Hanes Dyffryn Nantlle

Talysarn

 
 
 

Beicars ar y Gloddfa Glai ~ 1977

Dyma Cheryl Humphreys, Dawn Brooks, Richard Wyn Huws, Clive John Jones, Michael Humphreys a Mark John Smith mewn oes pan oedd y ‘Choppers’ yn eu bri, oes pan oedd tomen fawr Talysarn yn rhan o’r tirlun a dim son am fyngalos ar y gloddfa glai!

Beicars ar y Gloddfa Glai

Tynnwyd y llun yn 1977 dan nawdd Cyngor Celfyddydau Cymru yn y cyfnod ar ôl clirio a thirlunio’r Gloddfa Glai ac fe’i cynhwyswyd mewn arddangosfa oedd yn portreadu cymdeithas un o hen ardaloedd y diwydiant llechi.

Aeth yr arddangosfa ar daith drwy’r wlad ac yn ystod y daith honno daeth Alun Williams o ochrau Surrey ar draws y llun a chysylltu hefo’i frawd Richard Williams yn Nhalysarn i ddweud ei fod wedi gweld llun ei ŵyr Richard Wyn mewn arddangosfa yn Llundain!

Diolch i Jean Davies am y llun

  Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C Cascading Style Sheets (CSS) Dilys