Siopau
a Busnesau Penygroes - 1939 a 1989
Diolch i Mr Elfed Roberts am drosglwyddo’r wybodaeth yma i ni.
Oddeutu 1939
Ar ôl dibynnu ar wybodaeth a gasglwyd o lyfr, bellach mae’n rhaid i mi fentro
fy hunan. Gobeithiaf fod fy nghôf ddigon clir i fentro
rhestru’r siopau oedd yn bod o gwmpas y flwyddyn a
nodir uchod. Hwyrach y byddaf wedi gadael rhyw siop
neu fusnes allan o’m rhestr. Mi dybiaf y caf wybod
am hynny!!
Stryd Ucha – O Gwynfa
i lawr i groesffordd Allt Doli / Heol Llwyndu)
Ochr
Chwith
- Lambert a McLocherie
– garej trwsio ceir a phetrol
- 63 – siop Mrs Maggie
Jones – groser ac oil lamp yn
yr ‘entry’
- Gweithdy Saer Robert Owen
- Gwesty Red Lion – tafarn
- Swyddfa’r Dôl
- Siop Auckland – groser / da da / sigarets
- Rhondda House – newyddiadurwyr / groser
/ sigarets / da da
- Bee Hive – cigydd
Ochr Dde
- Capel bach Treddafydd
– gweithdy adeiladwyr Llys Eifion
- Birmingham House
– groser cyffredinol
- Nantlle House – groser / dada
- Ned House – groser cyffredinol
- Steam Bakery - siop fara
/ cacennau
- Steam Bakery
– becws
- 2 Stryd Fawr – cigydd
Ffordd Capel Bethel
- Meddygfa
Dr E Shelton Roberts Gwyddfor
O groesffordd Allt Doli
/ Heol Llwyndu i groesffordd Stryd yr Wyddfa / Heol
Buddug
Ochr Chwith
- Swyddfa’r
Post – John Iorwerth Hughes – Gorsaf teliffon y
cylch
- Banc y Midland
- Richard Williams – cigydd – hefyd yn cario cig
i Dalysarn gyda throl a cheffyl
Ionawr 1989
Rwyf yn sicr fod y rhestr
yma yn gywir gan i mi gerdded o gwmpas y pentref
a nodi faint sydd ar ôl o’r gogoniant a fu. Tri deg
a
thair o siopau oedd yna o gymharu â 82 yn 1939. Felly
yn ystod yr hanner can mlynedd a aeth heibio aeth
hefyd 49 o siopau. Yn 1939 yr oedd 62 o fusnesau eraill
yma
heblaw'r siopau. Yn 1989 y cyfrif oedd 53.
Dyma felly yr ystadegau
ddaeth i’r amlwg:-
- Yn 1939 nifer y
siopau yn 82. Nifer busnesau yn 62 . Cyfanrif 144
- Yn
1989 nifer y siopau yn 33. Nifer busnesau yn 53.
Cyfanrif 86
Stryd Fawr – o Gwynfa
i lawr i groesffordd Ffordd Llwyndu / Allt Doli
Ochr
chwith
- Wynnstanley – warws
gwerthu bob dim
- Siop Rhondda House - Gwyndaf a Tabitha
Hughes – groser
Ochr
Dde
- Garej Treddafydd / Hen
Gapel Bach – trwsio ceir
Heol y Dŵr (o groesffordd
Ffordd Llwyndu / Allt Doli i groesffordd Heol Buddug
/ Stryd yr Wyddfa)
Ochr Chwith
- Banc y Midland
- Fferyllfa
– G L & S Williams
- Bodnant – Meddygfa Dr J C B Thompson
- Y Droell – Edafedd – Mrs Nancy Parry
- Rhif 17 – Newyddiadurwr – Mr a Mrs W H Parry
- XL – Siop sglodion – Selwyn Jones
- Cymdeithas Adeiladu’r Halifax – Siop Isa
- Cohen – dillad
- Co-op
Ochr Dde
- Swyddfa Bost - J
D Bennet Williams
- Siop Nancy Moss – dillad
- Siop Griffiths / Muriau Stores - deunydd adeiladu/
offer tŷ / papur wal
- Banc Barclays
- Siop Waterloo – T & N
A Salisbury cigydd
- Y Gegin Fach – caffi/ siop
- Siop 22 – dillad plant
- Bryn Teg – Meddygfa Dr J Morris Jones
Ffordd Llanllyfni
Ochr Chwith
- Fair View
- Siop dda da / cardiau / sigaréts / ffrwythau
- Modurdy
Dulyn - gwerthu a thrwsio ceir a lorïau
- Clwb Cymdeithasol
Pêl Droed Dyffryn Nantlle
Ochr Dde
- Garej Povey – petrol /
trwsio ceir
Ffordd y Sir
- Siop y Gloch
– groser / sigarets / da da
Maes Dulyn
- Clwb Cymdeithasol y Lleng
Brydeinig Dyffryn Nantlle
Heol Buddug
- Maen Dylan – dodrefn
ail law
- County Salon (Summer Hill) trin gwallt – Nesta
- Llys Meddyg – Meddygfa DR J S
Jones a Dr P G E Crabtree
- Cymdeithas Tai Eryri
- Siop Gareth – cigydd – Gareth & A
Williams
Heol y Bedyddwyr
- Dinorwic
House – trin a thorri gwallt
- Gorffwysfa – Swyddfa
Gofal a Thrwsio Arfon
- Canolfan Gwaith
Sgwâr y Farchnad
- Meddygfa Corwen
– Dr E Elwyn Parry
- J Thomas – gwerthu a thrwsio clociau
/ anrhegion /
tlysau
- Siop Sglodion
- Torwoods – gwerthu a thrwsio peiriannau garddio
- Siop Dick – siop dda da / sigarets
/ nwyddau
- Gwesty’r Afr – tafarn
Ffordd Clynnog
- Swyddfa Menter Lôn
Eifion (lonydd glas)
- Siop Bara Da
Stryd yr Wyddfa (o’r sgwâr
i’r Neuadd Goffa)
Ochr Chwith
- Gwesty Victoria
– tafarn
- Paris House – dodrefn
hen ac ail law
- T Herbert – Siop esgidiau
- J E Jones – ffrwythau a llysiau
- Siop Alwyn a Nora – Newyddiadurwr / da da / anrhegion
/ taclau pysgota / sigarets
- Snowdon Salon
– trin gwallt
- Siop betio
Ochr Dde
- Siop Helen –
edafedd
- Siop Elwyn – bara / teisennau
- Cyhoeddiadau Mei – argraffu / cysodi / dylunio
- Siop Paragon ( Douglas & Enid
Jones) - dillad dynion, merched a phlant
Stad Ddiwydiannol
- Unedau Gwasg Dwyfor
(Dafydd Owen) – argraffu / cysodi / dylunio
- Uned –
gwerthu dodrefn
- Uned – gwerthu rhewfwyd
- Uned – swyddfa yswiriant
- Unedau –storfa J E Jones a’i feibion cyfanwerthwr
llysiau a ffrwythau
- Argraffdy Arfon (Bleddyn Jones)
– argraffwyr
- R J & S
Ltd – sgaffaldwyr
- I O Williams Carmel –iard cludwyr
- ICP – ffatri bapur
Adeiladwyr / Seiri
- Elfyn ac Aled Jones, yr iard Ffordd Clynnog
- Glyn Jones a’i feibion Ffordd Clynnog
- Aled Roberts Ffordd Clynnog
- Neville Ellis, Tynyweirglodd
- Brodyr Davies iard ger teras Llwyn Onn
- R H Roberts, Stryd Ucha
- W G Jones, Bron Meirch
Plymwr
Trydanwyr
- Edwin Lewis a’i
fab Sgwâr y Farchnad
- Dan Wyn Jones, Ffordd Llwyndu
Perchnogion loriau – cludwyr
- Glyn Hughes – Stryd
Ucha
- Gwyndaf Hughes – Rhondda House
- Wyn Williams - Ffordd Llwyndu
- Tom Hughes – Heol Buddug
|