Am dro yn Nhalysarn
Rhwng Penygroes a Thalysarn gwelir Caer Engan,
un o fryngaerau’r Brythoniaid. Mae ar y llaw
dde a thua dau gan llath o’r ffordd fawr.
Os ewch ymlaen am chwarter milltir a throi ar y chwith
oddi ar y ffordd fawr fe ewch ar hyd Ffordd Hyfrydle.
Rhif 56 oedd hen gartref Annant - chwarelwr wrth ei
alwedigaeth ond yr oedd hefyd yn adroddwr, hyfforddwr,
beirniad a bardd. Talodd R. Williams Parry deyrnged
iddo nid yn unig am ei ddawn ond hefyd am yr hyfforddiant
a dderbyniodd ganddo.
Ym mhen draw Ffordd Hyfrydle y mae'r Capel o’r
un enw. Yn y fan honno mae Ffordd yr Orsaf yn cychwyn
ac yno, yn Rhiwafon, Rhif 37, y gwelir llechen yn dynodi
mai yno y ganed R.
Williams Parry, Bardd yr Haf a’r Gaeaf, 1884-1956
(manylir ar hyn yn nhaflen Cymdeithas Gelfyddydau
Gogledd Cymru [Cyfres Teithiau Llenyddol] Rhif 11 -
Dyffryn Nantlle gan Dewi R. Jones). Ym mhen draw
Ffordd yr Orsaf y gwelir Cofeb Genedlaethol iddo a
gynlluniwyd gan R.L. Gapper. Mae’r rhan isaf
ohoni ar siâp coeden yn dynodi cysylltiad arbennig
R. Williams Parry â’r Lôn Goed yn
Eifionydd.
Awgrym Dewi R. Jones yn ei daflen oedd mynd ar droed
i weld cartrefi’r enwogion eraill yn Nhalysarn
a gadael y cerbyd yn y maes parcio sydd gyferbyn â’r
gofeb. Dyma’r drefn:
O’r gofeb mynd yn syth ymlaen i fyny’r
pentref heibio i Eglwys Sant Ioan. Bu Overdale, y pumed
tŷ ar y chwith, yn ei dro, yn gartref i Hywel
Cefni, Mary King Sarah a Morgan Griffith, y gweinidog.
Ymlaen wedyn ar hyd y Stryd Fawr nes cyrraedd y tŷ diwethaf
ar y chwith cyn Gwesty Dyffryn Nantlle, sef Neuadd
Frethyn neu Cloth Hall fel y’i gelwir. Dyma gartref
Gwilym R. Jones, a enillodd dair brif wobr Eisteddfod
Genedlaethol Cymru, y gadair, y goron a’r fedal
ryddiaith. Treuliodd bron i ddeugain mlynedd fel golygydd
Y Faner.
Ymlaen eto heibio i Gapel Salem ar y chwith a’r
ail dŷ o’r pen cyn yr allt bach neu Ffordd
Bryncelyn yw Glandwr, cartref W.J. Davies, ´y
gŵr yr oedd y ddrama yn ei waed a’i gyfansoddiad',
chwedl Dewi R. Jones.
Mymryn yn nes ymlaen ar hyd y ffordd y mae angen troi
i’r chwith eto ac i fyny Cavour Street at Gapel
Seion. Yma yn rhif 7 y ganed y Parchedig Idwal Jones
a ddaeth yn enwog drwy Gymru nid yn unig am ei bregethau
ond am ei sgyrsiau radio hollol wreiddiol a’i
nofelau. Ef oedd awdur y gyfres radio enwog SOS,
Galw Gari Tryfan.
I lawr yn ôl i waelod y teras ac ar y chwith
ar ben yr allt fe welir Y Capel Mawr a gysylltir ag
enw John Jones, yr heidiai pobl i wrando arno o bell
ac agos. Fe’i cyfrifir yn un o bregethwyr mwyaf
Cymru. Daeth yn 1823 i weithio i un o chwareli’r
dyffryn a phriodi â Fanny Edwards yn fuan wedyn.
Yr oedd hefyd yn hyddysg mewn cerddoriaeth ac ef a
gyfansoddodd y dôn Llanllyfni. Yr oedd yr heddychwr
mawr gyda George M.Ll. Davies a’i frawd J. Glyn
Davies (cyfansoddwr Fflat Huw Puw, ymysg pethau eraill)
yn ddisgynyddion iddo. |