Hanes Dyffryn Nantlle

Llandwrog

 
 
 

Eglwys Llandwrog

Enwyd yr eglwys ar ôl Sant Twrog, uchelwr â chysylltiadau efo Sant Beuno. Codwyd yr eglwys gyntaf tua 550AC. Cuddwyd y rhan fwyaf o olion yr hen safle gan yr eglwys bresennol a adeiladwyd ym 1857 gan yr Arglwydd Newborough, y tir-feddianwr ym Mhlas Glynllifon, fel canolbwynt i’r pentre' newydd ar gyfer ei weithwyr.

Yn yr un modd ag eglwys goleg, mae nifer o’r eistedleoedd yn wynebu ei gilydd fel yng Nghapel San Steffan, Westminster a sefydlodd wedyn batrwm i Dŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi presennol. Gwylmabsant Sant Twrog yw 26 Mehefin neu 15 Awst.

Eglwys Llandwrog

Y mae tŵr Eglwys Llandwrog yn 291 troedfedd o uchder. Yng nghysgod y tŵr ar yr ochr agosaf i’r môr mae carreg fedd Ellis Wyn o Wyrfai, bardd llenor a chlerigwr, 1827-1895.

Mae’n llechen anferth a thrwchus – yn wir, hon yw’r fwyaf yn y fynwent gyda cherflun o Delyn a dwy genhinen arni. Yn ôl yr hanes mae’r llechen wedi ei chludo o Foel Tryfan yn ol dymuniad Ellis Wyn ei hun.

Dyma’r geiriau arni:

Dwsmel Dwsmel
Mae rhyw seiniau
Dwsmel seiniau
Gwlad yr hedd
Er mwyn cael gair
O dragwyddoldeb
Rho dy glust
Wrth ddrws y bedd

Eglwys Llandwrog

  Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C Cascading Style Sheets (CSS) Dilys