Diogelu
hen fynwent Bara Caws ~ 2008
O'r diwedd mae giât
wedi ei osod ar fynedfa i hen fynwent Bara Caws, a
chynlluniau ar
y gweill i'w thacluso.
Mae'r hen fynwent yma ar ganol pentref Llanllyfni wedi bod yn destun llawer ymchwil
i geisio darganfod y perchennog, ond hyd yn hyn, ofer
fu pob ymdrech.
Yn dilyn cyfarfod cyhoeddus
yn Llanllyfni ddwy flynedd yn ôl sefydlwyd grŵp i ymchwilio,
ond ar ôl cysylltu â nifer o gysylltiadau a hyd yn
oed ceisio cofrestru'r tir yn y gofrestra cyhoeddus,
aflwyddiannus fu'r ymdrechion.
Dywed y cynghorydd O.P.
Huws "Mae'n amlwg nad oes neb mewn gwirionedd yn hawlio perchnogaeth, felly mae'r
Cyngor Cymuned a Menter Llyfni wedi cyfrannu arian
tuag at ddiogelu'r hen fynwent, ond bydd rhaid dibynnu
ar wirfoddolwyr i neud y gwaith clirio." Y bwriad yw cloi'r giât gan osod arwydd gyda chyfarwyddyd ynglŷn â lleoliad
yr allwedd, a hefyd osod llechan i adrodd rhywfaint
o
hanes yr hen fynwent.
Ar y diwrnod clirio daethpwyd
o hyd i garreg fedd un Sarah Roberts o Lanllyfni a
gladdwyd yn y flwyddyn 1700, felly mae hanes y fynwent
yn mynd yn ôl y bell iawn. Dywed rhai bod yr hen Ddoctor
Mynydd, ac un o frodyr Francis wedi eu claddu yno hefyd:
wrth glirio bydd modd cofrestru'r beddi.
Os oes unrhyw un o ddefnyddwyr
nantlle.com â gwybodaeth neu hanesyn, buasai OP Huws
yn falch iawn o glywed gennych ar 01286 881176.
Bwriedir cynnal cyfarfod
yn y fynwent ar ôl clirio, i adrodd rhywfaint o'i hanes
i'r pentrefwyr a phlant yr Ysgol
|