy'n falch iawn fod y Gweinidog yn meddwl digon o
fy ngwaith i'w ddewis i gael ei arddangos yn ei swyddfa", ychwanegodd.
Ffynhonell: Athrofa
Prifysgol Cymru, Caerdydd | www.uwic.ac.uk |