Baladeulyn Ddoe a Heddiw
gan
Thomas Alun Williams Dewisiwch un o'r is-deitlau isod er mwyn ymweld â'r
pwnc priodol:
1. Rhagair
2. Baladeulyn
3. Cyn
dyfodiad Iorwerth(Edward) 1af i'r fro
4. Edward
1af yn Nantlle
5. Mynyddoedd
Nant Nantlle
6. Llynnoedd
Nantlle
7. Afonydd
Nantlle
8. Ffermydd
Nantlle
9. Rhos
Pawl
10. Margaret
Evans (Marged Fwyn Uch Ifan)
11. Talymignedd
Isaf
12. Ffridd
Baladeulyn
13. Yr Hen
Dŷ Mawr
14. Castell
Caernowy
15. Gwernoer
16. Tŷ'n y Nant, Nantlle
17. Yr Ysgol
Sul gyntaf ym Maladeulyn
18. Addasu'r
Festri yn Gapel
19. Y Cyfnod
Rhwng Rhyfeloedd
20. Band
Deulyn 1880
21. Y Brodyr
Francis 1876-1936
22. Dim Trafnidiaeth
1925-27
23. Adloniant
cyn 1939
24. Papur
Wythnosol Clwb Ieuenctid Nantlle
25. Dyddiadur
y Clwb
26. Nodion
o'r Nant
27. Colofn
y Beirdd
28. Y Clwb
Ieuenctid
29. Eto o'r
Gorffennol
30. Hynafiaethwyr
31. Baladeulyn,
Nant Nantlle Heddiw
32. Rhestr o enwau'r
Chwareli
Rhagair
Nantlle (Nant Lleu)
O ddyffryn hedd, O ddyffryn hardd
Wyt Eden Ardd i fardd i fyw;
Wyt bur baradwys mab a merch
A’r llannerch dlysa’ greodd Duw.
Griffith W Francis
Dyfynnaf eto farddoniaeth y Prifardd R Williams Parry;
fel y disgrifiai ef ymgom ar ddull soned rhwng "Ymwelydd" a "Brodor" yn
Nyffryn Nantlle "Ddoe a Heddiw":
Ymwelydd: Does ond un llyn ym Maladeulyn mwy
A beth a ddaeth o’r ddâr oedd ar y ddôl?
Brodor : Daeth dau wareiddiad newydd i’n dau
blwy,
Ac ni ddaw Lleu i Ddyffryn Nantlle’n ôl.
Ymwelydd: Pwy yw rhain sy’n disgyn hyd ysgolion
cul
Dros erchyll drothwy chwarel Dorothea?
Brodor: Y maent yr un mor selog ar y Sul
Yn Saron, Nasareth a Cesarea.
Ymwelydd: A glywsant hanes Math yn diwyd weu
Deunydd breuddwydion yn y broydd hyn?
A glywsant hanes Gwydion yntau’n creu
Dyn o aderyn yma rhwng dau lyn?
Brodor: Clywsant am ferch a wnaeth o flodau’r banadl
Heb fawr gydwybod ganddi, dim ond anadl.
R Williams Parry
Awn yn ôl i "Ddoe" y Mabinogion, lle
cawn hanes Lleu ym mhedwaredd gainc y Mabinogion, ynghyd â Math
fab Mathonwy a Gwydion. Erlidiwyd Lleu gan ei elynion
ar gais ei wraig, a throdd ei hun yn eryr gan ffoi i
ddiogelwch canghennau’r dderwen fawr ar lan llyn
Nantlle, lle daeth yr hwch i wledda ar y darnau cig a
ddisgynnai oddi wrth Lleu, nes i Gwydion ddod heibio
a’i droi’n ôl i’w fodolaeth naturiol.
[ Yn ôl i'r Top ]
Baladeulyn
Ystyr y gair "bala" yw lle'r ymarllwys afon
sy'n cysylltu rhan o dir rhwng dau lyn, sef yn y cyswllt
hwn, Llyn Uchaf a Llyn Isaf Nantlle, ond ysywaeth, "Does
ond un llyn ym Maladeulyn mwy", lle rhedai Afon
Llyfni ar ei chwrs trwy'r Dyffryn i'r môr.
Buan y'n dysgodd bywyd
Athrawiaeth llanw a thrai,
Rhyngom a'r ddôl ddihalog
Daeth chwydfa'r Gloddfa Glai.
R. Williams Parry
Y ddôl ddihalog hon oedd Dôl Pebin y Mabinogion,
cyn i rwbel chwarel y Gloddfa Glai gael ei ymarllwys
arni a'i hagru. Mae sôn y bu i Iorwerth 1af gynnal
ei dwrnameint arni, ond yn sicr bu rhan ohoni yn faes
pêl-droed i dîm y Talysarn Celts am flynyddoedd
ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf.
Ond ar arferion Cymru fad
Newid ddaeth o rod i rod,
Mae cenhedlaeth wedi mynd
A chenhedlaeth wedi dod.
yn ôl Ceiriog
[ Yn ôl i'r Top ]
Cyn dyfodiad Iorwerth (Edward) 1af i'r fro
Arglwydd Baladeulyn oedd Tudur ab Engan, (neu Einion),
disgynydd i'r tywysog Owain Gwynedd o Eifionydd. Chwaer
Engan oedd Sena neu Senena a briododd Gruffydd ab Llywelyn,
a oedd yn fam i Llywelyn ab Gruffydd, sef Llywelyn ein
Llyw Olaf, a mab Engan oedd Tudur ab Engan.
Pan ddaeth Iorwerth 1af i aros ym Maladeulyn, ysbeiliwyd
Tudur o'i holl diroedd trwy drachwant y frenhines Matilda,
gwraig Iorwerth 1af. Ond trwy sefydlu heddwch rhwng Cymru
a Lloegr fe anfonwyd deiseb wedi ei hysgrifennu yn Lladin
at y Brenin Iorwerth yn erfyn am y tiroedd yn ôl.
Fe ganiatawyd hynny ac fe'i harwyddwyd gan Tudur ab Engan,
a'i chwaer Gwerfyl - yn ôl ysgrif William Ambrose
ar hanes Dyffryn Nantlle.
Dywedir mai Tŷ'n y Nant oedd cartref Tudur ab Engan
pan arhosodd Iorwerth 1af ym Maladeulyn, ac yno yn ôl
y traddodiad y ganwyd Tywysog Cymru a'i gymryd yn ddirgel
i Gastell Caernarfon, ond nid oes sicrwydd na sail i'r
hysbysrwydd hwn.
Yng nghyfnod Iorwerth 3ydd sefydlodd hiliogaeth Cilmin
Droed-ddu yn gynnar yn Nantlle. Disgynyddion Cilmin oedd
Ednowen a Philip, y naill yn etifeddu Bodfan gerllaw
Dinlle, a’r llall Lynllifon. Yn ôl William
Ambrose, gor-ŵyr Ednowen oedd Ieuan, i’r hwn
oedd mab o'r enw Einion, a mab Einion oedd Gronw yr hwn
oedd yn dad i Tudur Goch, Nantlle. Roedd yn enwog fel
rhyfelwr ym myddin Edward 3ydd, ac ymladdodd o dan ei
faner ym mrwydr Cressey 1346, a thrachefn ym myddinoedd
Iorwerth y Tywysog Du yn Poitiers yn 1356 pan garcharwyd
brenin Ffrainc, ac fel ffafr i Tudur Goch fe roddodd
Iorwerth 3 ydd dir iddo yn y Nant, neu Baladeulyn, ac
adeiladodd Blas yn Nantlle.
[ Yn ôl i'r Top ]
Edward 1af yn Nantlle
Lleolwyd pentref Nantlle yn y pen dwyreiniol i’r
Dyffryn, yn terfynu â phentref Drws-y-Coed, ac
yn y lle hwn y dywedir i’r Rhufeiniaid ddechrau
mwyngloddio am gopr. Ar y pryd fforestydd trwchus oedd
y Nant lle y llechai anifeiliaid gwylltion, megis ceirw,
bleiddiaid a llwynogod a baeddod gwylltion.
Gorchfygodd Edward 1af y tywysogion Cymreig, a chychwyn
ei ymgyrch gyda’i farchogion a’i luoedd drwy
ddyffryn Betws Garmon i Ryd-Ddu, heibio i Lyn Cwellyn.
Fe wersyllodd ger Llyn y Dywarchen am rai dyddiau oherwydd
ei fod wedi mwynhau'r tawelwch a’r golygfeydd godidog
o’r Wyddfa a mynyddoedd Eryri.
Mae rhamant hefyd yn draddodiadol gysylltiol â’r
fangre hon rhwng Llyn Bwlch-y-Moch a Llyn y Dywarchen,
lle syrthiodd mab fferm Drws y Coed Uchaf mewn cariad
ag un o ferched y Tylwyth Teg, a magu teulu yma. 'Does
ryfedd i rai o’r bythynnod gael enwau fel Llwyn
y Forwyn, a’r Foty, er côf am ‘Penelope’ y
ferch brydferthaf o’r Tylwyth Teg. Ond diflannodd
yn ôl at ei phobl pan fu ei gŵr mor anffodus â’i
tharo â haearn oedd yn gysylltiol â ffrwyn
yr ebol y ceisient ei ddal i’w werthu yn y farchnad
yng Nghaer-yn-Arfon.
Hanes arall y dywedir ei bod yn gysylltiol â’r
fangre hon yw’r stori honno am filwyr arfog Edward
1af ym marchogaeth heibio i Lyn y Dywarchen. Fe ffodd
yr hen wraig, mam Howel ac Ifor gyda’i meibion
am eu bywyd ar draws y llyn yn eu cwch a safodd yr hen
wraig â’i breichiau i fyny gan felltithio’r
gelyn yn ei chynddaredd a’i digofaint danllyd wrth
ddianc o’r golwg yn y cwch.
Teithiodd Edward 1af fel y soniwyd eisoes i lawr y dyffryn,
ac aros am ychydig i adgyflenwi ei osgorddlu, ac yna
ymlaen i ystablu ei feirch yn yr Hen Dŷ Mawr Nantlle,
gan gynnal ei dwrnament ar wastadeddau Dôl Pebin,
yna cyhoeddodd enedigaeth ei fab cyntaf, a'i drosglwyddo
i'r werin Gymreig fel Tywysog Cyntaf Cymru yng Nghastell
Caernarfon yn 1282.
Cyn dyfodiad Iorwerth 1af i Eryri roedd y cymoedd hyn
ym meddiant y Tywysogion Cymreig o amser Owain Gwynedd
1137, pryd oeddynt yn berchen ar balasdai a llysoedd.
Roeddynt yn hoff o hela yn Fforestydd Brenhinol yr Wyddfa,
a gelwid y tywysogion yn Arglwyddi yr Wyddfa. O ganlyniad
i hyn roedd yn rhaid i helwyr cyffredin gael trwydded
i hela wedi ei harwyddo gan y brenin neu'r tywysog. Un
o Lysoedd yr Wyddfa oedd Llys Llywelyn ym Maladeulyn,
Nant, Nantlle. Tystir bod olion sylfeini'r llys hwn yn
awr o dan domennydd rwbel chwarel Pen yr Orsedd yng Ngheunant
Tŷ'n Nant Uchaf, a bod cegin yn y cae ger y llyn
yn perthyn i'r llys, erbyn heddiw mae cae ger Plas Baladeulyn
ger y llyn yn dwyn yr enw 'Cae Gegin Bach'.
[ Yn ôl i'r Top ]
Mynyddoedd Nant Nantlle
Dechreuwn enwi'r mynyddoedd o'r pen dwyreiniol i'r Nant.
Yn y canol, rhwng y Mynydd Mawr a Craig y Bere, a'r Garn
Farchog saif 'Y Garreg', sydd yn ymestyn i'r Bwlch Cyfyng
ar ben allt serth Drws-y-Coed, ac wrth odre Cwm Meredydd
sydd yn wynebu'r Benallt a Rhos Pawl ar dir y Gelli Ffrydiau.
Rhwng Rhos Pawl a chesail y Mynydd Mawr fe gawn Cwm
Cerwin; lle traddodiadol ei hanes yn yr hen amser. Dywedir
mai yn y cwm yma y cosbid troseddwyr, drwy eu rhoddi
mewn casgen gauedig a hoelion wedi eu curo iddi, ac yna
gollwng y troseddwr i lawr y cwm yn y gasgen, i'w drancedigaeth.
Os canlynwn yr ochr ogleddol i'r Dyffryn fe gyfyd y
tir yn uchel uwchben Ceunant Tŷ'n Nant gan ymestyn
tua'r gorllewin i Fynydd y Cilgwyn, heibio i Barc y Fodlas
Talysarn a'r Clogwyn Melyn.
Mae mwy o gymoedd ar yr ochr ddeheuol i'r dyffryn, yn
dwyn yr enwau, Cwm Talymignedd Uchaf, Bwlch Whiscin,
Crib y Ddysgl, Cwm Talymignedd Isaf, Bwlch Tros Bera,
Cwm Silyn, neu'r Graig Las yn lleol, Clogwyn Mawr a Chraig
yr Ogof, ac yn gysylltiol â'r Graig Goch a Chwm
Dulyn uwchben pentrefi Tan-y-rallt, Llanllyfni, Nebo
a Nasareth.
[ Yn ôl i'r Top ]
Llynnoedd Nantlle
Roedd dau lyn yn Nantlle yn yr hen amser ond wedi dyfodiad
y diwydiant cynhyrchu llechi-toi a datblygu chwareli
ar hyd a lled y dyffryn, roedd yn orfodol newid cwrs
afon Llyfni a gwacau y dŵr o'r Llyn Isaf Nantlle.
Cyn hyn roedd cwrs yr afon yn arwain i ochr dde y dyffryn
heibio i odre Pen-y-Bryn, lle roedd Sarn-Wyth-Dwr, lle
roedd llwybr i groesi'r afon drwy gamu ar yr wyth maen
yn yr afon fesul un, ond o ganlyniad i agor gwely newydd
i'r afon a'i gwneud ar ddull camlas yn syth drwy ganol
y dyffryn hyd Llanllyfni i'r môr, bu dylif i dwll
Dorothea yn 1891 ac fe gladdwyd y pentref bach o'r enw
Tre-grwyn o dan domennydd rwbel y chwareli, ac hefyd
y Sarn-Wyth-Dwr, ac mae'n debyg mai'r enw a roddwyd i'r
pentref chwarelyddol oedd Talysarn (Talysarn). Digwyddodd
i'r dŵr dorri i mewn i'r twll chwarel am yr eildro
yn y dau ddegau, ac fe fu angen injian bwrpasol i godi'r
dŵr o'r twll rhag iddo foddi, ond erbyn heddiw mae'r
twll yn llawn dŵr, a'r injian yn segur ers rhai
blynyddoedd.
Mae dau lyn arall o olwg pentref Nantlle, sef llynnoedd
Cwm Silyn a Llyn Dulyn ger y Graig Goch. Un llyn sydd
ar yr ochr ogleddol i Nantlle, hwnnw yw Llyn Ffynhonnau,
wrth odrau'r Mynydd Mawr yn agos i bentref Y Fron.
Yn y ddeunawfed ganrif daeth amryw o arlunwyr enwog
o Loegr i ddarlunio yr Wyddfa a Llynnoedd Nantlle, megis
Richard Wilson RA 1714-1782, John Warwick Smith 1797
a Cornelius Varley 1781-1873, hefyd Turner. Mae'r llun
o waith yr enwog Richard Wilson RA yn crogi ar fur y
Walkers Art Gallery yn Llynlleifiad (Liverpool).
[ Yn ôl i'r Top ]
Afonydd Nantlle
Y brif afon sydd yn rhedeg drwy'r dyffryn yw Afon Llyfnwy
neu Llyfni, a'i tharddiad yn y pen dwyreiniol i'r dyffryn
o Lyn Bwlch-y-Moch uwchlaw pentref Drws-y-Coed. Rhed
i Lyn Uchaf Nantlle, ond yr enw cyntefig ar y darn yma
o'r afon yw Afon Gopr am fod y dwfr yn llifo oddi ar
y mwynfeydd copr a phlwm, oedd yn amharu ar burder y
dŵr, ac nid oedd yr un brithyll yn gallu byw yn
y dŵr, oedd wedi ei ddifwyno gan waith copr Drws
y Coed. Cawn wedyn yr afon yn cysylltu dau lyn, sef Afon
Bala, lle byddem fel plant yn ymdrochi yn y trobwll cyn
i'r dŵr ddiflannu drwy wely'r hen Lyn Isaf i lawr
y dyffryn drwy Dalysarn.
Fe arllwys mân afonydd eraill eu dyfroedd i Afon
Llyfnwy. Yn gyntaf, ar y dde i'r dyffryn, rhed Afon Gelli
Dywyll o dir Talymignedd Uchaf i Afon Gopr, ac yna Afon
Talymignedd Isaf, a'r nesaf wedyn yw Afon Rhydus yn nhir
y Ffridd ac yn derfyn i'r ddwy fferm. Y nesaf yw Afon
Bach y Ffridd ac Afon Tŷ Coch, a Gwernoer ar derfyn
ardal Nantlle.
Ar yr chwith i'r Dyffryn, cawn Afon Gelli Ffrydiau ac
Afon Pontygelynnen, Afon Bach yr Ysgol ac Afon Caeronwy
sydd yn llifo trwy Ceunant Tŷ'n Nant cyn llithro
o'r golwg o dan domen rwbel chwarel Penyrorsedd gan ymddangos
fel Afon Garth, cyn troi o dan y brif ffordd trwy ardd
Plas Baladeulyn, ynghyd â'r rhai a enwyd, i ddyfroedd
Llyn Uchaf Nantlle. Roedd un afon bach arall yn rhedeg
drwy chwarel Penyrorsedd i dorri syched ceffylau a gwartheg
fferm yr Ystablau, ac i droi yr olwyn ddŵr oedd
yno, nes llifo yn ei blaen i gyflawni yr un broses o
droi'r olwyn ddŵr yn y Felin, pan oedd y felin yn
ei bri, cyn y Rhyfel Byd Cyntaf ac wedyn am ychydig flynyddoedd.
[ Yn ôl i'r Top ]
Ffermydd Nantlle
Y ffermydd sydd yn amgylchynu'r llynnoedd a phentref
Nantlle, i ddechrau o'r dwyrain, yw: Drws y Coed Isaf,
Gelli Ffrydiau, Talymignedd Isaf, a'r Uchaf ac yn terfynu â Ffridd
Baladeulyn, Tŷ Coch a Gwernoer ar yr ochr ddeheuol,
ac ar yr ochr ogleddol cawn y Geulan, Yr Ysgubor a Chaeronwy,
Blaen-y-Garth a Phen-y-Garth, yna Y Bryn, Plas Baladeulyn
a Tŷ Mawr a Phen-y-Bryn. Y rhai hynaf o'r rhain
yw yr Hen Dŷ Mawr, Gelli Ffrydiau, Ffridd Baladeulyn,
Caeronwy (Caer Goronwy), y Talmigneddoedd, Y Geulan a
Thiriogaeth Baladeulyn.
Yn yr olaf pan oedd Mr W A Darbyshire yn preswylio yno,
fe gynaeafwyd silwair yn y dyffryn am y tro cyntaf trwy
adeiladu lle pwrpasol i ddelio â'r broses. Roedd
y gwair yn cael ei roi dan bwysau trwm yn yr adeilad,
a'r pwysau'n cael ei godi a'i ostwng gan gadwyn a 'pulleys'
gan wasgu'r silwair nes byddai 'r hylif neu'r sugiad
yn ymarllwys a llifo allan drwy bibellau yng ngwaelod
waliau'r ystafell, ac fel y byddai'r silwair yn poethi,
ac yn cyneuafu byddai ei sawr fel tybaco yn ymledu oddeutu'r
fangre, yn barod i'w falu, i gafnau'r anifeiliaid.
Mae hanes diddorol i hen Dŷ Gelli Ffrydiau, lle
bu Angharad James yn byw; merch ydoedd i James Davies
ac Angharad Humphreys ac yn ôl yr arferiad teuluol
Cymreig, cymerwyd enwau cyntaf ei mam a'i thad yn enw
cyflawn iddi hithau.
Breintiwyd Angharad James ag amryw dalentau, roedd yn
gallu barddoni, ac yn hynod athrylithgar, wedi derbyn
addysg uchel iawn, oherwydd bod ei rhieni mewn safon
ariannol uwch na'r cyffredin ac wedi gofalu fod eu merch
yn derbyn addysg o'r radd flaenaf a hynny yn fanteisiol
iddi feistroli ieithoedd eraill, hefyd fe drwythodd ei
hun yn yr iaith Ladin a dod yn hyddysg yng nghyfreithiau'r
deyrnas.
Roedd gan Angharad delyn, ac yn ôl ei harferiad
defosiynol, roedd yn dymuno ar ei theulu, ynghyd â'r
gweision a'r morynion ddod at ei gilydd i ddawnsio cyn
noswylio, yn swn y delyn. Clywsom yn yr ysgol, pan oeddem
yn blant bach yn Nantlle, am hanes Angharad James, Gelli
Ffrydiau, fel y seriwyd y geiriau hyn ar ein côf
"Mae tinc y delyn ar Glwt y Ddawns
Clywch Angharad yn tiwnio"
Pan gyrhaeddodd ei 20ain oed, fe ymfudodd ei theulu
i'r Parlwr Panaman, Dolwyddelan, ac yno hefyd barhau
i gadw'r hen ddefosiynau gyda'r delyn. Un o ddisgynyddion
y teulu hwn oedd y Parchedig John Jones, Talysarn a
bu ei frawd Parch David Jones yn pregethu yn y Gelli
Ffrydiau yn ôl cofiant y Parch William Hobley yn
Hanes Methodistiaeth Arfon. Fe fu William Hobley hefyd
yn byw yn y Gelli ar un adeg ac mae marc y llythyren
H ar ochr pob dafad yno ar ôl cyfenw Holby hyd
heddiw.
[ Yn ôl i'r Top ]
Rhos Pawl
Rhan o dir Gelli Ffrydiau yw Rhos Pawl yn wynebu ar
y Talmigneddoedd, ar yr ochr ddeheuol i'r dyffryn, ac
yn terfynnu ar gesail y Mynydd Mawr. Mae rhamant yn perthyn
i'r enw Rhos Pawl a dyma'r traddodiad a berthyn i'r enw.
Dywedir fod llanc ifanc o fferm y Gelli wedi syrthio
mewn cariad a merch Talymignedd Uchaf, ond fod tad y
ferch yn anfodlon iddi hi ei briodi. Erfyniodd y llanc
ar y tad, yn daer, am law y ferch nes cytunodd y tad
o'r diwedd ar un amod, sef ei fod i fynd i fyny i ben
Rhos Pawl yn noeth ar noson rewllyd ac aros yno hyd y
bore. Yna disgwyliai'r tad i'r mab ifanc roddi i fyny
ei gais os byddai'n fyw yn y bore. Derbyniodd y llanc
yr her a'r amod, ac aeth a pawl gydag ef a bwyll a gordd
er mwyn dyrnu'r pawl i'r ddaear a chadw ei gorff yn gynnes,
tra cadwai'r gariadferch oleuni ei llusern yn ffenestr
ei hystafell drwy'r nos. Fe lwyddodd y llanc i gadw ei
waed yn gynnes drwy ddyrnu'r pawl i'r ddaear drwy'r nos,
nes daeth y bore a phresennoli ei hun i'r ferch er mawr
syndod i'r tad. Felly enillodd law ei gariadferch, a'i
phriodi, ac anfarwoli'r enw Rhos y Pawl.
[ Yn ôl i'r Top ]
Margaret Evans (Marged Fwyn Uch Ifan)
Dywedir y ganwyd Margaret Evans, neu'n hytrach Marged
Fwyn Uch Ifan yn Nhalymignedd Uchaf, Nantlle. Roedd yn
enwog iwan am ei gwahanol dalentau, ac fe gadwodd dafarndy
o'r enw Talernia islaw i Dyrpeg y Gelli, lle deuai mwynwyr
Drws y Coed i ganu a thorri eu syched. Enw ei gwr oedd
William ab Rhisiard.
Roedd ganddi ddwy delyn, ac yn swn y delyn byddai'r
canu a'r dawnsio'n cymeryd lle. Roedd Marged yn berchen
cwn hela, medrai wneud ei chwch ei hun a physgota ar
Lyn Nantlle, hefyd roedd yn bencampwraig ar ymdaflu codwm
ymysg y dynion, a gallai farddoni hefyd.
Cyfeirir at gae ger y Tyrpeg o hyd fel y Telerni. Ymfudodd
ymhen amser i fyw i Nant Peris lle bu yn difyrru trigolion
am gryn amser a rhoddwyd ei gweddillion i orffwys yn
dawel yng ngweryd y fynwent yno.
Mae'r penillion cofiant canlynol iddi yn un o'r Cymru
Fu:-
Mae gan Marged mwyn Uch Ifan
Delyn fawr a thelyn fechan
Un i ganu'n nhre Caernarfon
A'r llall i gadw'r gwr yn fodlon
Mae gan Marged mwyn Uch Ifan
Grafanc fawr a chrafanc fechan
Un i dynu'r cwn o'r gongl
A'r llall i dorri esgyrn pobol.
[ Yn ôl i'r Top ]
Talymignedd Isaf
Mae dyddiad 1712 a'r ddwy lythyren R G, uwchben y drws
ar un o adeiladau'r fferm. Credir mai RG oedd Richard
Garnon y perchennog ar y pryd, ac a fu yn byw hefyd yn
fferm Pant Du ger Penygroes. Roedd bwthyn arall, sydd â'i
adfeilion i'w gweled heddiw rhwng y ddau Dalymignedd,
a elwid yn Nhalymignedd Ganol a llwybr yn cysylltu'r
cyfan i gyd. Ymfudodd teulu Talymignedd Ganol i fyw i
bentref Nantlle er mwyn canlyn eu bywoliaeth yn Chwarel
Penyrorsedd. Cyfeiriwyd at y ddau frawd fel Dafydd Williams
a Robert Williams, Talymignedd Ganol.
Mae perchenogion presennol y ddau Dalymignedd yn ddisgynyddion
o ddau linach enwog, yng nghymdogaeth Arfon, sef llinach
Edmwnd Prys, Archddiacon Meirionydd 1544-1623 a changen
enwog Robert Hughes, Uwchlaw'r Ffynnon yn Eifionydd.
Rhaid cofnodi yma fel y bu yr hen frawd Hugh Jones,
Talymignedd Isaf yn flaenllaw iawn, yn achos Eglwys Annibynnol
Drws-y-Coed, yn enwedig am ei sêl a'i gyfraniad
brwdfrydig i ail adeiladu'r Capel presennol ar ôl
i'r cyn gapel gael ei ddinistrio gan y maen mawr, a ddisgynodd
arno o fynydd Meredydd yn 1882. Mae'r teulu wedi rhoddi
cofeb ar y maen i gofio'r amgylchiad difrifol hwn ar
ymyl y brif ffordd lle safai'r hen gapel yn 1836. Rhaid
rhoddi teyrnged o ddiolchgarwch a chlod i Hugh Jones
am deithio gyda'r drol a dau geffyl i Gaer i ymofyn coed
i adeiladu'r capel newydd. Fe lwyddodd hefyd i gael llechi
toi yn rhad ac am ddim gan y boneddwr Mr W A Darbyshire,
Plas Baladeulyn, goruchwyliwr chwarel Penyrorsedd.
[ Yn ôl i'r Top ]
Ffridd Baladeulyn
Mae adeilad newydd yn Ffridd Baladeulyn er pan ddaeth
y chwareli llechi i'r dyffryn, oedd ar un amser yn perthyn
i ystad Dorothea. Yma y magwyd dau o bregethwyr amlycaf
eu hoes, sef John Roberts a Robert Roberts meibion Robert
Thomas a Catrin Jones; ganwyd John Roberts ym 1752 a
bu yn fugail ym Mlaenygarth, bu farw yn 82 oed yn 1834
a mab iddo oedd Michael Roberts. Mae llawer o'i hiliogaeth
yn Unol Dalieithau'r America.
Arddelwyd Robert Roberts yn seraff ar lafar gwlad, nid
oedd o gorffolaeth yn ddyn cryf, roedd nam ar ei iechyd,
ond daeth yn enwog fel pregethwr ymysg y Methodistiaid
Calfinaidd ac fe gyfeiriwyd ato fel Robert Roberts, Clynnog.
Daeth ei frawd John Roberts hefyd yn enwog fel pregethwr
ac fe'i gelwid yn John Roberts, Llangwm am mai yno y
preswyliodd y rhan fwyaf o'i oes. Dychwelai rhai o'i
ddisgynyddion o'r America i ymweld â Ffridd Baladeulyn,
ac i dynnu llun y fferm lle magwyd eu hynafiaid. Bum
mewn cysylltiad â rhai ohonynt pan alwasant yma
a gadael copi o'u coeden deuluol gyda mi. Llawenydd i'r
naill a'r llall oedd dilyn cysylltiadau teuluol ei gilydd,
hyd y drydedd a'r bedwaredd genhedlaeth.
Yn 1854 deuwyd o hyd i hen bwlpud carrreg a chanhwyllbren
haearn yng nghyffiniau'r Ffridd. Aeth y ganhwyllbren
i feddiant y Parch D O'Brien Owen ond nis gwyddis beth
ddigwyddodd i'r hen bulpud cerrig.
[ Yn ôl i'r Top ]
Yr Hen Dŷ Mawr
Dyma un o'r tai hynaf ym mhentref Nantlle a'i hanes
yn mynd yn ôl i amser Iorwerth 1af ac mae rhan
o'i furiau yn mesur rhyw bedair troedfedd o led. Dywedir
for Iorwerth 1af wedi aros yma am rai dyddiau ac wedi
stablu ei feirch yn y stabl a chynnal ei dwrnament ar
y dolydd cyfagos yn Baladeulyn a Dôl Pebin cyn
dyfodiad oes y chwareli llechi.
Yn y flwyddyn 1826 yn agos i'r Hen Dŷ Mawr cafwyd
dau fathodyn neu 'coin' o aur, ac ar un ochr iddynt roedd
argraffiad o ddelw Iorwerth 1af yn eistedd mewn llong,
a chleddyf yn ei law ac o'i amgylch yn argraffedig mewn
hen lythrennau Lladin' EDWARD, DEI, GRA, REX ANGL, DAS
HYB DAQUI'. Ar yr ochr arall roedd argraffiad o bedwar
llew a phedair coron gyda'r geiriau canlynol 'ipse, aniem,
Transienu, per, medium, morwm ibat'.
[ Yn ôl i'r Top ]
Castell Caeronwy
Yn y flwyddyn 1847 gerllaw Castell Caeronwy, daethpwyd
o hyd i nifer o sylltau o ddathliad Harri'r 8fed, ac
yn agos i'r un lle, cafwyd darn trwm o gopr toddedig
a ddaeth yn eiddo i John Lloyd Jones, Baladeulyn, mab
yr enwog Barchedig John Jones Talysarn.
[ Yn ôl i'r Top ]
Gwernoer
'Roedd Plas Gwernoer yn yr hen amser yn terfynnu ar
fferm Tŷ Coch, oedd ar lan Llyn Isaf Nantlle, hen
gartref y Parchedig David Hughes, dyn diwylliedig iawn
a fu yn ddarlithydd Coleg Caergrawnt, lle arhosodd ar
hyd ei oes. Mae cofeb iddo yn y coleg enwog hwn i gofio
am ei ysbryd haelionus a haelfrydig. Rhannodd ei holl
eiddo rhwng ei berthnasau a thlodion Cymreig ei oes.
[ Yn ôl i'r Top ]
Tŷ'n y Nant, Nantlle
Soniwyd eisoes am Tŷ'n y Nant lle bu gynt blasty
gan y pendefigion, ond sydd bellach o dan gladd tomenydd
rwbel Chwarel Penyrorsedd. Yno roedd Llys a Gorsedd y
Tywysogion Cymreig. Cloddiwyd yn y garnedd fawr oedd
yma a daethpwyd o hyd i ysten bridd yn llawn lludw a
golosg a'i hwyneb i waered. Barnai y Parchedig John Jones
mai yma y claddwyd Mabon ab Maldron oherwydd yn ôl
englyn y beddau, fod ei fedd yn ucheldir y Nant Lleu,
sef yr un lle â Nantlle.
[ Yn ôl i'r Top ]
Yr Ysgol Sul gyntaf ym Maladeulyn
Yn ôl cofiant y Parchedig Williams Hobley, a thrwy
gymorth cofiant fy hen daid Owen J Hughes, Y Grafog,
fe ddywedir fod y Methodistiaid wedi cynnal pregethu
a hefyd sefydlu ysgolion Sul cyntaf yn Gelli Ffrydiau
a Ffridd Baladeulyn. Pan ddaeth y diwydiant llechi i'w
lawn fri yn Nyffryn Nantlle, dywed Owen J Hughes mai
yn Hen Dŷ'r Felin tua 1857 y dechreuwyd cynnal Ysgol
Sul am encyd o amser. Cynorthwyid y sefydliad gan John
Robinson, Talysarn, yr hwn oedd yn flaenor, ac yn dylanwadu
ar John Lloyd Jones yn y Plas i'w gynorthwyo. Roedd yno
bedwar ar bymtheg o aelodau yn bresennol ac fe symudwyd
drachefn i'r Hen Dŷ Mawr Arhoswyd yno am ddwy flynedd
gan gynyddu mewn aelodaeth i 80 neu 100 o nifer.
Yn 1859 casglwyd £87 i adgyweiriwyd ac addasu'r
Hen Ysgubor yn Hen Dŷ Mawr, a chafwyd cyfarfod pregethu
ar Lun y Pasg dilynol pryd y gwasanaethpwyd gan Robert
Hughes Uwchlaw'r Ffynnon, J Jones Brynrodyn ac Edward
Jones, gweinidog yr Annibynwyr yn Nhalysarn.
Erbyn 1862 roedd yr Hen Ysgubor lle'r oedd 134 o eisteddleoedd,
yn dechrau mynd yn rhy fychan i'r aelodaeth ac fe godwyd
pris eisteddle i 6c y chwarter.
Hwyrfrydig fu i'r cyfarfod misol sefydlu achos ym Maladeulyn,
ond trwy gymorth John Lloyd Jones cafwyd darn o dir i
godi capel cyntaf y Methodistiaid Calfinaidd yn 1865,
a thynwyd y brydles allan yn 1866, am 60 mlynedd, gyda £1
y flwyddyn o rent i'w dalu i stad Hughes Kinmel. Yn 1895
fe gyflwynwyd tir 1540 llathen sgwâr ynghyd â'r
adeiladau, i'r cyfundeb.
Yn yr amser hwn nid oedd ond rhyw 20 o dai yng nghymdogaeth
y capel a phobl ifanc yn dechrau sefydlu yn y pentref.
Arweinydd yr achos oedd J Robinson ond J Lloyd Jones
oedd yr arweinydd naturiol, David Davies yn Ysgrifennydd
ac O J Hughes yn Arolygwr cyntaf yr Ysgol Sul.
Richard Davies Caernarfon oedd yr adeiladydd, a'r to
yn dri math o lechi o liw glas a choch, seddau o ffawydd
coch heb ddorau, y pulpud o binwydd pyg cyrliog, a'r
llawr o deils amryliw, nenfwd hanner crwn tair ar ddeg
o ffenestri, pedair o lampau pres gyda thair cainc i
bob un.
Codwyd hefyd dŷ capel yr un pryd, ac ar Chwefror
27 1865 traddodwyd y ddarlith gyntaf yn y capel gan David
Saunders ar Lywodraeth y Pab. Cafwyd elw o £20,
a'r dyddiau canlynol fe bregethwyd gan Owen Jones, Plas
Gwyn; John Griffiths Bethesda a David Saunders.
Yn 1867 dewisiwyd William Thomas a J Michael Owen i'r
swyddogaeth, ac yn 1872 rhoddwyd galwad i Evan Owen i
fugeilio'r eglwys ac arhosodd am 14 o flynyddoedd. Ymfudodd
J Lloyd Jones o'r Baladeulyn i fyw i'r Bontnewydd yn
1874 ac yn 1876 dewiswyd Edward Davies yn drysorydd.
Yn 1884 dewisiwyd blaenoriaid newydd sef Thomas Roberts,
Caeronwy, yn 1887 John Jones y Geulan, Thomas Evans a
Richard Morris Griffiths, ac yn 1893 rhoddwyd galwad
i'r Parchedig Morris Williams o Langwm i ddod yn weinidog
i Baladeulyn MC.
Yn 1900 tynwyd yr hen gapel i lawr ac adeiladwyd capel
newydd. Y pensaer oedd R Lloyd Jones Caernarfon, a'r
adeiladydd oedd Richard Jones Llanwnda. Yr ymgymeriad
oedd £2,700 a'r draul i gyd dros £3,000.
Roedd dyled y capel cyntaf wedi ei dileu erbyn 1884 a'r
ddyled ar y capel newydd erbyn diwedd 1900 yn £1,946.
Roedd rhif yr eglwys ar y pryd yn 195 a'r plant yn 142.
Tynwyd yr ail gapel i lawr yn 1985 ac addaswyd y Festri
yn Gapel.
[ Yn ôl i'r Top ]
Addasu'r Festri yn Gapel
Oherwydd cyflwr difrifol yr ail gapel nid oedd digon
o arian wrth law i dalu'r gost o'i atgyweirio. Roedd
tamprwydd mawr yn ei waliau, a'i goed yn ei furiau wedi
eu hysu gan y pydredd sych a'r gwlyb, fel y bu raid i
Bwyllgor yr Adeiladau, o dan lywyddiaeth y Gweinidog
y Parchedig Brian M Griffith, fynd ar ofyn y Bwrdd Ariannol
a Chronfa Fenthyg y Cyfundeb, a derbyniwyd £36,000
ganddynt. Derbyniwyd £1,000 gan gronfa Syr David
James Pantyfedwen a £1,000 yn rhodd gan y Pwyllgor
Gwaith. Rhwng rhoddion yr aelodau a charedigion yr eglwys
a gwerthiant eiddo, seddau a llog y banc, cafwyd cyfanswm
o £48,234. 38.
Y Penseiri oedd Robert Davies Partnership, a'r cwmni
a ymgymerodd â'r gwaith dymchwel ac addasu oedd
cwmni Brecon. Llwyddwyd i gadw pulpud, ffenestri lliw,
cerrig ffrynt, a drysau yr hen gapel.
Yn y cyfamser bu'r eglwys yn cynnal oedfaon y Sul yng
Nghapel Drws y Coed, gyda mawr ddiolch i garedigrwydd
yr aelodau yno, o Ionawr 1985 hyd Dachwedd 1985 pryd
y cafwyd Cyfarfod Agoriadol arbennig ar nos Wener Tachwedd
8fed gyda'r Parchedig Brian M Griffith yn ôl o
Gapel Tegid a Llanfor, y Bala, i roddi ei anerchiad a'i
genadwri i'r eglwys.
Erbyn heddiw, mae Eglwys MC Baladeulyn heb weinidog,
ond y mae paratoadau ar y gweill eto i dderbyn Bugail.
Er i ni golli'r Parchedig Geraint Roberts a ddilynodd
y Parchedig Brian M Griffith, mae'r eglwys yn dal i flodeuo
ac yn ddi-ddyled ariannol, ond ysywaeth mae nifer yr
aelodau wedi lleihau i 39 a dwy flaenores, nifer y plant
yn 3 a'r Ysgol Sul yn 8.
Mae dwy gofeb yn y cynteddau i gofio'r bechgyn a syrthiodd
yn y ddau Ryfel Byd, un oddi mewn i'r porth a'r llall
yng ngardd y capel yn wynebu'r ffordd bost, ynghyd â cholofn
ac enw'r capel.
[ Yn ôl i'r Top ]
Y Cyfnod Rhwng Rhyfeloedd
Y Blaenoriaid cyntaf i mi eu cofio yn y set fawr cyn
fy arddegau oedd Thomas Roberts, Caeronwy a ddilynwyd
gan ei fab William Thomas Roberts, Thomas John Davies,
Prifathro yr Ysgol, Thomas Evans, chwarelwr ac amaethwr,
Evan Thomas Hughes, swyddog yn y chwarel, John Edward
Roberts Blaenygarth, Owen John Hughes (Y Grafog) taid
fy mam, a fu yn flaenor am 40 mlynedd ac yn ddiweddarach
Jonathan Parry Pritchard, prif beiriannydd y chwarel,
Y gweinidog o 1893 - 1930 oedd y Parchedig Morris Williams
gynt o Langwm ac a ymddeolodd i fyw i Lanwnda ynghyd â Miss
Richards ei warchodwraig. Roedd y cyn drysorydd Richard
Morris Jones wedi ymddeol o Siop y Felin i fyw gyda'i
briod i Roslan, Cricieth, yn 1914.
Yn nechrau'r 30au derbyniwyd y Parchedig R J Powell
yn Weinidog yr Eglwys. Brodor o Drawsfynydd oedd ef a
chartrefodd yn Nantlle gyda'i wraig Mrs E Powell a Mair
ym Mronallt (Tŷ'r Capel) am rai blynyddoedd, cyn
ymddeol i Lerpwl. Roedd bri mawr ar y Gobeithlu a'r cyfarfodydd
darllen a'r cyfarfodydd gweddi. Fe weithiodd yn ddiflino
hefo pobl ifanc yr eglwys ac yn yr Ysgol Sul yn y Capel,
a'r Festri nes torrodd yr Ail Ryfel Byd allan yn 1939.
Dyna ddechrau y gostyngiad yn nifer yr aelodaeth, fe
ddistawodd y gân i raddau yn y set fawr, fe chwalwyd
y bechgyn ifainc fel mân us i bedwar ban y byd.
Ond fe ddaliodd Mr Powell i ysgrifennu a chysylltu â'r
bechgyn, ynghyd â rhai o'r blaenoriaid oedd gynt
yn athrawon ysgol Sul. Gofalwyd fod gan bob un o'r bechgyn
Destament Newydd yn anrheg gan yr eglwys ym Maladeulyn,
a bu hwn yn crwydro'r byd gyda mi drwy chwe blynedd alaethus
yr heldrin.
Fe etholwyd pwyllgor "Cysuron y Milwyr" yn
y pentref ac agorwyd cronfa gogyfer â hyn i'r milwyr
gan y pwyllgor. Y Trysorydd oedd Harry Lloyd Roberts,
a'r Ysgrifenyddes oedd fy chwaer Ella Williams, roedd
ei swydd hefyd fel clerc i Adran Filwrol y Barics yn
Nhref Caernarfon. Cafodd lawer o gymorth drwy law y Brodyr
Pritchard, Y Porth, Caernarfon yn aml yn rhad ac am ddim,
i gludo pebyll a chelfi ayb, i gynnal ymrysonfa cwn defaid,
dawnsfeydd a chyngherddau i chwyddo cronfa Cysuron y
Milwyr.
Daeth gorfoledd a thristwch yn 1945 i'r pentref, pan
ddaeth dydd Cadoediad yr Ail Ryfel Byd yn 1945. Collwyd
4 o'r bechgyn, rhoddwyd gollyngdod (discharge) i 10 a'r
nifer a ddychwelodd yn rhydd ar ôl gwasanaethu'r
Brenin Siôr a'r wlad oedd 33, y cyfanswm yn 47.
Daeth Pwyllgor Cysuron y Milwyr i'r penderfyniad beth
i'w wneud â'r gronfa oedd ar eu llaw, ac anfonwyd
llythyr at bob un o'r milwyr yn cynnig un o dri chynnig
iddynt i bleidleisio arno. Dyma'r tri chynnig ond un
i'w ddewis:-
Cael llwybr cyhoeddus i amgylchu Llyn Nantlle, gan fod
y ffermydd yn cytuno i'r cais;
Codi Neuadd Bentref ar dir y Chwarel;
Rhannu'r arian rhwng y cyn filwyr.
Pleidleisiodd y mwyafrif ar y trydydd cynnig sef rhannu'r arian a rhoddwyd £6
i bob un o'r 47 cyn filwyr. Deuddeg ohonynt a ddewisodd y cynnig cyntaf. Roedd
arian y milwyr mor brin a rhai yn briod ac angen cychwyn bywoliaeth o'r newydd,
fel y gorfodwyd pawb i grwydro o'u bro i ddilyn galwedigaeth newydd a chodi
cartref dros y ffin yn Lloegr. Nid oedd y chwareli mwyach yn eu denu, a dyfynaf
eiriau un o gyn filwyr y Rhyfel Gyntaf oedd yn amserol iawn ar ôl yr
Ail Ryfel Byd:
"Y chwarel a chwerwodd, a'r efail arafodd,
A'r bechgyn, a'u carodd, a fudodd o'r fan,
Mae gweithfa y cannoedd o bennau teuluoedd
Ardaloedd, yn lleoedd dylluan".
R O Hughes, Nantlle
[ Yn ôl i'r Top ]
Band Deulyn 1880
Yn ystod chwarter olaf y 19eg ganrif, pan oedd y chwareli
llechi yn llawn bri, fe ddaeth Band Deulyn i fodolaeth
dan faton William Derby, goruchwyliwr Gwaith Plwm a Chopr
Simdde'r Ddylluan, Drws y Coed. Un o Gernyw oedd ef yn
enedigol, ac fe ddysgodd ychydig o Gymraeg drwy droi
i mewn i oedfaon y Sul ym Maladeulyn, ac yno fe ymbriododd
ag Ann Hughes, merch hynaf yr hynafieithydd Owen J Hughes,
Grafog, taid fy mam.
Ymfudodd y teulu o Nantlle i Seland Newydd yn 1881 gydag
un ferch fach, Matilda, pedwar mis ar ddeg oed.
Noddwyd y Band gan y boneddwr William A Derbyshire,
Plas Baladeulyn, trwy roddi iddynt yr offerynnau yn rhad
ac am ddim trwy gwmni Chwarel Penyrorsedd, Nantlle. Enillodd
y Band amryw o gystadlaethau ac fe'u hanrhegwyd a medalau
wedi iddynt ennill mewn cysatadleuaeth yn y Rhyl.
Ar ôl ymadawiad William Derby a'r teulu i Seland
Newydd, fe drosglwyddwyd arweiniad Band Deulyn i ddwylo
William G Jones (Corn Mawr) . Roedd pedwar o'i feibion,
a'i wyr Willie J Jones, yn aelodau o'r Seindorf. Soniodd
Richard W Jones, mab hynaf W G Jones, am ei brofiad fel
aelod o'r band pan nad oedd ond yn 9 oed a rhai bandiau
lleol wedi ymgynnull yn Llandudno i ddathlu agoriad swyddogol
y Pier. Yntau yn sefyll yn y rhes uchaf o'r llwyfan pan
darawodd y bandiau y nodyn cyntaf mor darawiadol fel
y cwympodd y llwyfan sigledig dan y cynhyrfiad ysgubol,
nes gadael Richard ac eraill ar y sedd uchaf un oedd
heb lithro ar y llwyfan. Fe'i hachubwyd o'i uchelfan
gan ei gyd offerynwyr.
Ymunwyd Band Deulyn ymhellach ymlaen â Band Talysarn
a'i enwi yn Nantlle Vale Band, o dan arweiniad William
G Jones, a chawsant y fraint o berfformio yn y Palas
Grisial, Llundain, ac ychwanegu y 'Royal' at yr enw,
serch y Nantlle Vale Royal Silver Band.
Mynych y deuai'r Band o gylch y pentrefi i godi arian
ar gyfer cystadlu yn y Belle Vue, Manceinion. Ar un achlysur
roeddynt wedi dod i Blas Baladeulyn i wasanaethu Mr a
Mrs Stonor, o flaen eu harweinydd hwyrol Johnnie Evans,
Penygroes. Brysiodd yntau ar gefn ei feic trwy'r hen
ffordd bryd hynny, rhwng Talysarn a Nantlle, pan ddigwyddodd
iddo gael damwain angheuol ar allt Bryn Gopr ger Pen
y Bryn. Arswydwyd yr holl Ddyffryn gan y newydd trychinebus
hwn ac fe arwyddwyd y fangre dwyllodrus hon â chroes
wen ar ymyl y wal, gan Owen Jones, Hen Blas Nantlle,
er cof am yr arweinydd medrus Johnnie Evans.
[ Yn ôl i'r Top ]
Y Brodyr Francis 1876 - 1936
Dau frawd a roddodd Baladeulyn, Nantlle, ar y map, yn
y dauddegau, oedd y Brodyr Francis, pencampwyr canu penillion.
Bardd oedd William G Francis a'i gyfraniad o farddoniaeth
ardderchog a gyflwynodd i'w fro a'i gydoeswyr yn ei lyfr
Telyn Eryri. Owen William Francis, ei frawd, oedd yn
gerddor, a gyfansoddodd donau i emynau'r gwahanol enwadau
yn y Dyffryn trwy eu galw yn Nantlle, Glyn a Meira, (dau
o'i blant); eu cyfeilydd dilys a chlodwiw oedd Robert
Owen, Drws y Coed, a grwydrodd Gymru benbaladr i'w cynnal
yn eu deuawdau enwog trwy Gymru, Lloegr ac Iwerddon.
Yn 1927 darlledodd y Brodyr, o dan nawdd y BBC, o Ddulyn,
a chlywsom eu lleisiau gwefreiddiol dros y donfedd o
Iwerddon. Eu hoff ganeuon oedd Y Border Bach, Pentref
Bach Drws y Coed, Caru Cymru, Gwerfyl Arfon, Cyn Gollwng
Cwn y Gelli, Melin Trefin, Stella, a'r emyn Carcharorion
Angau. Bu eu henwau yn addurno ochrau pebyll mawr yr
Eisteddfod Genedlaethol yn y 20au cyn bod pafiliwn symudol,
ynghyd ag enwau prifeirdd enwog Cymru cynt a phresennol
yr oes. Colled fawr iawn i Nantlle a Chymru fu eu harwyl
pan alwyd y ddau i'w hir hedd yn 1936.
Yn ystod yr un cyfnod â'r Brodyr Francis, roedd
yn Nantlle dalentau o adroddwyr gwych iawn, ac wedi ennill
clod a gwobrwyon mewn gwahanol eisteddfodau yng Nghymru.
Un o rai blaenllaw ei oes oedd Llew Deulyn, sef Isaac
Benjamin Williams, Tŷ Capel Nantlle a enillodd gadair
gerfiedig o dderw du yn Eisteddfod Tywyn 1901 ac a fu
yn hyfforddi rhai eraill fel Lizzie Jones (LJ) ac Eillion,
D O Jones ei phriod, hefyd Robert Owen (RO) a gafodd
yr un hyfforddiant gan Llew Deulyn. Byddem ni'r plant
yn gwrando'n astud ar RO yn adrodd Mab y Bwthyn gan Cynan,
ac yn mwynhau ei ddehongliad gwefreiddiol mewn ambell
gyfarfod elusennol yn y festri.
Roedd yma dalentau ymysg y plant hefyd, ac fe berfformiwyd
Cantata'r Adar, o dan nawdd y Gobeithlu a'i hyfforddi
gan Evan John Hughes ac Evan Parry, goruchwyliwr y chwarel
yn y 30au.
Yn ddiweddarach ar ôl yr Ail Ryfel Byd llwyddodd
triawd o dair chwaer i gipio'r wobr o dan yr enw Brethyn
Cartref yn yr Eisteddfod Genedlaethol y Drenewydd yn
1965 sef Eryl, Marian a Heulwen Morris. Roeddynt yn haeddu
clod bythgofiadwy yn hanes plant Baladeulyn yn y 50au.
Fel y dywed y Sais, 'self praise is no recommendation',
caf gyfle i roddi pwt bach o'm llwyddiant fy hunan yma,
wrth sôn am eisteddfodau, daeth tair gwahanol wobr
gyntaf i'm rhan mewn gwaith metel yn eisteddfodau Llanrwst
1951, Rhyl 1953, Ystrad Gynlais 1954 ac yn ail mewn cytadleuaeth
Celfyddyd Gain yn Eisteddfod Caernarfon 1959, ac yn 1956
daeth yr anrhydedd o ennill y 'Messenger's Award' i'm
rhan pan oeddwn yn dilyn cwrs hyfforddiant yn Ysgol Gofaint
Arian a Gemwaith yn Hockley, Birmingham.
[ Yn ôl i'r Top ]
Dim Trafnidiaeth 1925-27
Achlysur bythgofiadwy oedd cwymp y Ffordd Bost rhwng
Nantlle a Thalysarn yn 1925 i Dwll Chwarel Dorothea.
Digwyddodd hyn ddwywaith, er gwneud ffordd drwy Blasdy
Talysarn i osgoi y man gwan yn ymyl y twll. Diflannodd
y darn newydd hwn o'r ffordd i mewn i'r twll ar ôl
i fws naw o'r gloch yr hwyr, o eiddo Jim Jones Caernarfon,
fynd dros y fangre, er mawr waredigaeth i'r cyfryw rai
oedd ynddo ar eu taith yn ôl am Gaernarfon. Testun
diolchgarwch mawr iawn i ragluniaeth fu hyn am amser
maith wedyn i drigolion yr ardal.
O hyn ymlaen rhaid oedd i bob teithiwr o Nantlle, os
oedd am fynd o Nantlle i Gaernarfon, gerdded dwy filltir
i gwrdd â bws Jim Jones, neu un Mrs Evans, Liod,
i'r man terfynnol ger Pen y Bont Talysarn; ac os oedd
am deithio ar y trên, rhaid oedd cerdded chwarter
milltir ymhellach i orsaf rheilffordd Nantlle yn Nhalysarn.
Roedd pedair siop yn dibynnu ar eu nwyddau ar y pryd,
ynghyd â swyddfa'r post. Gallai'r postmon ddod
ar ei feic fel pawb arall a thramwy ar hyd y lein bach
oedd yn rhedeg y wageni llechi o chwareli Penyrorsedd,
Pen y Bryn a Dorothea a'u tynnu gan geffylau. Fe arhosai'r
postmon ym mhentref Drws y Coed yn ystod y dydd ar ôl
dosbarthu llythyrau yn y bore yn Nantlle ac yna eu casglu
o'r blwch post yn yr hwyr drwy'r pentref i Benygroes.
Cyfnod anhwylus oedd hwn i achosion cynhebryngau, a
digwyddodd amgylchiadau fel hyn ryw bedair gwaith pan
fu raid i'r cerbydau droi o Nantlle drwy Ddrws y Coed,
Betws Garmon, Waunfawr, Caeathro, Pontllyfni, i gyrraedd
mynwentydd Macpela, Penygroes a rhai Llanllyfni yn ôl
ac ymlaen fel bo'r angen.
Roedd yn ofynnol i ni fel disgyblion yn mynychu ysgol
y Cownti, Penygroes, gael beic i fynd a dod, neu gerdded
tair milltir a hanner, fel y byddai disgyblion yr oes
o'r blaen yn gorfod teithio ar bob tywydd. Bum am ddwy
flynedd yn beicio nes gwneud ffordd newydd trwy ochr
ddeheuol y Dyffryn, a chodwyd tair pont i groesi'r afonydd
rhwng y ddau bentref.
Rhaid oedd profi grym a chymhwyster y pontydd i ddal
y pwysau a ddisgwylid gan drafnidiaeth ar y pryd. Rhoddwyd
tair injian 'steam roller' arnynt i brofi nerth y pontydd
cyn gollwng trafnidiaeth drostynt. Ymhen blynyddoedd
wedyn roedd yn ofynnol cael eu hadgyfnerthu ymhellach
gan fod pwysau lorïau a bysiau wedi trymhau a'u
cyfyngu yn eu pwysau i nifer o dunelli.
[ Yn ôl i'r Top ]
Adloniant cyn 1939
Ar ddechrau'r 30au dechreuodd y dirwasgiad diwydiannol
drwy'r wlad yn gyffredinol, a chododd nifer y di-waith
i 2,000,000 yn ystod 1931 - 35; daeth partïon o
lowyr o dde Cymru i gasglu arian at eu bywoliaeth i Nantlle
a phentrefi eraill o'r Dyffryn. Cawsant wely a brecwast
mewn llawer cartref chwarelwr ac ynghanol nosweithiau
oer y Gaeaf roeddynt yn dal i ganu a chasglu y ceiniogau
yn eu capiau. Roedd rhai yn aelodau o Eglwys y Parchedig
Tom Nefyn yn y De ac yn fawr eu parch ohono.
Cyflog wythnosol y chwarelwr ar y pryd oedd £1.18.0
ac i ddyn wrth y dydd £1.15.0, efallai y codai'r
cyflog ar ddiwedd y mis i'r chwarelwr oedd yn trin y
llechi, i ryw £3 - £4, buan iawn y diflannai'r
bonws hwn rhwng teulu o 6 neu ragor.
Ond er yr holl dlodi roedd bechgyn ifanc Nantlle yn
creu eu hadloniant eu hunain. Y prif chwaraeon oedd dewis
timau pêl droed, criced a choetio, yn yr haf roedd
mynd mawr ar ddysgu nofio yn Llyn Nantlle, a mwynheid
y mabolgampau trwy gystadlu, rhedeg a neidio a thaflu
pwysau 14lb.
Diflannodd y cyfan erbyn heddiw, nid oes yma fechgyn
ifanc yn ymddiddori yn hyn o adloniant, ond hwyrach fod
cyfle i rai ohonynt berthyn i glwb pêl droed a
chael cyflog a chostau teithio.
Cofiaf fel y byddai'r Pasg yn dynesu fel y byddai'r
hysbysebion allan yn hysbysebu gornestion pêl droed
yn Nhalysarn, Penygroes a Rhos Isaf ac fel y byddai'r
timau yn talu swllt y pen o'u pocedi eu hunain am gael
ymuno. Daeth y Gwpan un tro i dîm Nantlle, dan
arweiniad y Capten Hywel Hughes (chwarelwr a ddaeth yn
weinidog Egwlys yr MC ar ôl gyrfa yn y Coleg),
gorchfygom dîm pêl droed ysgol ganolraddol
Penygroes yn y ffeinal ar gae Alun, Tal y Maes a chawsom
fedalau i bob un o chwaraewyr y tîm.
Ar ddydd Llun Diolchgarwch byddai'r bechgyn wedi casglu
eu ceiniogau i brynu pêl droed ledr newydd yn siop
Dafydd Sadler Penygroes a chael tun o 'dubbin' gan Dafydd
i'w daenu dros y lledr i'w ystwytho a'i gadw rhag ofer
lychu, y pleser mwyaf oedd cael mynd i'r cae pêl
droed a chael gêm rhwng y moddion pnawn a'r hwyr.
Dewisiwyd tîm o'r bechgyn unwaith i gynrychioli
Chwarel Penyrorsedd i chwarae mewn twrnameint cystadleuol
oddi mewn i furiau Plas Glynllifon. Roedd hyn ar ôl
diwrnod caled o waith yn y chwarel ac roeddym yn cystadlu
yn erbyn tîm Emlyn Jones o'r Bontnewydd, ond colli
1 - 0 a wnaethom ysywaeth a chael ein taflu allan o'r
ornest, er ein siom.
Fel y soniais eisoes roedd pob bachgen bron yn Nantlle
wedi dysgu nofio, nid oedd angen gwell pwll nofio na
Llyn Nantlle a deuai chwarelwyr hŷn i ymuno â ni
ar ôl gorffen eu diwrnod gwaith. Unwaith ar brynhawn
Sadwrn roedd tyrfa fawr wedi ymgasglu ar lan y Llyn i
groesawu a chynorthwyo Twm Ddall o'r Fron, oedd am nofio
ar draws Llyn Nantlle yng nghwmni'r ddau frawd Harry
Lloyd a Bob Rees Roberts oedd eisoes yn hen gyfarwydd â mwynhau
yr orchest hon. Roedd hefyd gwch wrth law i ddilyn y
nofwyr ar brynhawn tesog ym mis Gorffennaf a thyrfa fawr
o ddynion, merched a phlant wedi mwynhau yr amgylchiad
bythgofiadwy ym mywyd un mor boblogaidd â Twm Ddall.
[ Yn ôl i'r Top ]
Papur Wythnosol Clwb Ieuenctid Nantlle
Y Cyfnodydd
Pris 1c
Golygydd: Owen M Roberts
Ar ôl dychwelyd yn ôl i'w gynefin fro yn
Nantlle, a'i iechyd yn fregus ar ôl gwasanaethu
ei wlad hefo'r llu awyr yn y wlad hon a thramor yn India,
fe apwyntwyd fy nghefnder Owen Myfyr Roberts yn flaenor
yn Eglwys MC Baladeulyn, ac fe fu yn gefn a chymorth
mawr i'r achos yn y pentref nes daeth amser iddo ymfudo
i gymeryd gofal un neu ddau o gapeli eraill yn ystod
ei yrfa.
Roedd to o bobl ifanc newydd wedi codi erbyn hyn yn
Nantlle, wedi eu geni a'u magu yn ystod yr ail ryfel
byd ac ymgymerodd Myfyr â'r dasg o ffurfio Clwb
Ieuenctid Nantlle, gan olygu a chyhoeddi'n wythnosol
newyddion a gweithgareddau'r Clwb am 1c a rhifo'r tudalennau
a'u dyddio. Dyfynnaf o un copi o'm heiddo, Rhif 7 Dydd
Mercher Tachwedd 24 1954. Deallaf fod digon o newyddion
i wneud taflen. Mae'n ofidus na fuasai'r taflenni hyn
ar gof a chadw heddiw i glodfori'r diweddar Myfyr am
ei holl ymdrech a'i weithgarwch gyda'r Clwb Ieuenctid
yn Nantlle.
'Trech Gwlad nac Arglwydd'
Golygydd OM Roberts, Cynlas, Nantlle.
Dalen Ddyddiadur Chwefror 18fed
1951
Tywydd oer iawn er fod y gwynt o'r môr. Eira ar
ben y mynyddoedd. Sylwi ar y gwellt yn glasu a'r catkins
ar y Cyll, ychydig o'r adar yn canu. Rhaeadr y Rhydur
yn llathr arian, y papurau newydd yn sôn am y tywydd
anarferol o wlyb a gawn. Dau amaethwr yn teilo a codi
rwdins. Y Llyn yn wyllt iawn gyda cnotiau o ewyn gwyn
ar frig y tonnau ac un iâr ddŵr yn plymio
ac yn codi o hyd ac o hyd. Yr Wyddfa yn wen o'i choryn
i'w sawdl, dau wedi eu lladd wrth ei dringo yr wythnos
diwethaf.
Chwefror 19 1951
Eira oer drwy'r bore a chenllysg yn y pnawn ond cliriodd
yn gynnar a daeth yr haul i wenu. Roedd yr olygfa o Bont
y Bala yn debyg i ryw olygfa yn yr Yswistir. Y Llyn yn
lled dawel ac yn las, a'r mynyddoedd penau gwynion yn
edrych ar eu llun o gylch y glannau oherwydd nad oedd
y gwynt yn cyrchu cyrion y cylch.
Lliw arall oedd aur yr hesg ac fel y machludai'r haul,
cochai'r eira ar y mynyddoedd. Daeth biolidowcar ar ei
adain ddu, ryw hanner can troedfedd uwchben, gan hedeg
yn hamddenol tua'r llyn isa ac fel yn synhwyro fy mod
i odano, cyn cymeryd tro sydyn a newid ei gwrs. Roedd
yr afon yn llif mawr a'r dŵr yn aros ar y caeau.
[ Yn ôl i'r Top ]
Dyddiadur y Clwb
- Rhagfyr 3ydd Ymweliad Clwb y Capel Waunfawr
- Rhagfyr 9fed Gyrfa Chwist
[ Yn ôl i'r Top ]
Nodion o'r Nant
Nos Iau diwethaf, dan nawdd y Clwb Ieuenctid, cafwyd
darlith gan Mr W J Davies, (Gwilym Peris) Caernarfon.
Ei destun oedd Darluniau Llenyddol a'i amcan oedd creu
diddordeb yn yr ifanc at lenyddiaeth glasurol. Ymdriniodd â gweithiau
Thomas Hardy, Kate Roberts a'r Parchedig D Tegla Davies
ymysg eraill gan egluro yr hyn a geisiau yr awduron ei
gyfleu yn eu storïau. Yr oedd yn feistr ar ei bwnc,
a hyderwn iddo greu awydd yn rhai o'i wrandawyr i ddarllen
y llyfrau a ddarluniodd mor fyw iddynt.
Ymwelwyd â'r Clwb nos Wener gan aelodau o Glwb
Ieuenctid Bethel a chafwyd noson hynod o ddifyr. Clwb
Bethel a orfu yn y cwis, a hynny o hanner marc. Yn dilyn
y lluniaeth a baratowyd gan enethod y Clwb yn Nantlle,
cafwyd chwaraeon a dawnsio.
Yn yr oedfa nos Sul amlygodd yr Eglwys ei chydymdeimlad â Mr
David J Williams, 4 Glan Rhonwy, yn ei brofedigaeth o
golli ei chwaer.
Trist iawn gennym gofnodi marwolaeth sydyn Mrs T S Jones,
3 Victoria Terrace. Gwraig annwyl gyfeillgar a boneddigaidd
oedd Mrs Jones, ac yn caru yr achos ym Maladeulyn yn
fawr. Un o ffyddloniaid oedfa bore Sul a chwith fydd
gweld ei sedd yn wag.
Swper blasus a gafwyd i agor y Gymdeithas Lenyddol Nos
Fawrth, Tachwedd 16 1951 gyda chyfarfod amrywiaethol
yn dilyn. Cafwyd unawdau gan Glenys P Jones a Mr Huw
Jones ac adroddiadau gan Mr G O Jones. A mae cant namyn
un wedi ymaelodi yn y Gymdeithas eleni.
Ychydig a wyr fod i Eisteddfod Baladeulyn hanes sydd
yn mynd yn ôl i hanner olaf y ganrif ddiwethaf.
Mae yn ein meddiant dôn wedi ei gwneud erbyn cyfarfod
cystadleuol Capel Baladeulyn ym mis Mawrth 1874. Hefyd
y mae adroddiad o gyfarfod llenyddol Baladeulyn 1877
yn y Llyfrgell Genedlaethol gyda beirniadaethau y Parchedig
Evan Jones Caernarfon ar y gwahanol gystadlaethau.
[ Yn ôl i'r Top ]
Colofn y Beirdd
Wrth fynd drwy hen bapurau mewn llawysgrif deuthum ar
draws sypyn o englynion gyda beirniadaeth arnynt gan
Ioan Arfon. Casglwn mai cynhyrchion eisteddfodol ydynt,
a'u bod yn englynion bedd argraff i John neu Sion Hughes
a'i wraig Ann. Mae ysgrifen Ioan Arfon yn bur aneglur
mewn rhai mannau, ac felly ni fedrwn roi ei feirniadaeth
ar yr englyn buddugol. Dywed ei fod yn goethach ei iaith
heblaw fod ei syniadau yn fwy barddonol na'r gweddill.
I 'BP', pwy bynnag oedd, dyfarnodd y wobr ar air a chydwybod.
Casglaf innau (TAW) erbyn heddiw, mai dyma'r englyn
gan B.P ar ôl ymchwil i farwolaeth John Hughes
ac Ann ei wraig, mai fy hen hen daid oedd John Hughes
y Grafog, a brawd i Robert Hughes, Uwchlaw'r Ffynnon,
o deulu Bod Angharad, Llanwnda. Dyma'r englyn gwreiddiol
i goffau Ann Hughes:
O'r Grafog a gwir grefydd, - 'n llawn ei
Llon enaid, ysblennydd
Uwch ystŵr byd a chystudd
Hwyliodd Ann i oleu dydd B.P.
Ni anwyd dau mwy annwyl - o galon
I'w gilydd bob egwyl;
A'u horiau hyd eu harwyl
A gaed fel rhyw un dydd gŵyl
Tybed a wyr rhywun am englyn neu englynion i frodorion
o'r fro, byddent yn ddiddorol dros ben a byddem yn falch
o'u cyhoeddi yma. Dyma'r englynion o waith Carneddog
i Owen Francis a Bob Owen:
Owen Francis
Un gŵyl a mwyna'i galon, - brawd i Griff
Brodia graffus geinion
Hwn â'i reddf ry'r lleddf a'r llon
I lewyrch hen alawon
Bob Owen
Tanio bro wna eco acen - odlau
Ei huawdledd llawen
Adlais dda o'r Wynfa Wen
Yw bywiol gainc Bob Owen.
[ Yn ôl i'r Top ]
Y Clwb Ieuenctid
Mae'r côr, dan arweiniad Mr Harry Eddy, wrthi
yn prysur ddysgu darn o waith Syr Hugh Roberton 'All
in the April Evening' gogyfer ag Eisteddfod Baladeulyn.
Hefyd mae'n ymarfer carolau, gan y bwriedir mynd o gwmpas
y pentref oddeutu'r Nadolig i'w canu.
[ Yn ôl i'r Top ]
Eto o'r Gorffennol
Rwyf eisoes wedi dyfynnu y nodiadau a welwyd yn nyddiadur
Y Clwb gan fy nghefnder Myfyr. Mae hanes y creiriau a'r
hen arian yn ddiddorol dros ben yn hanes cylch Baladeulyn,
a diolchwn i Myfyr am ein hatgoffa yn ei ymchwil i ddiogelu
hanes ei ardal fabwysiedig.
Argraffwyd a chyhoeddwyd yn Swyddfa Addysg y Sir dros
Glwb Ieuenctid Nantlle.
Y Golygydd: Owen Myfyr Roberts
[ Yn ôl i'r Top ]
Hynafiaethwyr
Rwyf wedi dyfynnu tipyn o waith y Parchedigion William
Hobley, William R Ambrose a'm hen daid Owen J Hughes
Y Grafog, yn yr ychydig sylwadau am hynafiaethau Baladeulyn,
ond gan fod traethawd O J Hughes wedi mynd ar goll pan
drosglwyddodd y Parchedig Owen Jones, Bryn Eisteddfod,
Llandudno, ar Ebrill 6ed 1971, y cyfansoddiadau a'i feirniadaeth
i law ei gyd feirniad Gwalchmai, y cwestiwn a ofynnaf
wedyn yw i ble'r aeth yr ail draethawd, 'Un o Hil Rhodri'
o law Gwalchmai? Mae hyn wedi bod o ddirgelwch mawr i'w
deulu ers dros gan mlynedd a hanner o'r bron. Ceisiaf
roddi penawdau ei ysgrif ar 'Hynafiaethau a Chofiannau
Nant Nantlle' mewn cystadleuaeth yn Eisteddfod Gadeiriol
Penygroes ar Lun y Pasg 1871 fel a ganlyn:-
- Pennod 1. Rhagarweiniad Cyffredinol
- Pennod 2. Darnodiad o'r Lle
- Pennod 3. Enwau lleoedd o fewn y terfynau megis ffermydd, eu gwerth ardrethol, eu mesur a'u perchnogion
- Pennod 4. Cofnodion am ddechreuad a chynnydd yr achos crefyddol ymysg yr amrywiol enwadau, atgofion am yr hen weinidogion
- Pennod 5. Sylwadau ar natur creigiau a gweithied allan y cloddfeydd llechi, yr anturiaethwyr olynol yn y chwareli, a gwahanol fathau o lechi a neddir a'r gwerth a gynhyrchir
- Pennod 6. Atgofion am enwogion Nant Nantlle
- Pennod 7. Cloi a therfynnu y testun gyda hanesion yn codi oddi wrth y cysylltiadau blaenorol gan ymddyrchafu Nant Nantlle yn raddol nes cyrraedd y sefyllfa bresennol.
Hwyrach y daw y cyfan i'r amlwg rhyw ddydd, pwy a wyr?
[ Yn ôl i'r Top ]
Baladeulyn, Nant Nantlle Heddiw
Nid oes yr un chwarelwr yn byw ym mhentref Nantlle heddiw
ond byddaf weithiau yn dychmygu clywed swn eu traed yn
mynd a dod i Chwarel Penyrorsedd, yn fore a hwyr, lle
treuliais bedair blynedd cynnar o'm hoes, cyn dyfodiad
yr ail ryfel byd a'r wys i'r gad yn ei sgil fel llawer
llencyn arall o'r pentref a gefnodd ar ei wlad am chwe
blynedd o'u hoes, gan ddiolch i Ragluniaeth am waredigaeth,
ac agor drws gobaith newydd i'r dyfodol.
Yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf daeth mewnlifiad
o'r Saeson i drigo yn y pentref. Yn gyntaf sicrhau tai
haf oedd yr amcan, nes delo dydd eu hymddeoliad, ac erbyn
heddiw nid oes llawer o Gymraeg i'w glywed ar y stryd
fel cynt, ac nid oes ond cnewyllyn o blant yr hen wehelydd
sydd yma'n awr a'u gwreiddiau yn yr achos crefyddol,
mae'r estroniaid yn prysur or bwyso y Cymry Cymraeg.
Mae'r oes wedi newid yn gyfan gwbl ar ôl cyfnod
yr Ail Ryfel Byd lle cynt dim ond rhyw dri neu bedwar
oedd yn berchen ar gerbyd modur, ond heddiw mewn oes
fwy goludog fe welir cerbyd modur yn y ffordd bron o
flaen pob tŷ, ac mewn ambell dŷ, ddau neu dri
gan yr un teulu. Cludir eu plant ieuengaf o bentrefi
cyfagos i'r ysgol mewn cerbyd modur gan un o'r rhieni
i wneud y nifer i fyny rhag ofn i'r ysgol gau, oherwydd
nad oes digon o blant yn Nantlle i gadw'r ysgol yn agored.
Maent heddiw yn ddwyieithog, fel mewn amryw o ysgolion
sir. Cludir y plant hynaf yn rhad i ysgolion uwch, gan
fod y Pwyllgor Addysg yn talu'r gost.
Mae nifer y pensiynwyr yn cynyddu, ac maent yn awr yn
berchen cerdyn cludiad am ddim ar y bwsiau yng Nghymru,
a chan fod costau byw yn uchel mae mwy ohonynt yn dibynnu
ar y Weinyddiaeth Les i'w cynorthwyo.
Nid oes ym mhentref Nantlle yr un masnachdy na Swyddfa'r
Post, lle gynt y cofiaf yn amser fy magwraeth bump o
siopau a Phostfeistr, hefyd gwerthid glo, paraffin a
phetrol yn Bryncir House. Daeth llawer tro ar fyd i hanes
Plas Baladeulyn, lle newidiwyd perchnogion chwe gwaith
er pan adawodd teulu Mr a Mrs Stonor yn y dauddegau.
Erbyn heddiw, mae'r enw wedi newid i Trigonos, ac yn
eiddo i Grwp Cymunedol, ond cyn i'r cwmni yma sefydlu
yno fe adwaenid y Plas fel Canolfan Richard Wilson, i
gofio am y llun enwog o'r Wyddfa gan yr arlunydd o Lyn
Nantlle.
Mae 'Pwyllgor Newyddion Nantlle' wedi ei sefydlu yma
i gydweithio gyda Trigonos, er mwyn trafod fel grwp gweithredu
cymunedol Nantlle a chyhoeddant eu bwletin newyddion
i'w rannu drwy'r pentref o bryd i'w gilydd. I ddeilliaw
o hyn mae'r pwyllgor erbyn deall wedi partneru hefo'r
un math o bwyllgor yn Nhalysarn ac fe elwir y ddau heddiw
yn Bartneriaeth Talysarn a Nantlle. Disgwylir pethau
gwych i ddyfod o'r Bartneriaeth hon sydd yn brysur iawn
yn ymdrechu i ddatblygu adloniant y gymdogaeth. Hwyrach
y daw bywyd newydd i'r ardal ac y bydd llwyddiant a llewyrch
o'r newydd yn gwawrio ar y pentrefi yma sydd wedi bod
mewn bri, er y tlodi a fu yn y gorffennol, er pan ddarfu
oes y chwarelwr.
[ Yn ôl i'r Top ]
Rhestr o enwau'r Chwareli
Hoffwn restru yma enwau'r chwareli y byddem yn gwrando
ar eu hytgyrn rhybudd tanio ar ben yr oriau, hynny pan
fyddent mewn llawn oruchwyliaeth:
• Penyrorsedd
• Dorothea (a'r cloc mawr)
• Y Cilgwyn
• Y Fron a'r Foel
• Pen-y-Bryn
• Gallt Fedw
• Talysarn
• Nant y Fron
• Cors y Bryniau
Mae'r oll wedi distewi ers diwedd
yr ail ryfel byd 1939 - 1945 'a'r bechgyn a'u carodd a fudodd o'r fan, ysywaeth. [ Yn ôl i'r Top ]
|