Hanes Dyffryn Nantlle

Aberdesach

 
 
 

Cefndir

Yn Aberdesach y mae Pennarth - Pennardd Y Mabinogi; fel y cyfeirir ato dan y penawdau "Cromlechi" a'n "Llenyddiaeth Gymraeg Gynharaf" yn Adran Hanes Clynnog Fawr o'r wefan.

Ceir enghreifftiau o ffermdai sylweddol sydd yn dyddio yn ôl i oes pan arferai stâd Glynllifon a'u rhagflaenwyr dra-arglwyddiaethu dros ddatblygiad y llain arfordirol.

Ar y traeth yn Aberdesach yr arferid cludo glo mewn llongau a'i ddadlwytho yn Yr Iard. Ceir odyn galch heb fod nepell o Dŷ'n-y-Coed.

Ar lan y môr rhwng Aberdesach a Chlynnog ceid tai pysgotwyr o'r enw Y Borth. Mae llun ohonynt i'w weld yn Archifdy Gwynedd yng Nghaernarfon tua 1900. Tynnwyd llun o'r adfail yn 1975 - a fydd i'w weld yng Nghanolfan Hanes Uwchgwyrfai - ond erbyn 2004 mae pob arlliw o adfeilion Y Borth bellach wedi diflannu'n llwyr a'r môr wedi bwyta'r tir.

  Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C Cascading Style Sheets (CSS) Dilys