Damwain Awyr yng Nghwm
Silyn ~ 20-11-1942
Ar Dachwedd 20fed 1942, a'r Ail Ryfel Byd yn ei anterth,
roedd criw o chwarelwyr Dorothea yn gweithio yn unigeddau
Cwm Silyn, cwm a oedd yn rhannol berthyn i gwmni Chwarel
Dorothea. Roeddynt yno i atgyweirio'r tai cychod ar
y ddau lyn, i glirio safle ar gyfer codi caban newydd,
ac i durio tyllau ymchwyliol ger ceg yr isaf o'r ddau
brif lyn fel rhan o gynllun i adeiladu argae ar gyfer
cynhyrchu trydan-dwr at ddefnydd y chwarel, cynllun
a aeth, yn anffodus, i'r gwellt cyn diwedd y rhyfel.
Fy nhad, Idwal Owen Jones, Gwyndy, Talysarn, oedd
un o'r dynion yn y cwm y bore diflas hwnnw. Y fo oedd
yn gyrru'r lorri ar y trip yn ôl i'r chwarel
a oedd ar lawr y dyffryn. Yn ôl fy nhad, a hwythau
ar gychwyn i lawr yr allt, clywsant swn awyren yn ehedeg
yn isel. Ond, oherwydd y caddug, ni allent ei gweld.
Pasiodd yr awyren yn union uwch ei pennau gan anelu'n
syth i gyfeiriad clogwyni serth Craig Cwm Silyn.
Edrychodd y dynion yn bryderus ar ei gilydd gan synhwyro'r
hyn a oedd ar ddigwydd. Yn sydyn clywasant glec anferth,
sŵn awyren yn chwalu'n ddarnau ac yna ddistawrwydd
llethol. Mewn gobaith o allu achub y criw, prysurodd
y dynion filltir a rhagor at droed y clogwyn, ond oherwydd
y niwl ni fedrent weld dim. Wedi ymgynghori, penderfynasant
ddychwelyd i'r chwarel ac hysbysu'r awdurdodau fel
y gellid trefnu chwyliad mwy trwyadl.
Tîm Achub Llandwrog
Am 12.00 awr derbyniwyd eu neges gan y swyddog ar
ddyletswydd yn RAF Llandwrog ac anfonwyd Tîm
Achub Mynydd yr orsaf o dan ofal y meddyg Awyr-Lefftenant
George Graham i Gwm Silyn lle y buont yn cerdded y
cwm a'r mynydd weddill y dydd heb ganfod dim.
Tra roeddynt hwy yn ofer chwilio, am 14.35 awr, wyth
cilomedr i'r dwyrain gwrthdrawodd awyren Avro Anson,
Rhif N4981 gyda chriw o bump, lethrau Moel Eilio uwchben
Betws Garmon. Methiant fy ymgais Llandwrog i gysytllu
a'r tîm achub yng Nghwm Silyn, ac o ganlyniad
rhaid fu anfon carfan o sgwadis cwbl dibrofiad o storfa
fomiau Llanberis i fyny'r mynydd. Roedd wedi troi chwech
cyn iddynt ddod o hyd i'r Anson. Cawsant fod pedwar
o'r criw yn gelain a bu'r pumed farw ychydig wedi iddynt
gyrraedd. Dangosodd archwyliad post-mortem nad oedd
ei anafiadau yn rhai marwol a'i fod wedi marw o sioc
ac oerfel.
Gwrhydri Edwin Hughes
Drannoeth y ddamwain a'r tywydd yn dal yn ddiflas
roedd bachgen tair ar ddeg oed o'r enw Edwin Hughes
a oedd yn byw yng Nglangors - tyddyn diarffordd ar
lethrau Cwm Silyn - wedi mynd allan i edrych allai
o ganfod lle yr oedd yr awyren wedi dod i lawr. Pan
gyrhaeddodd y llyn isaf cyfarfu a'r Cwnstabl Reginald
Hughes, plisman Talysarn, a oedd ar un perwyl.
Gofynodd
ef i Edwin ddringo i gyfeiriad copa'r Garnedd Goch
tra yr ai yntau ymlaen ar draws y fawnog tua Mynydd
Tal-y-mignedd. Cyrhaeddodd Edwin waelod
marian Craig yr Ogof a dilyn llwybrau dringwyr drwy'r scri i gyfeiriad y
Llithren Gerrig Fawr. Yn fuan, cafodd ei hun wrth droed
y Slab Fawr, ac o droi'r gornel
daeth wyneb yn wyneb a darn cefn ac a chynffon yr awyren.
Llun: Craig yr Ogof (gan Eric Jones).
A'i wynt yn ei ddwrn, rhythrodd i chwilio am y cwnstabl.
O'r diwedd, daliodd i fyny ag ef a gwnaeth y ddau eu
ffordd yn ôl at yr awyren. Cododd P.C. Hughes
y fiwsilage a gofyn i Edwin ddringo i mewn iddo i edrych
oedd rhywyn yno. Ond y cyfan fedrai Edwin ei weld oedd
y gwifrau a weithiai'r llyw a'r esgyll, a hefyd, yn
y gynffon, rhywbeth a allai fod naill ai'n barasiwt
neu'n darged saethu. Tu allan i'r awyren gorweddai
par o esgidiau ehedeg.
Roedd yn amlwg i'r ddau fod gweddill yr awyren a
chorff y peilot rhywle yn uwch i fyny'r clogwyn. Dywedodd
P.C.Hughes y safai ef i warchod y gynffon ac i Edwin
ddringo ychydig bach yn uwch i edrych welai o ragor
o falurion yr awyren. Roedd y llanc yn gyfarwydd a'r
mynydd a phenderfynodd ddringo y rhan o'r clogwyn a
adnabyddir fel Crib y Grug er mwyn gallu gweld yn well
o'i gwmpas. O'r grib medrai edrych i lawr ceubwll dyfn
ac oddi tano gwelai ar asgell gul ddarnau o fetel a
chorff y peilot. Ond, heb raff, nid oedd modd eu cyrraedd,
a phenderfynodd Edwin ddychwelyd at yr heddwas.
Awgrymodd hwnnw i Edwin find i lawr y mynydd a rhoi
gwybod i'r awdurdodau fod yr awyren wedi ei chanfod.
Ar ei daith cyfarfu ag aelodau tim achub Llandwrog
a disgrifiodd wrthynt yn union ble roedd corff y peilot.
Bradychai'r olwg ar wyneb y dynion faint eu pryder. Tim ffwr-a-hi o nyrswyr
a chynorthwyr ysbyty ydoedd heb na'r sgiliau na'r offer anghenrheidiol i ddringo
clogwyni, heb son am un fel Craig yr Ogof a oedd yn her i hyd yn oed oreuon
dringwyr Prydain. Gadawodd Edwin hwy a brysio tuag adref, ond wrth iddo nesu
tua Bryngwyn - y tyddyn uchaf ar ffordd Cwm Silyn - gwelai Richard Jones, y
farmwr, yn sefyll yn y lôn.
Adroddodd Edwin yr holl hanes wrtho. Ac er bod Richard
Jones ddim ymhell o fod yn 70 oed, cynnigiodd eu bod
ill dau yn dychwelyd i'r mynydd a mynd a rhaff hefo
nhw. Wedi cyrraedd y clogwyn dringodd Edwin a Richard
Jones are eu hunion i Grib y Grug, ac unwaith yr oedd
pen y rhaff wedi ei hangori gollyngwyd Edwin i lawr
y ceudwll i'r silff lle gorweddai'r peilot. Yng ngweddillion
yr awyren canfu nifer o ddogfennau. Casglodd y rhain
yn ofalus, ac o sylweddoli na allai wneud dim arall
gwaeddodd ar Richard Jones i'w halio i fyny. Yna, gwnaeth
y ddau eu ffordd i lawr y clogwyn o'u safle peryglus
a rhoi'r dogfennau yn saff yn nwylo P.C. Hughes. Yr
hyn a synnai Edwin y bore hwnw oedd mor heini oedd
yr hen wr ac mor sionc y dringai i fyny ac i lawr y
creigiau.
Hawker Henley L3334
Canmolwyd Edwin am ei ymdrechion gan un o'r papurau
dyddiol. Dengys adroddiad y papur hwnnw mai Hawker
Henley, Rhif 3334, o faes awyr Tywyn ym Meirionnydd
oedd yr awyren. Chwaer awyren i'r Hawker Hurricane,
awyren ymladd a bomio enwog Brwydr Prydain, oedd yr
Henley, yr un adenydd oedd gan y ddwy. Prif dasg yr
Henley oedd halio targedau canfas y saethid attynt
gan ynnwyr o dan hyfforddiant. Y bore hwnnw roedd yr
L3334 wedi hedfan o faes awyr ysgol fomio Penrhos ger
Pwllheli gyda'r Peilot-Swyddog Walter James Havies,
26 oed, o'r 'RAF
Volunteer Reserve' wrth y llyw. Lladdwyd ef yn gelain
pan darawodd yr
awyren y mynydd. Fe'i claddwyd ym Mynwent Llanbeblig,
Caernarfon.
Creigwyr Dorothea
Oherwydd eu hanallu i ymgodymu a'r dasg o ddod a'r
corff i lawr o'r clogwyn, penderfynodd Graham geisio
cymorth creigwyr Dorothea. Ffurfiwyd tim a oedd yn
cynnwys, ymysg eraill, Thomas Roberts, (Twm Brynmelyn),
o Ffordd Coedmadog, Talysarn, un o greigwyr gorau Bro'r
Chwareli, John Idris Williams, Morris Roberts (Moi
Dolgau) a'r heddwas Roberts o Lanllyfni.
Fy nhad gludodd y fintai i Cwm Silyn yn lorri'r chwarel, ac o'r herwydd cefais
i am brawd Emyr fynd gyda hwy. Roeddwn yn 14 oed am brawd yn 12. Dodwyd dau
geirsiad o raff yng nghefn y lorri, y naill tua modfedd o drwch a'r llall tua
dwy fodfedd. Dringodd pawb i'r lorri a ffwrdd a ni.
Ger y Plas Du rhaid oedd i'r cerbyd basio drwy le
cyfyng rhwng dwy domen lechi. Wrth i ni fynd i mewn
i'r adwy, sylwais fod yr heddwas a eisteddai o'm blaen
yng nghefn y lorri a'i droed dde dros ochr y cerbyd
a chan ei fod a'i gefn at gab y lorri ni allai weld
beth oedd o'n blaenau. Gwaeddais arno i'w rybuddio
ac yn ffodus llwyddodd i dynnu ei droed yn ol ne fe
fyddai wedi wedi ei gwasgu rhwng y domen a'r lorri.
O'r diwedd, wedi gwneud ein ffordd drwy dair giat,
cyraeddasom Gwm Silyn a phen y ffordd gerbyd. Disgynodd
pob un o'r lorri a chychwyn cerdded gan gario'r rhaffau
trymion rhyngom yr hanner milltir a rhagor ar draws
tir garw. Erbyn hyn roedd Awyr-Lefftenant Graham a
gweddill tim achub Llandwrog wedi ymyno a ni. Tywysodd
Edwin Hughes ni at safle'r ddamwain. Unwaith y daethpwyd
at droed y clogwyn penderfynodd y dynion mai'r rhaff
ysgafn fyddai orau a gadawyd y llall ar ôl.
Rhyddhau'r Corff
Gan adael y gweddill ohonom cymrodd y creigwyr yr
un llwybr i fyny'r clogwyn ac a gymrwyd ynghynt gan
Edwin a Richard Jones ac mewn dim amser roeddynt wedi
cyrraedd y man ar y grib lle y gallent edrych i lawr
ar y sil lle gorweddai'r corff. Roedd y sil tua 20-30
troedfedd oddi tanynt, ac yr oeddynt yn awr tua 100
troedfedd i fyny wyneb y clogwyn. Gollyngwyd Twm Roberts
i lawr ar y rhaff. Yn ofalus lapiodd gorff y peilot
yn ei barasiwt a oedd wedi rhannol agor yn y gwrthdrawiad,
clymu'r rhaff amdano a'i ostwng yn araf i waelod y
clogwyn. Yna rhwymwyd y corff wrth elorwely. Wedi i
weddill y creigwyr ddod i lawr oddi ar wyneb y clogwyn,
cludwyd yr elor tua'r ffordd gan un criw ar ol y llall
o gludwyr.
Nid oedd y trefiant hwn wrth fodd Graham, ac ni fu'n
fyr o ddweud hynny, ond ni thalodd y chwarelwyr unrhyw
hid iddo. Roeddynt wedi hen arfer cludo cydweithwyr
anafiedig a marw dros dir anodd ac mi allaf finnau
drystio na fyddai lefel y gofal roddwyd gan y cludwyr
i'r elor a'i chynnwys ddim uwch pe baent yn cludo gwydrau!.
Cyraeddasom y llyn bach a dilyn y llwybr cul anwastad
a arweiniai i ffordd Cwm Silyn. Yn y cyfamser roedd
aelod o'r tim achub wedi llwyddo i ddod a'r ambiwlans
rhyw 300 llath o ben y ffordd. Roedd hyn yn gaffeiliad
mawr i'r cludwyr a oedd bellach yn llesgau. Wedi i
gorff yr awyrenwr ifanc gael ei roi yng nghefn yr ambiwlans,
trodd y creigwyr am adref.
Rai misoedd yn ddiweddarach
cliriwyd gweddillion yr awyren oddi ar y mynydd a
gwthiwyd yr injan i ddyfroedd dwfn ac oer y llyn uchaf.
Teulu'r Huwsiaid
Dim ond un enghraifft o'r amrywiol ffyrdd y cyffyrddodd
y rhyfel a theulu'r Huwsiaid oedd gwrhydri Edwin y
diwrnod hwnnw. Roedd Edwin yn un o deulu mawr, tad
a mam a saith o blant - pum merch a dau fachgen. Roeddynt
wedi symud i Glangors tua 1936. Cyn hynny Bryn Cadfan
Fach yn ardal Llanaelhaearn oedd eu cartref. Roedd
y tad, John Hughes, wedi bod yn un o'r fintai o chwarelwyr
gyflogwyd i adeiladu'r ffordd drol i fyny at Lynnau
Cwm Silyn. Heb ddi amhosib fyddai defnyddio unrhyw
gerbyd i nol corff yr awyrenwr.
Yn anffodus bu farw John Hughes o gancr yn ŵr
ifanc 54 oed yn Hydref 1943. Yn barod fe ychwanegwyd
at ofidiau'r teulu pan gymrwyd eu mab hynnaf, Huw John,
yn garcharor gan y Japaneiaid pan gwympodd Singapore
yn 1942 a'i anfon yn gaethwas i weithio ar y 'Rheilffordd
Angau' yn Burma. A hithau'n amser gwan yn y chwareli
roedd Huw wedi derbyn swllt y brenin ac ymuno a'r Royal
Horse Artillery yn ôl yn 1937 ac wedi bod yn
Singapore ers cyn dechrau'r rhyfel. Llwyddodd Huw i
ddod drwy erchyllterau Burma ond fel y newidiodd cwrs
y rhyfel a'r Japaneaid yn encilio fe'i hanfonwyd ef
a goroeswyr eraill o Malaya i Japan ym Medi 1944 ar
fwrdd y llong 'Kima Marie'. Yn ystod y daith ymosodwyd
arni gan long danfor Americanaidd ac fe'i suddwyd.
Cipiwyd 60 o'r teithwyr o'r môr gan griw y llong
danfor ond nid oedd Huw yn ei mysg. Yn 26 oed, roedd
yr un oed yn union a W.J. Harries peilot yr Hawker
Henley a ddaeth i lawr yng Nghwm Silyn.
Aelwyd Groesawgar
Gwraig fechan - llai na phum troedfedd o daldra -
oedd Olwen Hughes, mam Edwin, ac roedd bob amser yn
barod i estyn croeso i unrhyw un a ddoi at ddrws ei
bwthyn diarffordd, p'run ai'n filwr neu gomando Prydeinig
a oedd yn ymarfer ar rodfeydd Bryniau Nantlle, neu'n
garcharor rhyfel, Almaenig neu Eidalaidd, y defnyddid
ei lafur i atgyweirio cloddiau'r ucheldir. Yn aml,
byddai'r dynion hyn angen ymgeledd ac fe'u caent gan
Olwen Hughes. Roedd yn dim achub ynddi ei hun.
Yn Ionawr 1944 wedi tair damwain awyren angheuol
ar Graig Cwm Silyn a oedd wedi cymryd bywydau un ar
ddeg o awyrenwyr gosodowyd tywysydd radio ar gopa'r
mynydd (2408 troedfedd o uchder). Gweithiai hwn ar
fatri a dyletswydd hogiau RAF Llandwrog oedd trin y
batris. Deuid a'r rhain i Gwm Silyn yn wythnosol mewn
jip cyn eu cludo mewn gwarbaciau dros fil o droedfeddi
i ben carregog y mynydd a hynny ymhob tywydd. Pan geid
drycin byddai'r dynion, a oedd heb unrhyw ddillad nac
esgidiau mynydda, yn wlyb at eu crwyn. Buan y daethant
i ddeall y caent groeso a thendars ar aelwyd Glangors.
Ym Mawrth 1946 derbyniodd Mrs Hughes lythyr swyddogol
i ddiolch am ei charedigrwydd a'i chymwynasau lu oddi
wrth brif swyddog RAF Llanbedr ple roedd y tim achub
wedi ail-gartrefu ar ol cau gorsaf Llandwrog yn 1945.
Bu farw Olwen Hughes yng nghartref ei merch Jane yn Llanllyfni yn Hydref 1966
yn 72 oed. Roedd wedi bod yn weddw am ym mron chwarter canrif. Nid oedd Mrs
Hughes wedi gweld ei mab Huw ers pan adawsai i ymuno a'r fyddin yn 1937 ond
parhaodd ei enw yn wastad ar ei gwefysau hyd y diwedd. Dynes arbennig iawn
oedd Mrs Hughes i bawb a'i hadnabu.
George Graham a Thîm Achub Mynydd RAF LLandwrog
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd bu yn agos i gant o ddamweiniau
awyr yn Eryri, a chollodd gryn 300 o awyrenwyr eu bywydau.
Ym mlynyddoedd cynnar y rhyfel, nid anafiadau marwol
yn gymaint ac effeithiau oerfel a sioc tra'n disgwyl
am rhywyn i ddod i'w hachub oedd yn aml yn gyfrifol
am y marwolaethau hyn. Yn Chwefror 1941, er enghraifft,
bu awyren Blackburn Blenheim V6099, gyda chriw o dri,
ddeuddeg niwrnod heb ei darganfod ar ben Elidir Fach,
filltir yn unig o ganol pentref poblog Deiniolen. Digwyddiadau
fel hyn ysgogodd George Desmond Graham, brodor o Gaeriwelydd
(Carlisle), i sefydlu tim achub mynydd yn Llandwrog
yn Ebrill 1942, y cyntaf o'i fath yn yr awyrlu. Yn
barod roedd gan y llu awyr wasanaeth chwilio ac achub
o'r mor effeithiol iawn gyda gorsafoedd mewn lleoedd
tebyg i Bwllheli a Ffort Belan, ond er bod rhai cannoedd
o awyrenwyr wedi marw mewn damweiniau yn ucheldiroedd
Prydain cyndyn iawn oedd yr awdurdodau i fwrw ati i
greu timau achub o'r mynydd.
O'r tim gwreiddiol Graham oedd yr unig fynyddwr.
Nid eu hoffter at fynyddoedd ond eu profiad fel ymarferwyr
cymorth cyntaf a gyrru a dad-lwytho ambiwlansau oedd
y rheswm dros eu cynnwys yn y tim. Nid oedd ganddynt
offer na dillad mynydda na'r gallu i gadw mewn cyfathrach
gyson a phencadlys, a digon anaddas i fentro oddi ar
y ffordd fawr oedd y cerbydau oedd ganddynt. O ganlyniad,
araf oedd y tim yn cyrraedd safleoedd y damweiniau
ac fel yn Nyffryn Nantlle rhaid oedd iddynt yn aml
fynd ar ofyn sifilwyr er mwyn cael at y meirw a'r anafus.
Teimlai Grham yn rhwystredig iawn oherwydd hyn a bu'n
brwydro'n hir a diflewyn ar dafod gyda phrif swyddogion
yr Awyrlu. I geisio rhoi taw ar ei swnian fe'i hanrydeddwyd
gan y brenin yn 1943 gyda'r MBE ac yn Ionawr 1943 gyda'r
rheng o Sgwadron-Bennaeth fe'i trosglwyddwyd i'r India.
Ac fel pe baent am rwbio halen i'r briw yr un mis cyhoeddodd
Gweinyddiaeth yr Awyrlu eu bod am ffurfio Gwasanaeth
Achub ar y Mynydd a oedd wedi ei staffio gan fynyddwyr
profiadol a chydag offer a oedd yn addas at y gwaith.
Tra'n swyddog meddygol yng ngorsaf Dum Dum yn yr
India, gwirfoddolodd Graham i barasiwtio i achub aelod
o griw awyren a oedd wedi goroesi gwrthdrawiad a chopa
mynydd 6000 troedfedd o uchder yn Burma ond a oedd
wedi ei anafu'n ddrwg. Cymrodd fis caled i Graham a'i
ringyll gydymaith i ddod a'r claf dwy dir y gelyn yn
saff yn ol i'r India. Gwobrywyd ei wrhydri a'r DSO.
Daliodd George Graham rhyw anhwylder tra yn y Dwyrain
Pell a bu'n fregys ei iechyd weddill ei oes. Bu farw
yn 67 oed yn Hydref 1980.
Stori wreiddiol gan Aneurin
Wyn Jones.
Trosiad i'r Gymraeg ac addasiad gan Eric Jones.
Diolch yn fawr.
Ychwanegiad
The crash of the Henley was not the only
one to occur in the locality on 20 November 1942.
There were,
in
fact, two flying accidents on the same day in this
area - the first being that of the Henley in which
Pilot Officer Havies lost his life, and the second
accident was just a few miles away when an Avro Anson
(serial number N4981) from RAF Llandwrog crashed
on the slopes of Moel Eilio. Rescuers found four of
the
crew dead and one badly injured survivor, who died
later that day.
Such was the intensity of flying during the period
of the Second World War that it was possible for two
aircraft crashes to occur more or less next door to
each other on the same day. Just imagine the fuss there
would be if such a thing happened nowadays!
Diolch i Roy Sloan am wybodaeth
ychwanegol a'r ychwanegiad. |