Hanes byr Y Groeslon
Ardal amaethyddol oedd yma cyn i'r diwydiant llechi
ddod i fri a'r pentref agosaf yn Y Dolydd Byrion -
Dolydd erbyn heddiw. Yr oedd yno dafarn, gefail, barcdy
a thyrpeg a dyna paham mai yn y fan honno y codwyd
yr addoldy cyntaf, sef Brynrodyn.
Ond erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd
mwy o chwarelwyr yn Y Groeslon na gweithwyr ar y tir,
er bod rhai ohonynt yn dal i ffarmio neu yn cadw tyddyn.
Sonia Gilbert Williams mewn erthygl ar Chwarel y Cilgwyn
yn Yr Herald 1938 fel y byddid yn cario'r llechi ar
y dechrau mewn cewyll o bob ochr i ful neu geffyl a
merched yn gyffredin yn eu harwain i lawr y ffordd
heibio i Allt y Pill a thrwy gae Lloc, heibio i Lwyn
y Gwalch ac i lawr i'r Foryd i'w hallforio.
Cyn hynny cwmniau bychain yn defnyddio trosolion
yn unig a heb saethu oedd yn Chwarel y Cilgwyn. Dywedir
bod y Brenin Iorwerth 1af wedi aros yn Nhy Mawr Nantlle
yn 1283 a bod y to wedi ei doi â llechi o'r Cilgwyn.
Yn chwareli'r Cilgwyn, Penyrorsedd, Y Foel a Dorothea
y gweithiai'r rhan fwyaf o chwarelwyr Y Groeslon, felly
roedd ganddynt hwy gryn bellter o ffordd i'w cherdded
bob dydd.
Roedd dros fil o ddynion yn gweithio yn chwarel Penyrorsedd
ar un adeg.
Datblygodd y pentref yn sgil gorsaf drenau'r
LMS. Agorwyd yr orsaf hon ar Fedi 2 1867 ond yr oedd
rheilffordd
gul yma cyn hynny a âi o Nantlle i Gaernarfon
ac a agorwyd yn 1828.
Llun: Platfform
a Gorsaf Reilffordd Y Groeslon
Cludid copr a llechi mewn wagenni a dynnid
gan geffylau. Yn raddol, gyda dyfodiad bysiau, ceir
a loriau lleihaodd
y galw am y trên a chaewyd yr orsaf yn Rhagfyr
1964. Addaswyd y rheilffordd yn lôn ar gyfer
loriau gwaith ac yn ddiweddarach yn Lôn Eifion
ar gyfer beicwyr a cherddwyr.
Llun: Tren yng Ngorsaf Reilffordd
Y Groeslon
Efo
diddordeb mewn noddi tudalen? Cysylltwch efo ni
|