Hanes Dyffryn Nantlle

Nantlle

 
 
 

Cerdd Dant

"Bu mwy o weithgarwch cyson ym maes cerdd dant yn Nyffryn Nantlle yn ystod yr ugeinfed ganrif nag a welwyd mewn unrhyw un o ranbarthau eraill yr hen Sir Gaernarfon," meddai’r Dr Aled Lloyd Davies yn ei Lyfr "Canrif o Gân II".

Y prif ddatgeiniaid o 1920 hyd at y cyfnod presennol oedd y Brodyr Francis, Llyfni Hughes a Gwennie Roberts.

Yn ein cyfnod ni (C20 hwyr - C21 cynnar) daeth Carys Puw, Glesni Jones a Pharti Lleu i gynnal y traddodiad.

Y Brodyr Francis

Dau frawd o Gwm Pennant oedd Griffith William Francis (1876-1936) ac Owen William Francis (1879-1936). Mudodd y teulu i’r Clogwyn Brwnt, Drws-y-coed, yna i’r Gelliffrydiau ac wedyn i bentref Nantlle.

Buont yn canu ar hyd a lled Cymru ac ym mhrif ddinasoedd Lloegr a byddai’r capeli a’r neuaddau yn llawn. Cymerasant ran yn un o’r rhaglenni radio cynharaf yn y Gymraeg a hynny o Ddulun, Mawrth 1927. Roeddent yn nodedig am iddynt boblogeiddio gwaith Eifion Wyn, Crwys, R. Williams Parry ac yn y blaen ac yn ôl Dr Aled Lloyd Davies mae lle i gredu mai hwy oedd yr enghraifft gynharaf o ganu penillion deulais yng Nghymru.

Y Brodyr Francis Nantlle

Dyffryn Nantlle: Paradwys y Bardd

  Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C Cascading Style Sheets (CSS) Dilys