Cofio Kate
Roberts ~ Ebrill 2005
Mae Cymdeithas sydd am greu amgueddfa
i gofio am un o brif lenorion Cymru wedi derbyn
hwb sylweddol o bron i £76,000 gan Lywodraeth y
Cynulliad.
Mae
Cyfeillion Cae'r Gors yn awyddus i ddatblygu canolfan
i anrhydeddu Dr Kate Roberts yn y cartref lle cafodd
ei magu - Cae'r Gors, Rhosgadfan.
Llun: Dr. Kate Roberts.
Cafodd arian ei ryddhau gan y Cynulliad o gronfa arbennig
i gynorthwyo cymunedau yr effeithiwyd arnynt gan waith
chwarel.
Mae trefnwyr y Gymdeithas hefyd yn ceisio darbwyllo
Cronfa Dreftadaeth y Loteri i wneud cyfraniad sylweddol
i'r fenter. Bydd y swm o £75,907 a dderbynnir gan Lywodraeth
Cynulliad Cymru yn rhoi hwb sylweddol i droi murddun
Cae'r Gors
yn amgueddfa, a hynny 20 mlynedd ar ôl marw'r awdures.
Ysgrifennodd Dr Kate nofelau a straeon byrion
a oedd yn seiliedig ar ardal chwarelyddol Rhostryfan
a Rhosgadfan
ger Caernarfon. Ymhlith ei gweithiau y mae 'Tê yn
y Grug', 'Traed Mewn Cyffion' a'r 'Lôn Wen'.
Y Bwriad
"Y bwriad ydi adfer tyddyn Cae'r Gors a'i adnewyddu
a'i ddodrefnu yn union fel yr oedd yng nghyfnod Kate
Roberts - fel bod rhywun yn gallu camu yn ôl ryw 100
mlynedd a phrofi ffordd o fyw yn y cyfnod hwnnw," meddai
Sharon Owen, Swyddog Datblygu Cae'r Gors.
"Fe fydd yno hefyd ystafell ychwanegol nid yn unig
i ddehongli gwaith llenyddol Kate Roberts ond hefyd
i ddehongli'r cyfoeth hanesyddol ac amgylcheddol
sydd yna i'r ardal."
Llun: Tyddyn
Cae'r Gors fel ag y mae heddiw.
Gobaith Cyfeillion Cae'r Gors yw agor y flwyddyn
nesaf a denu tua 3,000 y flwyddyn o ymwelwyr i'r Ganolfan,
yn cynnwys ysgolion, cymdeithasau llenyddol a chymdeithasau
Hanes," meddai Sharon Owen.
"Mae'n bwysig hefyd i bobl leol fedru llogi'r adeilad
seminar newydd ar y safle," ychwanegodd, "ac
iddynt fod yn rhan o'r cynllun a dod yn ymwybodol o gyfoeth
anhygoel yr ardal. Yn ystod ei hoes faith llwyddodd Kate
Roberts nid yn unig i ysgrifennu llenyddiaeth o'r radd
flaenaf ond mi gofnododd yn ei dull dihafal ei hun fanylion
llawn am ddull o fyw sydd wedi hen ddiflannu, cyfnod
o dlodi mawr ond cyfnod cymdogol pan ddibynnai pawb ar
ei gilydd yn nhyddynnod a phentrefi'r chwareli. Bu Kate
Roberts yn berchen ar bapur wythnosol Y Faner hefyd,
yn Ninbych, ac mae ei sylwadau treiddgar ar faterion
y dydd a gyhoeddwyd yn y papur hwnnw yn berlau erbyn
heddiw."
Ond ni bydd Cae'r Gors yn gyfyngedig i Kate Roberts,
rhoddir pwyslais mawr ar ddehongli bywyd y chwarelwr
ac ar weithiau awduron ac enwogion eraill yr ardal, ar
yr amgylchedd a byd natur.
Y chwarelwr amlycaf oedd Griffith Davies a
adawodd y chwarel yn ddeunaw oed i fynd i Lundain i
ddysgu Saesneg.
Yr oedd yn fathemategydd gwych ac yn fuan iawn fe sefydlodd
ei ysgol ei hun. Ef oedd yr un a glandrodd bwysau Pont
y Borth yn gywir i Thomas Telford pan fethodd ef ei hun â gwneud
hynny. Ond arbenigrwydd pennaf Griffith Davies o safbwynt
Rhosgadfan oedd y cyfraniad a wnaeth yn ystod cau'r tiroedd
comin. Pan sylweddolodd chwarelwyr y cylch fod
y meistri tir yn meddiannu'r tiroedd comin cysylltwyd
yn ddi-oed â Griffith Davies yn Llundain. Trwy
gymorth ei gyfeillion yn Nhy'r Arglwyddi llwyddwyd i
gael mesur trwy'r Senedd i sicrhau fod y tyddynwyr eu
hunain yn cael cadw eu hawliau. Parhaodd hynny hyd heddiw.
Cwr y llen yn unig yw hyn....
Cadeirydd Cyfeillion Cae'r Gors
Mae Dewi Tomos, Cadeirydd Cyfeillion Cae'r Gors, yn
falch iawn o dderbyn y cyfraniad. "Mae hwn yn gyfraniad derbyniol ac amserol iawn
gan fod cais y Loteri yn mynd i gael ei gyflwyno ddiwedd
yr wythnos," meddai. "Mae 'na sôn bod angen £900,000 ac fe fyddwn ni'n
chwilio am o leia 10% o hwnnw sef £90,000 ac mae 'na
addewid gan y loteri o £660,000. "Rydan ni'n obeithiol gan ein bod wedi
derbyn dau grant ganddyn nhw eisoes ac mi fuo 'na staff
yma i weld
y safle. "O gofio mai llai na hanner y costau fydd yn mynd
at adfer adeilad Cae'r Gors a'r gweddill yn mynd at gynnal
a chadw a chyflogau am bum mlynedd mae'n rhesymol iawn," ychwanegodd. Er mai yn Ninbych y bu Dr Kate yn byw hira mae ei gwaith
llenyddol wedi ei seilio ar ardal chwareli Arfon. Bu farw yn Ninbych ym mis Ebrill 1985 yn 94 oed.
Defnyddiwyd rhan o stori BBC
Cymru'r Byd , Ebrill 25 2005
ar gyfer y manylion hyn a diolchir iddynt am hyn
Diweddariad
Erbyn hyn mae Cae'r Gors wedi agor fel canolfan ymwelwyr sydd werth ei weld.
Ewch i www.caergors.org am fanylion llawn ynglyn ag oriau agor, prisiau mynediad a mwy... |