Sefydlwyd
y côr tua diwedd 1981, er mai parti canu ydoedd
yr adeg hynny yn cynnwys tua 8 aelod. Daeth Mrs Annwen
Hughes
at y côr fel arweinydd am gyfnod byr.
Ionawr
1982
Llwyddodd
Nerys Parry, un o'r aelodau gwreiddiol i ddarbwyllo
ei brawd yng nghyfraith sef Maldwyn Parry i ddod
atom fel arweinydd a hithau i fod yn is-arwenydd.
Dros dro (!!!) y daeth Maldwyn ar y dechrau - nes
i ni gael rhywun arall. ''Yma o hyd'' hefo ni mae
Maldwyn. Mae wedi ceisio ymddeol ddwy waith, a chawsom
swper ffarwelio iddo y tro cyntaf.
Yn
1986 yn Eistedfod Genedlaethol Abergwaun, Nerys oedd
yn ein harwain, yn absenoldeb Maldwyn, ac fe fuom
yn lwcus i gipio'r 3ydd wobr. Roedd 8 o gorau yn
y rhagbrawf, a dim ond tri yn cael mynd i'r llwyfan.
Loes mawr i ni oedd colli Nerys yn 1987.
Cyfeilyddion
Hywel
John Owen o'r Groeslon oedd ein cyfeilydd o 1982-1993.
Wedyn Marian Roberts o Lanystumdwy tan 1998, pryd
y cafodd anhwylder. Daeth Gareth Wyn Jones o Lanberis
i'r adwy, ac erbyn hyn Gareth yw ein cyfeilydd swyddogol.
Mae Mair Thomas, un o'r aelodau wedi gwneud gwaith
ardderchog fel is-arwenydd, hefyd Brenda Jones yn
ei thro.
Swyddogion
Presennol
Cadeirydd
- Nesta Jones. 01766 530614
Ysgrifennydd
- Enid Francis. 01286 880662
Trysorydd
- Avril Roberts. 01286 881129
Daw
yr aelodau o'r ardaloedd o gwmpas Dyffryn Nantlle.
Penygroes, Talysarn, Nantlle, Llanllyfni, Pantglas,
Llanaelhaiarn, Clynnog Fawr, Pontllyfni, Y Groeslon,
Bontnewydd, Caernarfon, Y Fron, a'r cyfeilydd o Lanberis.
Fel
parti canu gwerin a chanu ysgafn y buom yn perfformio
am flynyddoedd, ond erbyn hyn 'rydym yn Gôr
, gan fod o ddeutu 27 o aelodau gennym.
Fel
côr gwerin y byddwn yn cystadlu yn Y Genedlaethol.
Ar y cyfan ni fyddwn yn canu Cerdd Dant, ond yn ystod
y blynyddoedd, rydym wedi dysgu tri trefniant o waith
Selyf, ac wedi dod yn llwyddiannus droeon yn yr Eisteddfodau
lleol. Pluen fawr i ni oedd dod yn fuddugol yn erbyn
Meibion Dwyfor yn Eisteddfod Y Groeslon rai blynyddoedd
yn ôl!
Ar ôl
blynyddoedd o ymarfer yn festri Capel LLanllyfni,
'rydym erbyn hyn yn ymarfer yn Neuadd Goffa Penygroes
ar nos Lun.
Ein
prif bwrpas fel côr ydyw cefnogi Eisteddfodau,
mudiadau ac elusennau lleol, gan gael llawer iawn
o hwyl wrth wneud hynny.
Mae
ein harweinydd, wedi ennill y Rhuban glas ddwy waith
yn y Genedlaethol. Y tro cyntaf yn Llanelli yn 1962
ac wedyn yn Llanbedr-Pont-Steffan yn 1984. Bydd yn
cymryd rhan unigol yn y cyngherddau.
Rydym
yn canu amryw o osodiadau Maldwyn hefyd i alawon
gwerin. Rydym hefyd yn hoff iawn o ganeuon Ryan Davies
a Robat Arwyn, yntau wrth gwrs yn un o'r Dyffryn.
Uchafbwyntiau
1983 -
Gwneud tâp gyda Cwmni Flach.
1984 -
2il wobr yn Llanbedr.
1985 -
2il wobr yn Y Rhyl.
1986 -
3ydd yn Abergwaun.
1988 -
Ennill y wobr gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd
yn 1988 a hynny ar ddiwrnod pen-blwydd Maldwyn, a'r
gynulleidfa yn canu Pen-blwydd Hapus iddo.
1997 -
3ydd yn Y Bala.
1997 -
dod yn ail yn Innis.
1996
a 1998 - Dau gyntaf yn yr Ŵyl Ban
Geltaidd yn Tralee.
Yr
Enw
Ar ôl
hir bendroni, penderfynwyd trwy bleidlais ar yr enw
Lleisiau Mignedd gan fod Mignedd yn enw ar un o fynyddoedd
yr ardal.
Clywed
Mae CD
gan y côr ar gael ar label Sain.
Dilynnwch
y
linc yma i wefan Na-Nog am
ragor o wybodaeth ac / neu i brynu. Newyddion Diweddaraf
»» Arweinydd poblogaidd yn ymddeol wedi 24 mlynedd o wasanaeth |