T.H. Parry Williams
~ 1887-1975
Fe'i adnabyddir fel 'bardd y gadair a'r goron
ac ysgolhaig' - cafodd ei addysgu yn Ysgol Rhyd
Ddu; Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth; Rhydychen;
Freiburg; a Sorbonne.
Llun: T.H. Parry Williams. Mab i ysgolfeistr yn Rhyd Ddu, Sir Gaernarfon oedd
Thomas Herbert Parry-Williams. Daeth yn adnabyddus
yng Nghymru pan enillodd y goron a'r gadair yn yr un
flwyddyn yn Eisteddfod Wrecsam yn 1912. Ail-adroddodd
y gamp yma dair blynedd yn ddiweddarach yn Eisteddfod
Bangor 1915.
Erbyn hyn mae llawer yn ei gofio gan lawer fel awdur
y gerdd Hon, ond roedd yn ysgrifwr ac ysgolhaig
nodedig hefyd.
Graddiodd yn y Gymraeg yn 1908 ac yna mewn Lladin
yn 1909 ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth, cyn mynd
ymlaen i astudio ieithyddiaeth gymharol ym Mhrifysgol
Rhydychen, Freiburg a'r Sorbonne ym Mharis.
Rhwng 1914 a 1919, roedd yn ddarlithydd yn
Adran y Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth, cyn ymddiswyddo
yn
ystod y Rhyfel Mawr oherwydd ei gredôau heddychlon.
Trodd ei gefn ar y celfyddydau ac aeth i astudio Meddygaeth
am gyfnod, a dylanwadodd hyn ar lawer o'i waith diweddarach,
er mai ei fro enedigol yn Eryri oedd y dylanwad mwyaf
ar ei waith.
Serch hynny, dychwelodd i Aberystwyth yn fuan wedyn
pan gafodd ei benodi i Gadair y Gymraeg yn y Brifysgol
ac yno y bu'n gweithio hyd ei ymddeoliad yn 1952.
Llun: T.H.
Parry Williams gyda'i feic modur 'KC 16' (16 Mai
1920) ©
Archifdy
Caernarfon, Gwasanaeth Archifau Gwynedd |
Cedwir pob hawl
Gwnaeth y soned yn fesur poblogaidd drwy ei farddoniaeth,
fel y gwnaeth ei gefnder, R.
Williams Parry, hefyd. Ond roedd T.H. Parry Williams
hefyd yn feistr ar yr ysgrif fer, a defnyddiai deitlau
annisgwyl weithiau fel Boddi Cath, Prynu
Conceri ac Appendicitis. Cyhoeddodd hefyd
gyfrolau ysgolheigaidd fel The English Element
in Welsh (1923) a sawl astudiaeth barddonol.
Bu farw yn 1975 yn 87 mlwydd oed, yn ei gartref yn
Aberystwyth.
Ychydig o'i Gerddi
»» Llyn y
Gadair
»» Yr Esgyrn Hyn |