Eglwys Sant Rhedyw
Sefydlwyd yn y Bedwaredd Ganrif O.C. - mae'n un o'r
Eglwysi hynaf yng Nghymru.
Llun: Eglwys
Sant Rhedyw. Nawddsant
Eglwys Llanllyfni yw Rhedyw - neu Redicus yn Lladin,
oedd yn ei anterth tua 316 O.C. Does dim
hanes cynnar ysgrifenedig, ond mae traddodiad cadarn
y ganwyd ef yn Arfon neu mai ef a sefydlodd yr eglwys
gyntaf yn yr ardal yma. Yn ôl y sôn, swyddog
pwysig ydoedd yn Eglwys Augustodunum yn Gâl (Autun
yn Ffrainc fodern). Ei ŵyl Mabsant yw'r 6 Gorffennaf,
pryd cynhelir Ffair Llanllyfni bob blwyddyn. Roedd yn enwog fel llenor, ac roedd iddo ran bwysig
wrth gondemnio heresi Arius o Alexandria ym mlynyddoedd
cynnar y bedwaredd ganrif. Yn y cyfnod hwn, ffynnai'r
Eglwys yn Gal dan nawdd Constantius a Helena, rhieni
i Gystennin Fawr wedyn,
Mae Ffynnon Rhedyw sydd ger yr eglwys presennol yn
debyg o fod yn safle baganaidd a gafodd ei chysegru
gan Gristnogion cynnar. Mae lle o'r enw Tyddyn Rhedyw
yn agos hefyd. Heb fod nepell (ger Nasareth) mae Eisteddfa
Rhedyw. Dywedir mai yma y trigai'r sant am gyfnod hir.
Yn ôl y sôn gwelir ei gadair, ôl
traed ei geffyl ac ôl ei fawd ar y garreg.
Yn ôl rhai, tad Sant Rhedyw oedd Sant Garmon
o Auxerre, arwr Brwydr Maes Garmon Sul y Pasg 430 o.c.,
lle ffodd y paganiaid ofnus (gan gredu fod byddin fawr
yn eu herbyn) oddi wrth fyddin fach Emrys Wledig (Ambrosius
Aurelianus yn Lladin) a nifer fawr o fynachod Garmon
(Germanus yn Lladin) yn llafarganu "Haleliwia".
Bu farw Garmon tua chanrif cyn oes Rhedyw, felly mae'n
debyg mai'r berthynas rhwng y ddau fynach yw eu" llinach
urddo".
Am flynyddoedd maith, roedd un bedd tu ôl i'r
allor tua dwy droedfedd yn uwch na'r llawr. Mynnodd
pawb mai Bedd Rhedyw ydoedd a phan atgyweirwyd yr eglwys,
gostyngwyd y bedd ac yn awr mae o dan yr eisteddleoedd
o flaen y pulpud. Helaethwyd y Gangell i'w maint bresennol
yn 1032, yn ôl y dyddiad a gafwyd uwchben y ffenestr
ddwyreiniol. Ond mae'n sicr bod rhannau eraill o'r
eglwys yn hÿn o lawer, efallai yr hynaf yng Nghymru.
Ar wal yr eglwys sy'n wynebu'r fynwent, safai delw
o Sant Rhedyw a berchid gan yr addolwyr, a ddiflannodd
amser y Diwygiad yn y 16ed Ganrif, meddir. Yn ôl
traddodiad, mae ôl gwisgo ar ben uchaf y gamfa
o ganlyniad i ôl gliniau'r ffyddloniaid, oherwydd
bod pawb yn ymgrymu o flaen delw'r Sant cyn mynd i
mewn i'r eglwys. Gellir gweld y garreg ym mur y fynwent.
Parheir i gyrchu i Eglwys y Plwyf yn Llanllyfni ar
fore’r Nadolig i wasanaeth
y Plygain gan ddechrau am saith o’r gloch.
|