Hanes Dyffryn Nantlle

Talysarn

 
 
 

R Williams Parry ~ 1884-1956

R Williams ParryUn o feirdd mawr Cymru sy'n adnabyddus am ei gerddi rhamantaidd cynnar - cafodd ei addysgu ym Mhrifysgolion Aberystwyth a Bangor.

Llun: R Williams Parry.

Magwyd y bardd Robert Williams Parry yn Nhalysarn, Dyffryn Nantlle. Roedd yn aelod o deulu llengar ac yn gefnder i T.H Parry Williams ac i Thomas Parry, a fu'n Brifathro Coleg Prifysgol Aberystwyth. Daeth i amlygrwydd i ddechrau pan enillodd y Gadair yn Eisteddfod Colwyn 1910 gyda'i awdl, Yr Haf.

Cychwynnodd astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth, ond gadawodd wedi dwy flynedd cyn graddio, a mynd i ddysgu mewn ysgolion elfennol yng Nghymru a Lloegr. Dychwelodd i'w yrfa academaidd dan arweiniad John Morris Jones ym Mhrifysgol Bangor, cyn dod yn athro Cymraeg a Saesneg yn Ysgol Brynrefail.

Gelwid R Williams Parry yn aml yn Fardd yr Haf wedi iddo gipio'r gadair gyda'i awdl. Mae'r gerdd yn enghraifft o'i waith yn ystod ei gyfnod rhamantaidd lle mae'n ymhyfrydu yn 'nhegwch y foment'. Daeth y cyfnod yma i ben gyda chychwyn y Rhyfel Byd Cyntaf, pan dreuliodd ddwy flynedd yng ngwersylloedd y fyddin yn Lloegr.

Ysgrifennodd rai o'i gerddi enwog, fel ei englynion coffa i Hedd Wyn, a sonedau fel Gadael Tir yn ystod y cyfnod yma.

Wedi'r rhyfel, dychwelodd i Gymru i ddysgu mewn nifer o ysgolion cyn dychwelyd i Brifysgol Bangor lle daeth yn ddarlithydd yn adran y Gymraeg. Priododd yn 1923 ac ymgartrefu ym Methesda.

Cyhoeddodd ddwy gyfrol o gerddi, Yr Haf a Cherddi Eraill (1924) a Cherddi'r Gaeaf (1952).

Ychydig o'i Gerddi

  »»  Clychau'r Gôg

  »»  Y Ddôl a aeth o'r Golwg

  »»  Y Llwynog

  Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C Cascading Style Sheets (CSS) Dilys