Yr Eryr: Cylchgrawn Ysgol
Dyffryn Nantlle
Dewisiwch un o'r is-deitlau isod er mwyn ymweld â'r
pwnc priodol:
1. Bathodyn
ein Hysgol
2. Rhagfyr
1962
3. Rhagfyr
1963
4. Clybiau
Ysgol Dyffryn Nantlle ym 1972
Bathodyn ein Hysgol
gan Bethan Jones Parry (Dosbarth 1A) o Yr Eryr – Rhifyn
17 – Rhagfyr 1968
Lluniwyd bathodyn ein hysgol gan Mr John Davies, athro
celf ac arlunio. Wrth edrych ar y bathodyn gwelwch
arwyddair additano. Dywed hwn "Delfryd Dysg,
Cymeriad" – geiriau a ddewiswyd gan y Parchedig
Robert Jones, Talysarn. Ond beth am ddisgrifio’r
bathodyn ‘nawr? Ar ben y bathodyn mae tri eryr.
Eryrod Eryri yw’r rhain. Maent yn cynrhychioli’r
mynyddoedd mawreddog a geir yno. Ac wrth gwrs mae Dyffryn
Nantlle yn Eryri. Eryrod melyn yw rhain ar gefndir
o wyrdd.
Y peth nesaf I’w ddisgrifio yw’r llechi.
Ysgol mewn ardal o chwareli llechi yw Ysgol Dyffryn
Nantlle. Mae’r llechi wedi eu ffurfio I awgrymu
crib a tho ty. Gwnaiff hyn I mi feddwl am yrfa ysgol.
Rhaid cael help yr ysgol I gyrraedd uchafbwynt ein
gyrfa yn union fel mae’n rhaid cael help ysgol
wahanol I gyrraedd crib y to. Wedi cyrraedd y crib
mae’r byd I gyd o’m blaen.
Yn sefyll ar Feibl agored gyda’r llechi yn gefndir
iddi mae cwpan o aur gyda thafod o dan yn codi ohoni.
Gan ei bod yn gwpan aur, olew drud sydd yn llosgi ynddi.
Yr addysg a gawn yn yr ysgol yw’r olew. Mae’r
addysg hon yn werthfawr gan fod ein teidiau wedi ymdrechu’n
galed I’w chael I ni a rhaid gafael ynddi gyda
dwy law fel y mae gan y gwpan ddwy glust iddi. Ein
gwaith yw ei defnyddio yn y ffordd iawn. Hynny yw rhaid
inni wneud iddi losgi a fflam goch glir a’I defnyddio
nid yn unig er mwyn ein hunain ond er mwyn pawb arall.
Y mae Iesu Grist yn dweud:
"Ac ni oleuant gannwyll a’I dodi dan lestr,
ond mewn canhwyllbren a hi a oleua I bawb sydd yn y
ty."
I ddangos fod popeth a ddysgwn yn yr ysgol wedi ei
selio arno mae’r gwpan yn sefyll ar Feibl agored.
Dyma paham mae’r arwyddair yn dweud wrthym mai
pwrpas addysg yw ein dysgu ni I fod yn bobl a chymeriad
ganddynt.
[ Yn ôl
i'r Top ]
Rhagfyr 1962
Erthygl o
Yr Eryr gan Menna Owen
Dyma adroddiad gan Menna Owen (blwyddyn V1) am Eisteddfod
gyntaf yr Ysgol i gael ei chynnal yn y neuadd (newydd)
a’r flwyddyn y ffurfiwyd Ty Dulyn. Cysylltwch â ni
os oeddech chi yno ac efallai wedi ennill rhyw gystadleuaeth
arbennig neu hwyrach yn aelod o’r Ty buddugol.
Ers blynyddoedd bellach cynhelid Eisteddfod yr Ysgol
yn Neuadd Goffa Penygroes, ond eleni gan fod gennym
neuadd newydd hardd a llwyfan mawr cyfleus, torrwyd
ar yr hen draddodiad ac yn neuadd newydd yr ysgol y
cynhaliwyd hi. Bu yn eisteddfod lwyddiannus dros ben,
gyda’r holl ddisgyblion yn bresennol a’r
mwyafrif ohonynt wedi ymgeisio mewn rhyw gystadleuaeth
neu’i gilydd. Yr oedd yn amhosib i bob buddugwr
ymddangos ar y llwyfan wrth gwrs, ond darllenwyd enwau’r
rhai buddugol yn y cystadlaethau ysgrifenedig a choginio
gan yr arweinwyr a chynhaliwyd arddangosfa o waith
y rhai buddugol mewn gwaith llaw, arlunio, gwaith coed
a gwaith metel yng nghyntedd y neuadd.
Y beirniad cerdd eleni oedd Mr Gwyn Jones BA LTCL
a’r Parch Gwilym R Tilsley MA, oedd yn beirniadu’r
adrodd. Arweiniwyd yr Eisteddfod gan bedwar disgybl
o’r chweched dosbarth sef: Richard Morris Jones,
Gwenni Williams, Gwynne Pierce ac Arfon Owen Jones.
Derbyniwyd nifer o delegramau gan y cyn-ddisgyblion
yn dymuno’n dda i’r tai ac yr oedd ty newydd
yn cystadlu eleni sef Dulyn (glas) ond er hynny Llyfnwy
oedd y ty buddugol fel arfer!
Gan nad oedd lle i rieni a charedigion eraill yn y
neuadd ddiwrnod yr eisteddfod cynhaliwyd cyngerdd yr
wythnos ddilynol lle yr ymddangosodd y buddugwyr yng
nghystadlaethau’r llwyfan. Cynhwysai rhan gyntaf
y cyfarfod ganu ac adrodd a rhoddodd ty Llifon berfformiad
o ran o Llywelyn Fawr gan Dr Thomas Parry. Yna cyflwynodd
y Prifathro'r Cwr Gwadd sef Erfyl Fychan sydd yn gyn-ddisgybl
o’r ysgol ac yn Gofiadur i’r Eisteddfod
Genedlaethol. Ar ddiwedd ei anerchiad addawodd yntau
y rhoddai gwpan arian i’r Eisteddfod.
Yr oedd trefniant arbennig i ail hanner y cyfarfod
ac yr oedd hwn yng ngofal Mr John L Williams. O dan
ei arweiniad ef a chynhorthwy Mr Peleg Williams, perfformiodd
rhai o’r disgyblion hynaf fath o basiant ac yn
ystod hwn cynhaliwyd seremoni’r orsedd a’r
cadeirio mewn ffordd ddramatig a chofiadwy.
Erbyn hyn y mae Erfyl Fychan wedi cwblhau ei addewid.
Felly yn Eisteddfod 1963 bydd cystadleuaeth arbennig
pryd y bydd y pedwar ty yn ymgiprys am Gwpan Erfyl
Fychan. Y gamp i ddisgyblion y chweched fydd cyflwyno
un traethawd o bob ty ar Lywodraeth Leol ac y mae’r
gwaith ar y gweill yn barod. Felly Silyn, Llifon a
Dulyn beth am dorchi’r llewis o ddifrif o hyn
hyd fis Mawrth a churo Llyfnwy y tro nesaf!!
[ Yn ôl
i'r Top ]
Rhagfyr 1963
Erthygl o
Yr Eryr gan Moira Jones
Adroddiad difyr gan Moira Jones am ymweliad dosbarthiadau
1A a 1B a Chwarel Penyrorsedd pan oedd y chwarel yn
dal i weithio. Tybed pwy sydd yn cofio’r diwrnod
ac a ydi Derek Charles yn cytuno hefo’r adroddiad??…
Dau ddiwrnod cyn gwyliau’r haf aeth dosbarth
1A a 1B mewn bws i weld chwarel Penyrorsedd. Y mae’r
chwarel hon uwchben Nantlle.
Daeth y rheolwr i’n cyfarfod ac aeth a ni yn
gyntaf i weld y twll dwfn sydd droedfeddi lawer i lawr.
Ar waelod y twll yr oedd ychydig o ddynion yn gweithio.
Hwy oedd yn dosbarthu’r cerrig a’r baw
ac yn eu rhoi mewn troliau ac y mae olwyn fawr yn troi
ac yn codi’r troliau.
Gwelsom y cerrig yma yn cael eu cludo i mewn i’r
penty mawr. Yr oedd y cerrig yn rhai o bob maint a
lliw. Wedyn yr oedd y troliau yn mynd ar draws y penty
ac yn cael eu codi gyda chadwynau a’u rhoi ar
y byrddau i gael eu llifio i wahanol fesurau. Y maent
yn cael eu hollti gyda chyn a gordd bren. Cafodd Derek
Charles gynnig ar hollti un o’r llechi a llwyddodd
yn o lew. Wedi eu hollti i wahanol faint yr oedd y
llechi yn cael eu rhoi tu allan mewn rhesi gyda rhai
bach yn gyntaf a rhai tipyn mwy wedyn. Mae lorri yn
dod ac yn eu cludo i wahanol lefydd lle y maent yn
cael eu defnyddio i lawer pwrpas ond yn bennaf un maent
yn cael eu defnyddio i doi tai.
Yn y chwarel hon y mae tua thri deg o ddynion yn gweithio.
Dywedodd y rheolwr wrthym fod llawer mwy yn gweithio
yn y chwarel yn y blynyddoedd a basiodd ond nad oedd
llawer o fechgyn ifanc y fro yn mynd y dyddiau hyn
i gael eu prentisio.
Cawsom fynd i weld y caban lle yr oedd y chwarelwyr
yn bwyta’u cinio. Yr oedd yno le clyd iawn a
dwy setl lle byddai'r dynion yn eistedd i gael eu cinio.
Wedyn aethom i’r swyddfa lle gwelsom rai yn paratoi
cyflogau’r dynion.
Wrth fynd adref aethom i weld y gofaint wrthi’n
brysur. Yr oedd y lle yma yn perthyn i’r chwarel
hefyd ac yr oeddynt yn gwneud cynion o bob sut i hollti’r
cerrig mawr. Yr oedd yn rhaid i ni gerdded adref ac
wrth wneud hynny cawsom lawer o hwyl gyda Mr Jones
a oedd yn edrych ar ein hol. Wrth fynd aethom heibio
dau lyn prydferth. Cawsom fwyta’n bwyd ar ochr
y ffordd ac aethom adref drwy Dalysarn ac yr oeddem
mewn pryd i fynd i’r cinio cyntaf wedyn.
[ Yn ôl
i'r Top ]
Clybiau Ysgol Dyffryn Nantlle ym 1972
Yn y flwyddyn hon roedd 13 o glybiau yn rhan o weithgareddau
Ysgol Dyffryn Nantlle. Mae’r holl athrawon oedd
yn ymwneud a’r rhain yn haeddu pob clod!!
Tybed oes yna rywun yn cofio bod yn aelod o’r
Clybiau isod. Gadewch i ni wybod.
Y Clwb Seryddiaeth
Yn cyfarfod yn ystod y wers olaf
ar ddydd Gwener yn y labordy Ffiseg dan gyfarwyddid
Mr Idris Thomas.
Gobaith yr aelodau oedd adeiladu ysbienddrych i gael
astudio rhyfeddodau’r bydysawd. Tybed a wnaeth
hynny ddigwydd??
Y Clwb Cregyn
Yn ymgynnull ar brynhawn dydd Gwener
dan lywyddiaeth Miss Iola Thomas. Roedd yr aelodau
yn addurno gwahanol
nwyddau gyda chregyn. Hwyrach fod rhai o drysorau’r
clwb ar gael o hyd...
Y Clwb Drama
Clwb newydd ei sefydlu ac yn cyfarfod
yn ystod y wers olaf ar ddydd Gwener ac yn ymarfer
amser cinio neu
ar ôl yr ysgol.
Y Clwb Stampiau
Roedd cryn dipyn o ddiddordeb yn y
clwb hwn ac yn ôl
pob son roedd yr aelodau yn cael cyfle i astudio casgliad
yr ysgol yn ystod y cyfarfodydd. A oes rhai o’r
aelodau yn gasglwyr o hyd?? A beth yw hanes casgliad
yr ysgol erbyn heddiw tybed?
Clwb Cynhaliaeth Modur
Roedd 23 o aelodau yn cyfarfod
yn y gweithdy metel o dan ofal profiadol Mr Ifan
Parry. Roedd yr aelodau
yn trafod yr injan ac yn gobeithio cael hen gar
er mwyn trin a thrafod ei holl gydrannau.
Clwb Anifeiliaid Anwes
Mr Ifan Wyn Roberts oedd yng
ngofal y Clwb hwn ac yn cwrdd yn y Labordy Gwyddoniaeth.
Caed cynghorion
ar sut i gadw’r anifeiliaid anwes yn iach a
bodlon a chael cyfle i weld anifeiliaid rhai o’r
disgyblion.
Y Clwb Gwnïo
Cynhelid y Clwb Gwnïo ar brynhawn
dydd Gwener dan ofal Miss H Jones. Roedd y Clwb yn
gwnïo offer
ar gyfer y Clwb Crwydro a’r Clwb Drama.
Y Clwb Rwsieg
Deg disgybl ynghyd a Mr J R Gill oedd
aelodau’r
Clwb ac ar y dechrau roeddent yn canolbwyntio ar sut
i ynganu geiriau’r iaith Rwsieg. Yn ôl
arbenigwyr nid yw’r iaith yn anodd gan fod gramadeg
yr iaith yn hawdd!! Tybed!!
Y Clwb Gwyddbwyll
Mr John Davies oedd yng ngofal y
Clwb hwn a chynhaliwyd twrnaments yn ystod y tymor.
Clwb
Ffotograffiaeth
Dan ofal Mr Emrys Price Jones y cychwynnwyd
y Clwb Ffotograffiaeth ac roedd yr aelodau yn tynnu
lluniau
ac yn argraffu lluniau hefyd mewn du a gwyn. Roedd
costau rhedeg y Clwb hwn yn uchel oherwydd bod
angen cymaint o offer a phapur argraffu drud. Gwahaniaeth
mawr erbyn heddiw a ninnau wedi cyrraedd yr oes
ddigidol.
Y Clwb Crwydro
Yn ystod 1972 bu’r Clwb Crwydro
ar bedair taith. Mr Gareth Jones oedd yn cynllunio’r
teithiau ac yn arwain hefyd gyda help aelodau eraill
o’r
staff. Cafwyd dwy daith i ben mynydd Cwm Silyn taith
o 12 milltir. I’r Waunfawr a phen Moel Eilio
yr aeth yr ail daith a’r tro wedyn i Ddeiniolen
a’r Elidir Fawr. Roedd y Clwb Crwydro yn boblogaidd
iawn ymysg y disgyblion.
Clwb Blodau
Bu aelodau’r Clwb yn dysgu sut i
osod blodau a gwneud addurniadau Nadolig.
Uwch Adran Yr Urdd
Sefydlwyd yr Adran yn yr ysgol dan
gyfarwyddid Mr Maldwyn Parry a Mrs Glenys Griffith.
Bu rhai disgyblion yn
fuddugol yn yr Eisteddfod yn y Bala, bu eraill yn
cynrychioli’r ysgol yn y Gadeirlan Bangor.
Cynhaliwyd cwis , sioe sleidiau, casglu dillad i
Asiaid Tonfannau, dawnsio gyda’r ‘Mellt’,
mynd o gwmpas y Dyffryn adeg y Nadolig i ganu carolau
a chasglu arian i gronfa’r Urdd. Adran brysur
iawn!
[ Yn ôl
i'r Top ]
|