
Siop Siarad Partneriaeth Cymunedau'n Gyntaf Talysarn a Nantlle
Gwirfoddolwyr
Angen pobl i wirfoddoli ar bwyllgor sefydlu Trac Beicio Mynydd/BMX. Gobeithir
codi’r trac gyferbyn â’r parc sglefrio yn Nhalysarn.
Cwrs Coginio Lefel 2
Wyth o bobl ifanc Siop
Siarad Talysarn a Nantlle wedi cychwyn cwrs coginio
lefel 2 ddydd Mawrth 31 Ionawr yn Ysgol Dyffryn Nantlle.
Cwrs Beic
Yn dilyn llwyddiant y
cwrs dwytha', bydd cwrs arall, adnewyddu hen feiciau,
ar fin cychwyn yn fuan.
Am fwy o wybodaeth am unrhyw un o’r uchod cysylltwch
â Wendy Thomas-Ellis, Swyddog Prosiect Pobl Ifanc,
ar 01286 882367. |