Côr Lleisiau Mignedd

 
 
 

Arweinydd poblogaidd yn ymddeol wedi 24 mlynedd

Cor Lleisiau Mignedd efo Maldwyn Parry

Yn ddiweddar, bu i arweinydd o gôr poblogaidd a llwyddiannus iawn o Ddyffryn Nantlle, sef Lleisiau Mignedd, sefyll i lawr wedi 24 mlynedd o wasanaeth ffyddlon. Bydd Ceren Owen - dirprwy presennol Maldwyn Parry i’r côr - yn cymeryd y llyw.

Mae’r côr merched wedi mwynhau sawl llwyddiant ers ffurfio ym mis Ionawr 1982, yn cynnwys buddugoliaethau yn yr Eisteddfod Genedlaethol a sawl gŵyl gerdd Gymraeg. Maen’t hefyd wedi ymddangos ar nifer o raglenni teledu poblogaidd yn cynnwys Noson Lawen a Dechrau Canu Dechrau Canmol.

Ym mis Mawrth 1997, bu i’r cor berfformio gyda Chôr Meibion Dwyfor a seren yr Opera, Bryn Terfel, mewn cyngerdd yng Nghapel Engedi yng Nghaernarfon. Ym 2001, i ddathlu penblwydd y côr yn 21 mlwydd oed, lawnsiwyd eu CD cyntaf ar label Sain, dan yr enw Cerdded Ar Hyd Y Llethrau.

Mae Maldwyn, 76, sydd wedi bod yn arwain y côr ers ei ddyddiau cynnar, yn cadw ei atgofion melys o’i amser fel arweinydd y côr yn agos i’w galon. Dywedodd wrth Yr Herald: Herald: "Fe ymunais i â’r côr dri mis wedi iddynt ffurfio. Rydym ni wedi cael gymaint o hwyl. Mae’r uchafbwyntiau i mi yn cynnwys ennill yn yr Eisteddfod Genedlaethol a mynd i Iwerddon i gystadlu dri neu bedwar o weithiau."

"Mi fues yn arwain Côr Llais Cymysg Dyffryn Nantlle rhai blynyddoedd cyn ymuno â Lleisiau Mignedd ac roedd yn tipyn o her. Yn anffodus, rydw i wedi gorfod rhoi’r gorau oherwydd Parkinsons a fy nghalon. Mae Ceren wedi cymeryd y llyw gan mai hi oedd y dirprwy, ac felly roedd yn naturiol mai hi ddylai wneud hynny. Mae’r côr wedi tyfu o tua 12 mewn nifer yn y blynyddoedd ers i mi gychwyn, i bron iawn 30 erbyn i mi ymddeol. Cawsom hefyd y fraint o berfformio ochr yn ochr â Bryn Terfel. Byddaf yn cadw mewn cysylltiad efo’r côr – amhosib fyddai peidio ar ôl yr holl flynyddoedd!" ychwanegodd.

Dywedodd Nesta Jones, cadeirydd y côr, "Mae’n amser emosiynol a byddem yn cynnal cinio ar Dachwedd 18fed fel diolch i Maldwyn am ei waith caled ac hefyd i groeso Ceren. Mae Lleisiau Mignedd yn parhau i dyfu, ac wedi’r Eisteddfod eleni mae wyth o aelodau newydd wedi ymuno â ni sy’n dod a nifer ein aelodaeth i 37."

Meddai Ceren, sydd yn wreiddiol o Benygroes ond yn awr yn byw yng Nghaernarfon fod y rôl yn un galed ond ei bod yn mwynhau’r sialens. Medd Ceren, sydd yn Bennaeth yn Ysgol Pen y Bryn, Bethesda: "Wedi’r Eisteddfod, penderfynnodd Maldwyn na allai gario ‘mlaen a’i fod yn gobeithio y gallwn i gymeryd drosodd. Roedd yn benderfyniad anodd i mi gan fy mod yn gwybod pa mor brysur yw’r côr a faint o waith sy’n perthyn i’w arwain. Mae gennym ddau sesiwn recordio yn mis Rhagfyr ar gyfer Radio BBC; bydd un ohonynt yn cael ei ddarlledu cyn y Nadolig a’r llall yn y Flwyddyn Newydd."

"Mae gen i ddipyn o deulu yn y côr yn cynnwys fy mam, dwy chwaer a chyfneitherod, felly ar adegau mae’n rhaid i mi fod yn gâs efo fy nheulu fy hun! Rwy’n mwynhau gweithio efo Nesta a Gareth y cyfeilydd," ychwanegodd.

Yr erthygl wreiddiol gan Lee Roberts, Caernarfon & Denbigh Herald - Tachwedd 17eg 2005
Llun gan Arwyn Roberts

  Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C Cascading Style Sheets (CSS) Dilys